Anifail - Wicipedia
Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Anifail
Enghraifft o:
tacson
, first-order class, organebau yn ôl enw cyffredin
Math
heterotroph,
organeb byw
Safle tacson
teyrnas
Rhiant dacson
Apoikozoa
Dechreuwyd
Mileniwm 666.
CC
Dynodwyr
Freebase
/M/0jbk
Thesawrws y BNCF
294
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Anifeiliaid
Dosbarthiad gwyddonol
Parth:
Eukaryota
Teyrnas:
Animalia
Linnaeus
, 1758
Ffyla
Is-deyrnas
Parazoa
Porifera
(sbyngau)
Is-deyrnas
Eumetazoa
Placozoa
Radiata
Cnidaria
(slefrod môr, cwrelau, ayyb.)
Ctenophora
(slefrod cribog)
Bilateria
Orthonectida
Rhombozoa
Acoelomorpha
Chaetognatha
(saethlyngyr)
Uwchffylwm
Deuterostomia
Chordata
fertebratau
ayyb.)
Hemichordata
(mes-lyngyr)
Echinodermata
(sêr môr,
draenogod môr, ayyb.)
Xenoturbellida
Uwchffylwm
Ecdysozoa
Kinorhyncha
Loricifera
Priapulida
Nematoda
(llyngyr crynion)
Nematomorpha
Onychophora
(onychofforiaid)
Tardigrada
(eirth dŵr)
Arthropoda
pryfed
cramenogion
corynnod
ayyb.)
Uwchffylwm
Platyzoa
Platyhelminthes
(llyngyr lledog)
Gastrotricha
Rotifera
(rhodfilod)
Acanthocephala
Gnathostomulida
Micrognathozoa
Cycliophora
Uwchffylwm
Lophotrochozoa
Sipuncula
(sipwncwlidau)
Nemertea
Phoronida
Bryozoa
(bryosoaid)
Entoprocta
Brachiopoda
(braciopodau)
Mollusca
(molysgiau)
Annelida
(abwydod ayyb.)
Echiura
Organebau amlgellog
ewcaryotig
yn y
deyrnas fiolegol
Animalia
yw anifeiliaid (a elwir hefyd yn wyddonol yn
Metazoa
). Gydag ychydig eithriadau, mae anifeiliaid yn bwyta deunydd organig, yn
anadlu ocsigen
, yn gallu symud, atgenhedlu'n rhywiol, a mynd trwy gyfnod ontogenetig lle mae eu corff yn cynnwys sffêr gwag o
gelloedd
, y blastula, yn ystod datblygiad embryonig. Mae dros 1.5 miliwn o
rywogaethau
o anifeiliaid byw wedi’u disgrifio'n wyddonol— ac mae tua miliwn ohonynt yn
bryfed—
, ond amcangyfrifir bod cyfanswm o dros 7 miliwn o rywogaethau o anifeiliaid. Mae hyd anifeiliaid yn amrywio o 8.5 micrometr (0.00033 mod) i 33.6 metr (110 tr). Yr astudiaeth o anifeiliaid yw
sŵoleg
Pan yn siarad yn gyffredinol am anifeiliaid, nid yw'n cynnwys
bodau dynol
yn aml, ond mewn gwirionedd mae dyn yn anifail, hefyd.
Yn ystod y
cyfnod Cambriaidd
yr ymddangosodd y
ffylwm
anifail, a hynny oddeutu 542 miliwn o flynyddoedd yn ôl; gwelwn hyn yn y dystiolaeth o
ffosiliau
o'r cyfnod. Rhennir y grwp 'anifeiliaid' yn isgrwpiau, gan gynnwys:
adar
mamaliaid
amffibiaid
ymlusgiaid
pysgod
pryfaid
O ran dosbarthiad, mae'r rhan fwyaf o rywogaethau o anifeiliaid yn byw mewn
Bilateria
(hy anifeiliaid gyda chymesured dwyochr), ac yn cynnwys y
protostomau
, sy'n cynnwys
infertebratau
megis
nematodau
arthropodau
, a
molysgiaid
, a'r deuterostomau, sy'n cynnwys yr
echinodermau
a'r
cordadau
, gyda'r olaf yn ffylwm o anifeiliaid sy'n cynnwys y
fertebratau
. Roedd ffurfiau bywyd a ddehonglir fel anifeiliaid cynnar yn bresennol ym biota Ediacaraidd y
Cyn-Gambriaidd
diweddar. Daeth llawer o
ffyla
anifeiliaid modern yn amlwg yn y
cofnod ffosil
fel rhywogaethau morol yn ystod y ffrwydrad Cambriaidd, a ddechreuodd tua 542 miliwn o flynyddoedd yn ôl. mae 6,331 o grwpiau o
enynnau
sy'n gyffredin i bob anifail byw wedi'u cofnodi; gall y rhain fod wedi codi o un hynafiad cyffredin a oedd yn byw
650 miliwn
o flynyddoedd
cyn y presennol
(CP).
Yn hanesyddol, dosbarthodd Aristotle anifeiliaid i'r rhai â gwaed a'r rhai heb waed. Creodd
Carl Linnaeus
y dosbarthiad biolegol hierarchaidd cyntaf ar gyfer anifeiliaid ym 1758 gyda'i
Systema Naturae
, ac ehangwyd gan
Jean-Baptiste Lamarck
i 14
ffylwm
erbyn 1809. Ym 1874, rhannodd
Ernst Haeckel
y deyrnas anifeiliaid i'r Metasoa amlgellog (sy'n
gyfystyr
bellach ag
Animalia
) a'r
Protozoa
organebau ungellog
nad oeddent bellach yn cael eu hystyried yn anifeiliaid. Yn y cyfnod modern, mae dosbarthiad biolegol anifeiliaid yn dibynnu ar dechnegau uwch, megis ffylogeneteg moleciwlaidd, sy'n effeithiol wrth ddangos y berthynas
esblygiadol
rhwng y gwahanol
tacsa
Mae
bodau dynol yn
defnyddio llawer iawn o rywogaethau o anifeiliaid i'w ddibenion a'i bwrpas ei hun, megis ar gyfer bwyd (gan gynnwys
cig
llaeth
, ac wyau), ar gyfer deunyddiau (fel
lledr
sidan
gwlân
), fel
anifeiliaid anwes
, ac fel anifeiliaid gwaith gan gynnwys ar gyfer cludo. Defnyddiwyd cŵn i hela, yn ogystal ag adar ysglyfaethus, tra bod llawer o anifeiliaid daearol a dyfrol yn cael eu hela ar gyfer chwaraeon. Mae anifeiliaid wedi ymddangos mewn celf o'r amseroedd cynharaf ac yn cael sylw mewn mytholeg a chrefydd.
Mae'r
hwiangerdd
Gymraeg
Pais Dinogad
yn nodi llawer o anifeiliad oedd yn cael eu hela gan dad y plentyn:
Peis dinogat e vreith vreith (Pais Dinogad sydd fraith, fraith,)
o grwyn balaot ban wreith (O groen y
bela
y mae'i waith)
Geirdarddiad
golygu
golygu cod
Benthyciwyd y gair Cymraeg
anifail
o'r Lladin animalia, o bosib yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Daw
animalia
o'r Lladin
animalis
, sy'n golygu 'gydag anadl' neu 'gydag enaid' hy 'bod yn fyw'.
Mae'r diffiniad biolegol yn cynnwys holl aelodau'r deyrnas Animalia. Ar lafar defnyddir y term
anifail
yn aml i gyfeirio at unrhyw anifail nad yw'n fod dynol.
Paentiad o Ogof Lascaux: gwartheg (
Bos primigenius),
ceffylau a cheirw
Nodweddion
golygu
golygu cod
Mae anifeiliaid yn unigryw oherwydd bod pelen celloedd yr embryo cynnar (1) yn datblygu'n bêl wag neu'n blastwla (2).
Mae gan anifeiliaid sawl nodwedd sy'n eu gosod ar wahân i bethau byw eraill. Mae anifeiliaid yn
ewcaryotig
ac yn
organebau amlgellog
10
Yn wahanol i blanhigion ac
algâu
, sy'n cynhyrchu eu maetholion eu hunain,
11
mae anifeiliaid yn heterotroffig,
10
12
yn bwydo ar ddeunydd organig ac yn ei dreulio'n fewnol.
13
Gydag ychydig iawn o eithriadau, (enghraifft;
Henneguya zschokkei
14
) mae anifeiliaid yn
resbiradu yn aerobig
15
Mae pob anifail yn symudol
16
(yn gallu symud eu cyrff yn ddigymell) yn ystod rhan neu'r cyfan o'u
cylch bywyd
, ond mae rhai anifeiliaid, megis
sbyngau
cwrelau
, cregyn gleision a
chregyn llong
(neu gwyran), yn dod yn ddigoes tua diwedd eu bywydau. Mae'r blastula yn gyfnod yn y datblygiad embryonig sy'n unigryw i anifeiliaid,
17
(er ei fod wedi'i golli mewn rhai) gan ganiatáu gwahaniaethu celloedd i feinweoedd ac organau arbenigol, cymhleth.
Strwythur
golygu
golygu cod
Mae pob anifail yn cynnwys celloedd, wedi'u hamgylchynu gan fatrics allgellog (
extracellular matrix
) sy'n cynnwys
colagen
a glycoproteinau elastig.
18
Yn ystod datblygiad, mae matrics allgellog anifeiliaid yn ffurfio fframwaith cymharol hyblyg lle gall celloedd symud o gwmpas ac ad-drefnu eu hunain, gan ei gwneud yn bosibl ffurfio strwythurau cymhleth. Gall y ffurfiau hyn fod o
galch
ee strwythurau fel cregyn,
esgyrn
, a sbigylau sbwng.
19
Mewn cyferbyniad, mae celloedd organebau amlgellog eraill (algae, planhigion a ffyngau'n bennaf) yn cael eu dal yn eu lle gan gellfuriau, ac felly'n dibynnu ar dyfiant cynyddol.
20
Mae celloedd anifeiliaid yn unigryw ac yn meddu ar y cyffyrdd cell (
cell junctions
) elwir yn gyffyrdd tynn, cyffyrdd bwlch, a desmosomau.
21
Gydag ychydig iawn o eithriadau - yn arbennig, y sbyngau a'r placozoans - mae cyrff anifeiliaid yn gymysgedd o wahanol
feinweoedd
22
gan gynnwys
cyhyrau
, sy'n galluogi symudiad, a meinweoedd nerfol, sy'n trosglwyddo signalau ac yn cydlynu'r corff. Yn nodweddiadol, mae yna hefyd
siambr dreulio
fewnol gyda naill ai un agoriad (yn Ctenophora, Cnidaria, a llyngyr lledog) neu ddau agoriad (yn y rhan fwyaf o bilateriaid), y ceg a'r anws.
23
Atgynhyrchu a datblygu
golygu
golygu cod
Mae
atgenhedlu rhywiol
bron yn gyffredinol mewn anifeiliaid, fel y
gweision neidr
hyn.
Mae bron pob anifail yn defnyddio rhyw fath o
atgenhedlu rhywiol
24
Cynhyrchant gametau haploid trwy
feiosis
; mae'r gametau symudol llai yn sbermatosoa a'r gametau ansymudol mwyaf yw ofa.
25
Mae'r rhain yn asio i ffurfio
sygotau
26
sy'n datblygu trwy
mitosis
yn sffêr gwag, a elwir yn blastwla. Mewn sbyngau, mae larfa blastula yn nofio i leoliad newydd, yn glynu wrth wely'r môr, ac yn datblygu'n sbwng newydd.
27
Yn y rhan fwyaf o grwpiau eraill, mae'r blastula yn cael ei aildrefnu'n fwy cymhleth.
28
Mae'n ymweinio (o'r gair 'gwain') yn gyntaf, i ffurfio gastrwla gyda siambr dreulio a dwy haen germ ar wahân, ectoderm allanol ac endoderm mewnol.
29
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae trydedd haen germ, y mesoderm, hefyd yn datblygu rhyngddynt.
30
Yna mae'r haenau germ hyn yn gwahaniaethu i ffurfio meinweoedd ac organau.
31
Mae achosion mynych o baru gyda pherthynas agos (yn ystod atgenhedlu rhywiol) yn gyffredinol yn arwain at iselder mewnfridio o fewn poblogaeth ac yn niweidiol.
32
33
Mae anifeiliaid wedi datblygu nifer o fecanweithiau ar gyfer osgoi mewnfridio agos (neu
llosgach
).
34
Mae rhai anifeiliaid yn gallu
atgenhedlu anrhywiol
, sy'n aml yn arwain at glôn genetig y rhiant. Gall hyn ddigwydd trwy tmddarnio; egino, megis yn
Hydra
cnidariaid
eraill; neu parthenogenesis, lle cynhyrchir wyau ffrwythlon heb baru, megis mewn
pryfed gleision
(affid).
35
36
Ecoleg
golygu
golygu cod
Mae
ysglyfaethwyr
, fel y
gwybedog glas aelwyn
hwn (
Ficedula superciliaris
), yn bwydo ar anifeiliaid eraill ee pryfaid
Mae anifeiliaid yn cael eu categoreiddio i
grwpiau ecolegol
yn dibynnu ar sut y maent yn cael bwyd neu'n bwyta deunydd organig megis
cigysyddion
llysysyddion
hollysyddion
detritivatores
37
pharasitiaid
38
Mae'r rhyngweithio rhwng anifeiliaid yn ffurfio gweoedd bwyd cymhleth. Mewn rhywogaethau cigysol neu hollysol, mae
ysglyfaethwr
yn bwydo ar
organeb
arall (a elwir yn
ysglyfaeth
).
39
Mae'r pwysau parhaus rhwng yr ysglyfaethwr a'i ysglyfaeth yn arwain at gystadleuaeth esblygiadol gan arwain at wahanol addasiadau yng nghyrff yr anifeiliaid hyn.
40
41
Mae bron pob ysglyfaethwr amlgellog yn anifail.
42
Mae rhai defnyddwyr yn defnyddio nifer o ddulliau; er enghraifft, mewn gwenyn meirch parasitaidd, mae'r larfa'n bwydo ar feinwe byw y gwesteiwr, gan eu lladd yn y broses,
43
ond mae'r oedolion yn bwyta neithdar o flodau, yn bennaf.
44
Gall fod gan anifeiliaid eraill ymddygiad bwydo penodol iawn, fel
crwban Môr Gwalchbig
sy'n bwyta
sbyngau
'n bennaf.
45
Mae'r rhan fwyaf o anifeiliaid yn dibynnu ar y biomas a'r egni a gynhyrchir gan blanhigion trwy
ffotosynthesis
. Mae
llysysyddion
yn bwyta deunydd planhigion yn uniongyrchol, tra bod
cigysyddion
, ac anifeiliaid eraill ar lefelau troffig uwch fel arfer yn ei gaffael yn anuniongyrchol trwy fwyta anifeiliaid eraill. Mae anifeiliaid yn ocsideiddio
carbohydradau
lipidau
proteinau
, a biomoleciwlau eraill i ddatgloi egni cemegol ocsigen moleciwlaidd,
46
sy'n caniatáu i'r anifail dyfu a chynnal prosesau biolegol megis
ymsymudiad
47
48
49
Mae anifeiliaid sy'n byw yn agos at fentiau hydrothermol a diferion oer ar wely'r môr tywyll yn bwyta deunydd organig
archaea
a bacteria a gynhyrchir yn y lleoliadau hyn trwy chemosynthesis (trwy ocsideiddio cyfansoddion anorganig, fel hydrogen sylffid).
50
Esblygodd anifeiliaid yn y môr yn wreiddiol. Cytrefodd llinachau o arthropodau'r tir tua'r un adeg â phlanhigion tir, yn ôl pob tebyg rhwng 510 a 471 miliwn o flynyddoedd yn ôl (
CP
) yn ystod y Cyfnod Cambriaidd Diweddar neu'r
Ordofigaidd Cynnar
51
Dechreuodd
fertebratau
fel y pysgodyn asgellog
Tiktaalik
symud i'r tir yn y
Defonaidd hwyr
, tua 375 miliwn CP.
52
53
Mae anifeiliaid, bellach, wedi meddiannu bron pob un o
gynefinoedd
a microgynefinoedd y ddaear, gan gynnwys dŵr hallt, fentiau hydrothermol, dŵr croyw, ffynhonnau poeth, corsydd, coedwigoedd, porfeydd, anialwch, aer, a thu mewn i anifeiliaid, planhigion, ffyngau a chreigiau.
54
Fodd bynnag, nid yw anifeiliaid yn gallu goddef gwres yn arbennig o dda; ychydig iawn ohonynt sy'n gallu goroesi ar dymheredd cyson uwchlaw 50 °C (122 °F).
55
Ac ar ochr arall y geiniog, dim ond ychydig iawn o rywogaethau o anifeiliaid (
nematodau
'n bennaf) all fyw yn niffeithdiroedd oer mwyaf eithafol
Antarctica
cyfandirol.
56
Amrywiaeth
golygu
golygu cod
morfil glas
yw'r anifail mwyaf sydd erioed wedi byw; yma gwelir mam a'i phlentyn.
Maint
golygu
golygu cod
morfil glas
Balaenoptera musculus
) yw'r anifail mwyaf sydd erioed wedi byw, gan bwyso hyd at 190
tunnell
ac yn mesur hyd at 33.6 metr (110 tr) o hyd. Yr anifail tir mwyaf sy'n bodoli yw'r eliffant llwyni, Affricanaidd (
Loxodonta africana
), sy'n pwyso hyd at 12.25 tunnell
57
ac yn mesur hyd at 10.7 metr (35 tr) o hyd.
57
Yr anifeiliaid daearol mwyaf a fu byw erioed oedd y deinosoriaid sauropod titanosaur fel yr
Argentinosaurus
, a allai fod wedi pwyso cymaint â 73 tunnell.
58
Mae sawl anifail yn feicrosgopig; nid yw rhai Myxozoa (parasitiaid gorfodol o fewn y Cnidaria) byth yn tyfu'n fwy nag 20
µm
59
ac nid yw'r
Myxobolus shekel
yn fwy na 8.5 µm pan fydd wedi tyfu'n llawn.
60
Niferoedd a chynefinoedd
golygu
golygu cod
Mae’r tabl a ganlyn yn rhestru amcangyfrif o’r niferoedd o rywogaethau sy’n bodoli ar gyfer y grwpiau anifeiliaid sydd â’r niferoedd mwyaf o rywogaethau,
61
ynghyd â’u prif gynefinoedd (daearol, dŵr croyw,
62
a morol),
63
a byw’n rhydd neu ffyrdd parasitig o fyw.
64
Mae'r amcangyfrifon o rywogaethau a ddangosir yma yn seiliedig ar niferoedd a ddisgrifir yn wyddonol; mae amcangyfrifon llawer mwy wedi'u cyfrifo yn seiliedig ar wahanol ddulliau o ragfynegi, a gall y rhain amrywio'n fawr. Er enghraifft, disgrifiwyd tua 25,000–27,000 o rywogaethau o nematodau, tra bod amcangyfrifon cyhoeddedig o gyfanswm nifer y rhywogaethau nematodau yn cynnwys 10,000–20,000; 500,000; 10 miliwn; a 100 miliwn.
65
Gan ddefnyddio patrymau o fewn yr hierarchaeth dacsonomig, cyfrifwyd bod cyfanswm y rhywogaethau anifeiliaid—gan gynnwys y rhai nad ydynt wedi’u disgrifio eto—tua 7.77 miliwn yn 2011.
66
67
Phylwm
Enghraifft
Nifer of
Rywogaethau
Ar y Ddaear
Yn y Môr
Dŵr
Croyw
Byw'n
Rhydd
Parasitig
Anelidau
17,000
61
Ie (pridd)
63
Ie
63
Ie
62
Ie
400
64
Arthropodau
1,257,000
61
1,000,000
(pryfaid)
68
>40,000
(Malac-
ostraca)
69
94,000
62
Ie
63
>45,000 (heb gynnwys parasitiaid)
64
Bryozoa
6,000
61
Ie
63
60–80
62
Ie
Cordogau
>70,000
61
70
23,000
71
13,000
71
18,000
62
9,000
71
Ie
40
(cat-fôr)
72
64
Cnidaria
16,000
61
Ie
63
Ie (few)
63
Ie
63
>1,350
(Myxozoa)
64
Echinodermau
7,500
61
7,500
61
Ie
63
Molysgau
85,000
61
107,000
73
35,000
73
60,000
73
5,000
62
12,000
73
Ie
63
>5,600
64
Llyngyr crwn
25,000
61
Ie (pridd)
63
4,000
65
2,000
62
11,000
65
14,000
65
Llyngyr lledog
29,500
61
Ie
74
Ie
63
1,300
62
Ie
63
3,000–6,500
75
>40,000
64
4,000–25,000
75
Rhodfilod
2,000
61
>400
76
2,000
62
Ie
Sbwng
10,800
61
Ie
63
200-300
62
Ie
Ie
77
Cyfanswm y rhywogaethau (yn 2013): 1,525,728
61
Tarddiad esblygiadol
golygu
golygu cod
Dickinsonia costata
o'r biota Ediacaran (c. 635–542 miliwn o flynyddoedd
yn ôl
) yw un o'r rhywogaethau anifeiliaid hysbys cynharaf.
78
Mae'r
ffosilau
cyntaf a allai gynrychioli anifeiliaid yn ymddangos yng nghreigiau 665-miliwn oed Ffurfiant Trezona yn
Ne Awstralia
Mae'n debyg mai sbyngau
cynnar yw'r ffosilau hyn.
79
Mae anifeiliaid i'w cael mor bell yn ôl â'r biota Ediacaran, tua diwedd y
Cyn-Gambriaidd
, ac efallai ychydig yn gynharach. Roedd amheuaeth ers tro a oedd y ffurfiau bywyd hyn yn cynnwys anifeiliaid,
80
81
82
ond mae darganfod
colesterol
lipid anifeiliaid mewn ffosilau
Dickinsonia
yn cadarnhau hyn.
78
Credir bod anifeiliaid wedi tarddu o dan amodau
ocsigen
isel, sy'n awgrymu eu bod yn gallu byw'n gyfan gwbl trwy resbiradaeth anaerobig, ond wrth iddynt arbenigo mewn metaboledd
aerobig
daethant yn gwbl ddibynnol ar ocsigen yn eu hamgylcheddau.
83
Mae
Anomalocaris canadensis
yn un o'r llu o rywogaethau o anifeiliaid a esblygodd yn y
ffrwydrad Cambriaidd
, gan ddechrau tua 542 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ac a ddarganfuwyd yng ngwâu ffosil y siâl Burgess.
Ymddangosodd llawer o
ffyla
o anifeiliaid am y tro cyntaf yn y cofnodion ffosil yn y
ffrwydrad Cambriaidd
, gan ddechrau tua 542 miliwn o flynyddoedd yn ôl, mewn gwelyau fel siâl Burgess. Ymhlith y ffyla sy'n bodoli yn y creigiau hyn mae
molysgiaid
braciopodau
, onychophorans,
Arafsymudwr
(y tardigrades),
arthropodau
echinodermau
a'r hemichordatiaid, ynghyd â nifer o ffurfiau a
ddifodwyd
megis yr
Anomalocaris
rheibus. Fodd bynnag, gall sydynrwydd y digwyddiad fod oherwydd fod y cofnod
ffosil
yn wallus, yn hytrach na bod yr holl anifeiliaid hyn wedi ymddangos ar yr un pryd.
84
85
86
87
Ffylogeni
golygu
golygu cod
Mae anifeiliaid yn fonoffyletig, sy'n golygu eu bod yn deillio o hynafiad cyffredin. Mae anifeiliaid yn chwaer i'r Choanoflagellata ac maent yn ffurfio'r Choanozoa.
88
Mae gan yr anifeiliaid mwyaf sylfaenol, y
Porifera
, Ctenophora,
Cnidaria
, a Placozoa, gynlluniau corff sydd heb gymesuredd dwyochrog. Mae eu perthynas yn dal i fod yn destun dadl; gallai'r chwaer grŵp i bob anifail arall fod yn Porifera neu'r Ctenophora,
89
sydd â diffyg genynnau hox, sy'n holl bwysig wrth ddatblygu cynllun y corff cyfan.
90
Mae'r goeden ffylogenetig (o'r prif linachau yn unig) yn dynodi tua sawl miliwn o flynyddoedd yn ôl ( mya ) y holltodd y llinachau.
91
92
93
94
95
Anifeiliaid nad ydynt yn ddwyochrog
golygu
golygu cod
Mae rhai nad ydynt yn ddwyochrog (o ran cymesuredd) yn cynnwys
sbyngau
(canol) a
chwrelau
(cefndir).
Mae gan nifer o anifeiliaid ddiffyg cymesuredd dwyochrog ac ymhlith y rhain, mae'n debyg bod y sbyngau (Porifera) wedi dargyfeirio gyntaf, gan gynrychioli'r ffylwm anifail hynaf.
96
Nid ydynt yn
organebau
cymhleth, fel y rhan fwyaf o ffyla eraill;
97
ceir amrywiaeth yn y math o gelloedd, ond yn y rhan fwyaf o achosion nid ydynt wedi'u trefnu'n feinweoedd gwahanol.
98
Maent fel arfer yn bwydo trwy dynnu dŵr trwy fandyllau.
99
Dwyochredd (Bilateria)
golygu
golygu cod
Mae'r anifeiliaid sy'n weddill, y mwyafrif helaeth—yn cynnwys rhyw 29 ffyla a thros filiwn o rywogaethau—yn ffurfio
cytras
clade
), sef y
Bilateria
. Mae'r corff yn driploblastig, gyda thair haen o germ sydd wedi'u datblygu'n dda, ac mae eu meinweoedd yn ffurfio organau gwahanol. Mae gan y siambr dreulio ddau agoriad, ceg ac anws, a cheir ceudod corff mewnol, coelom neu ffug-goelom. Mae gan anifeiliaid sydd â'r cynllun dwyochrog cymesur hwn i'w corff y gallu i symud, pen blaen (
anterior
), a phen ôl (
posterior
) yn ogystal â chefn (
dorsal
) a bol (
ventral
); felly y mae ganddynt hefyd ochr dde ac ochr chwith.
100
101
Mae astudiaethau genetig wedi newid dealltwriaeth sŵolegwyr yn sylweddol o'r perthnasoedd o fewn y
Bilateria
. Ymddengys bod y rhan fwyaf yn perthyn i ddwy brif linach, y protostomau a'r deuterostomau.
102
103
104
105
Cyfeiriadau
golygu
golygu cod
Animals
Merriam-Webster's
. Cyrchwyd
16 May
2010
2 a :
one of the lower animals as distinguished from human beings
b :
mammal
broadly
vertebrate
Cresswell, Julia (2010).
The Oxford Dictionary of Word Origins
(arg. 2nd). New York:
Oxford University Press
ISBN
978-0-19-954793-7
'having the breath of life', from anima 'air, breath, life'.
"animal"
English Oxford Living Dictionaries
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 26 July 2018
. Cyrchwyd
26 July
2018
Boly, Melanie; Seth, Anil K.; Wilke, Melanie; Ingmundson, Paul; Baars, Bernard; Laureys, Steven; Edelman, David; Tsuchiya, Naotsugu (2013).
"Consciousness in humans and non-human animals: recent advances and future directions"
Frontiers in Psychology
: 625.
doi
10.3389/fpsyg.2013.00625
PMC
3814086
PMID
24198791
"The use of non-human animals in research"
Royal Society
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 12 June 2018
. Cyrchwyd
7 June
2018
"Nonhuman definition and meaning"
Collins English Dictionary
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 12 June 2018
. Cyrchwyd
7 June
2018
Cresswell, Julia (2010).
The Oxford Dictionary of Word Origins
(arg. 2nd). New York: Oxford University Press.
ISBN
978-0-19-954793-7
having the breath of life', from anima 'air, breath, life
Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
help
"Animal".
The American Heritage Dictionary
(arg. 4th). Houghton Mifflin Company. 2006.
Avila, Vernon L. (1995).
Biology: Investigating Life on Earth
Jones & Bartlett Learning
. tt. 767–.
ISBN
978-0-86720-942-6
10.0
10.1
"Palaeos:Metazoa"
Palaeos
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 28 Chwefror 2018
. Cyrchwyd
25 Chwefror
2018
Davidson, Michael W.
"Animal Cell Structure"
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 20 Medi 2007
. Cyrchwyd
20 September
2007
Bergman, Jennifer.
"Heterotrophs"
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 29 August 2007
. Cyrchwyd
30 Medi
2007
Douglas, Angela E.; Raven, John A. (January 2003).
"Genomes at the interface between bacteria and organelles"
Philosophical Transactions of the Royal Society B
358
(1429): 5–17.
doi
10.1098/rstb.2002.1188
PMC
1693093
PMID
12594915
Andrew, Scottie (26 Chwefror 2020).
"Scientists discovered the first animal that doesn't need oxygen to live. It's changing the definition of what an animal can be"
CNN
. Cyrchwyd
2020-02-28
Mentel, Marek; Martin, William (2010).
"Anaerobic animals from an ancient, anoxic ecological niche"
BMC Biology
: 32.
doi
10.1186/1741-7007-8-32
PMC
2859860
PMID
20370917
Saupe, S. G.
"Concepts of Biology"
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 21 November 2007
. Cyrchwyd
30 Medi
2007
Minkoff, Eli C. (2008).
Barron's EZ-101 Study Keys Series: Biology
(arg. 2nd, revised). Barron's Educational Series. t.
48
ISBN
978-0-7641-3920-8
Alberts, Bruce; Johnson, Alexander; Lewis, Julian; Raff, Martin; Roberts, Keith; Walter, Peter (2002).
Molecular Biology of the Cell
(arg. 4th).
Garland Science
ISBN
978-0-8153-3218-3
. Cyrchwyd
29 August
2017
Sangwal, Keshra (2007).
Additives and crystallization processes: from fundamentals to applications
John Wiley and Sons
. t.
212
ISBN
978-0-470-06153-4
Becker, Wayne M. (1991).
The world of the cell
. Benjamin/Cummings.
ISBN
978-0-8053-0870-9
Magloire, Kim (2004).
Cracking the AP Biology Exam, 2004–2005 Edition
The Princeton Review
. t.
45
ISBN
978-0-375-76393-9
Starr, Cecie (2007).
Biology: Concepts and Applications without Physiology
. Cengage Learning. tt. 362, 365.
ISBN
978-0-495-38150-1
Hillmer, Gero; Lehmann, Ulrich (1983).
Fossil Invertebrates
. Translated by J. Lettau. CUP Archive. t. 54.
ISBN
978-0-521-27028-1
. Cyrchwyd
8 January
2016
Knobil, Ernst (1998).
Encyclopedia of reproduction, Volume 1
. Academic Press. t.
315
ISBN
978-0-12-227020-8
Schwartz, Jill (2010).
Master the GED 2011
. Peterson's. t.
371
ISBN
978-0-7689-2885-3
Hamilton, Matthew B. (2009).
Population genetics
Wiley-Blackwell
. t.
55
ISBN
978-1-4051-3277-0
Ville, Claude Alvin; Walker, Warren Franklin; Barnes, Robert D. (1984).
General zoology
. Saunders College Pub. t.
467
ISBN
978-0-03-062451-3
Hamilton, William James; Boyd, James Dixon; Mossman, Harland Winfield (1945).
Human embryology: (prenatal development of form and function)
. Williams & Wilkins. t. 330.
Philips, Joy B. (1975).
Development of vertebrate anatomy
. Mosby. t.
176
ISBN
978-0-8016-3927-2
The Encyclopedia Americana: a library of universal knowledge, Volume 10
. Encyclopedia Americana Corp. 1918. t. 281.
Romoser, William S.
; Stoffolano, J. G. (1998).
The science of entomology
. WCB McGraw-Hill. t.
156
ISBN
978-0-697-22848-2
Charlesworth, D.; Willis, J. H. (2009). "The genetics of inbreeding depression".
Nature Reviews Genetics
10
(11): 783–796.
doi
10.1038/nrg2664
PMID
19834483
Bernstein, H.; Hopf, F. A.; Michod, R. E. (1987).
The molecular basis of the evolution of sex
24
. tt. 323–370.
doi
10.1016/s0065-2660(08)60012-7
ISBN
978-0-12-017624-3
PMID
3324702
Pusey, Anne; Wolf, Marisa (1996).
"Inbreeding avoidance in animals"
Trends Ecol. Evol.
11
(5): 201–206.
doi
10.1016/0169-5347(96)10028-8
PMID
21237809
Adiyodi, K. G.; Hughes, Roger N.; Adiyodi, Rita G. (July 2002).
Reproductive Biology of Invertebrates, Volume 11, Progress in Asexual Reproduction
. Wiley. t. 116.
ISBN
978-0-471-48968-9
Schatz, Phil.
"Concepts of Biology: How Animals Reproduce"
. OpenStax College. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 6 Mawrth 2018
. Cyrchwyd
5 Mawrth
2018
Marchetti, Mauro; Rivas, Victoria (2001).
Geomorphology and environmental impact assessment
. Taylor & Francis. t.
84
ISBN
978-90-5809-344-8
Levy, Charles K. (1973).
Elements of Biology
Appleton-Century-Crofts
. t.
108
ISBN
978-0-390-55627-1
Begon, M.; Townsend, C.; Harper, J. (1996).
Ecology: Individuals, populations and communities
(arg. Third). Blackwell Science.
ISBN
978-0-86542-845-4
Allen, Larry Glen; Pondella, Daniel J.; Horn, Michael H. (2006).
Ecology of marine fishes: California and adjacent waters
University of California Press
. t.
428
ISBN
978-0-520-24653-9
Caro, Tim
(2005).
Antipredator Defenses in Birds and Mammals
University of Chicago Press
. tt.
–6 and passim.
Simpson, Alastair G.B; Roger, Andrew J. (2004). "The real 'kingdoms' of eukaryotes".
Current Biology
14
(17): R693–696.
doi
10.1016/j.cub.2004.08.038
PMID
15341755
Stevens, Alison N. P. (2010).
"Predation, Herbivory, and Parasitism"
Nature Education Knowledge
(10): 36
. Adalwyd 12 Chwefror 2018
Jervis, M. A.; Kidd, N. A. C. (November 1986).
"Host-Feeding Strategies in Hymenopteran Parasitoids"
Biological Reviews
61
(4): 395–434.
doi
10.1111/j.1469-185x.1986.tb00660.x
Meylan, Anne (22 January 1988).
"Spongivory in Hawksbill Turtles: A Diet of Glass"
Science
239
(4838): 393–395.
Bibcode
1988Sci...239..393M
doi
10.1126/science.239.4838.393
JSTOR
1700236
PMID
17836872
Schmidt-Rohr, Klaus (2020).
"Oxygen is the High-Energy Molecule Powering Complex Multicellular Life: Fundamental Corrections to Traditional Bioenergetics"
ACS Omega
(5): 2221–2233.
doi
10.1021/acsomega.9b03352
PMC
7016920
PMID
32064383
Clutterbuck, Peter (2000).
Understanding Science: Upper Primary
. Blake Education. t. 9.
ISBN
978-1-86509-170-9
Gupta, P. K. (1900).
Genetics Classical To Modern
. Rastogi Publications. t. 26.
ISBN
978-81-7133-896-2
Garrett, Reginald; Grisham, Charles M. (2010).
Biochemistry
. Cengage Learning. t.
535
ISBN
978-0-495-10935-8
Castro, Peter; Huber, Michael E. (2007).
Marine Biology
(arg. 7th). McGraw-Hill. t.
376
ISBN
978-0-07-722124-9
Rota-Stabelli, Omar; Daley, Allison C.; Pisani, Davide (2013). "Molecular Timetrees Reveal a Cambrian Colonization of Land and a New Scenario for Ecdysozoan Evolution".
Current Biology
23
(5): 392–8.
doi
10.1016/j.cub.2013.01.026
PMID
23375891
Daeschler, Edward B.; Shubin, Neil H.; Jenkins, Farish A., Jr. (6 Ebrill 2006).
"A Devonian tetrapod-like fish and the evolution of the tetrapod body plan"
Nature
440
(7085): 757–763.
Bibcode
2006Natur.440..757D
doi
10.1038/nature04639
PMID
16598249
Clack, Jennifer A.
(21 Tachwedd 2005). "Getting a Leg Up on Land".
Scientific American
293
(6): 100–7.
Bibcode
2005SciAm.293f.100C
doi
10.1038/scientificamerican1205-100
PMID
16323697
Margulis, Lynn
; Schwartz, Karlene V.; Dolan, Michael (1999).
Diversity of Life: The Illustrated Guide to the Five Kingdoms
. Jones & Bartlett Learning. tt. 115–116.
ISBN
978-0-7637-0862-7
Clarke, Andrew (2014).
"The thermal limits to life on Earth"
International Journal of Astrobiology
13
(2): 141–154.
Bibcode
2014IJAsB..13..141C
doi
10.1017/S1473550413000438
"Land animals"
British Antarctic Survey
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 6 Tachwedd 2018
. Cyrchwyd
7 Mawrth
2018
57.0
57.1
Wood, Gerald (1983).
The Guinness Book of Animal Facts and Feats
. Enfield, Middlesex : Guinness Superlatives.
ISBN
978-0-85112-235-9
Mazzetta, Gerardo V.; Christiansen, Per; Fariña, Richard A. (2004). "Giants and Bizarres: Body Size of Some Southern South American Cretaceous Dinosaurs".
Historical Biology
16
(2–4): 71–83.
doi
10.1080/08912960410001715132
Fiala, Ivan (10 July 2008).
"Myxozoa"
. Tree of Life Web Project. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 1 Mawrth 2018
. Cyrchwyd
4 Mawrth
2018
Kaur, H.; Singh, R. (2011).
"Two new species of Myxobolus (Myxozoa: Myxosporea: Bivalvulida) infecting an Indian major carp and a cat fish in wetlands of Punjab, India"
Journal of Parasitic Diseases
35
(2): 169–176.
doi
10.1007/s12639-011-0061-4
PMC
3235390
PMID
23024499
61.00
61.01
61.02
61.03
61.04
61.05
61.06
61.07
61.08
61.09
61.10
61.11
61.12
61.13
Zhang, Zhi-Qiang (2013-08-30).
"Animal biodiversity: An update of classification and diversity in 2013. In: Zhang, Z.-Q. (Ed.) Animal Biodiversity: An Outline of Higher-level Classification and Survey of Taxonomic Richness (Addenda 2013)"
Zootaxa
3703
(1): 5.
doi
10.11646/zootaxa.3703.1.3
. Adalwyd 2 MaMawrthrch 2018
62.00
62.01
62.02
62.03
62.04
62.05
62.06
62.07
62.08
62.09
Balian, E. V.; Lévêque, C.; Segers, H.; Martens, K. (2008).
Freshwater Animal Diversity Assessment
. Springer. t. 628.
ISBN
978-1-4020-8259-7
63.00
63.01
63.02
63.03
63.04
63.05
63.06
63.07
63.08
63.09
63.10
63.11
63.12
63.13
Hogenboom, Melissa.
"There are only 35 kinds of animal and most are really weird"
. BBC Earth. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 10 August 2018
. Cyrchwyd
2 Mawrth
2018
64.0
64.1
64.2
64.3
64.4
64.5
64.6
Poulin, Robert
(2007).
Evolutionary Ecology of Parasites
. Princeton University Press. t.
ISBN
978-0-691-12085-0
65.0
65.1
65.2
65.3
Felder, Darryl L.; Camp, David K. (2009).
Gulf of Mexico Origin, Waters, and Biota: Biodiversity
. Texas A&M University Press. t. 1111.
ISBN
978-1-60344-269-5
"How many species on Earth? About 8.7 million, new estimate says"
. 24 Awst 2011. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 1 Gorffennaf 2018
. Cyrchwyd
2 Mawrth
2018
Mora, Camilo; Tittensor, Derek P.; Adl, Sina; Simpson, Alastair G.B.; Worm, Boris (2011-08-23). Mace, Georgina M.. ed.
"How Many Species Are There on Earth and in the Ocean?"
PLOS Biology
(8): e1001127.
doi
10.1371/journal.pbio.1001127
PMC
3160336
PMID
21886479
Stork, Nigel E. (January 2018). "How Many Species of Insects and Other Terrestrial Arthropods Are There on Earth?".
Annual Review of Entomology
63
(1): 31–45.
doi
10.1146/annurev-ento-020117-043348
PMID
28938083
Stork notes that 1m insects have been named, making much larger predicted estimates.
Poore, Hugh F. (2002). "Introduction".
Crustacea: Malacostraca
. Zoological catalogue of Australia. 19.2A.
CSIRO Publishing
. tt. 1–7.
ISBN
978-0-643-06901-5
Uetz, P..
"A Quarter Century of Reptile and Amphibian Databases"
Herpetological Review
52
: 246–255
71.0
71.1
71.2
Reaka-Kudla, Marjorie L.; Wilson, Don E.;
Wilson, Edward O.
(1996).
Biodiversity II: Understanding and Protecting Our Biological Resources
. Joseph Henry Press. t. 90.
ISBN
978-0-309-52075-1
Burton, Derek; Burton, Margaret (2017).
Essential Fish Biology: Diversity, Structure and Function
. Oxford University Press. tt. 281–282.
ISBN
978-0-19-878555-2
Trichomycteridae
... includes obligate parasitic fish. Thus 17 genera from 2 subfamilies,
Vandelliinae
; 4 genera, 9spp. and
Stegophilinae
; 13 genera, 31 spp. are parasites on gills (Vandelliinae) or skin (stegophilines) of fish.
73.0
73.1
73.2
73.3
Nicol, David (June 1969). "The Number of Living Species of Molluscs".
Systematic Zoology
18
(2): 251–254.
doi
10.2307/2412618
JSTOR
2412618
Sluys, R. (1999). "Global diversity of land planarians (Platyhelminthes, Tricladida, Terricola): a new indicator-taxon in biodiversity and conservation studies".
Biodiversity and Conservation
(12): 1663–1681.
doi
10.1023/A:1008994925673
75.0
75.1
Pandian, T. J. (2020).
Reproduction and Development in Platyhelminthes
. CRC Press. tt. 13–14.
ISBN
978-1-000-05490-3
Fontaneto, Diego.
"Marine Rotifers | An Unexplored World of Richness"
(PDF)
. JMBA Global Marine Environment. tt. 4–5. Archifwyd o'r
gwreiddiol
(PDF)
ar 2 Mawrth 2018
. Cyrchwyd
2 Mawrth
2018
Morand, Serge; Krasnov, Boris R.; Littlewood, D. Timothy J. (2015).
Parasite Diversity and Diversification
. Cambridge University Press. t. 44.
ISBN
978-1-107-03765-6
. Cyrchwyd
2 Mawrth
2018
78.0
78.1
Bobrovskiy, Ilya; Hope, Janet M.; Ivantsov, Andrey; Nettersheim, Benjamin J.; Hallmann, Christian; Brocks, Jochen J. (20 September 2018). "Ancient steroids establish the Ediacaran fossil Dickinsonia as one of the earliest animals".
Science
361
(6408): 1246–1249.
Bibcode
2018Sci...361.1246B
doi
10.1126/science.aat7228
PMID
30237355
Gwall cyfeirio: Tag
annilys; mae'r enw "Bobrovskiy Hope Ivantsov Nettersheim pp. 1246–1249" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
Maloof, Adam C.; Rose, Catherine V.; Beach, Robert; Samuels, Bradley M.; Calmet, Claire C.; Erwin, Douglas H.; Poirier, Gerald R.; Yao, Nan et al. (17 August 2010). "Possible animal-body fossils in pre-Marinoan limestones from South Australia".
Nature Geoscience
(9): 653–659.
Bibcode
2010NatGe...3..653M
doi
10.1038/ngeo934
Shen, Bing; Dong, Lin; Xiao, Shuhai; Kowalewski, Michał (2008).
"The Avalon Explosion: Evolution of Ediacara Morphospace"
Science
319
(5859): 81–84.
Bibcode
2008Sci...319...81S
doi
10.1126/science.1150279
PMID
18174439
Chen, Zhe; Chen, Xiang; Zhou, Chuanming; Yuan, Xunlai; Xiao, Shuhai (1 June 2018).
"Late Ediacaran trackways produced by bilaterian animals with paired appendages"
Science Advances
(6): eaao6691.
Bibcode
2018SciA....4.6691C
doi
10.1126/sciadv.aao6691
PMC
5990303
PMID
29881773
Schopf, J. William (1999).
Evolution!: facts and fallacies
. Academic Press. t.
ISBN
978-0-12-628860-5
Zimorski, Verena; Mentel, Marek; Tielens, Aloysius G. M.; Martin, William F. (2019).
"Energy metabolism in anaerobic eukaryotes and Earth's late oxygenation"
Free Radical Biology and Medicine
140
: 279–294.
doi
10.1016/j.freeradbiomed.2019.03.030
PMC
6856725
PMID
30935869
Maloof, A. C.; Porter, S. M.; Moore, J. L.; Dudas, F. O.; Bowring, S. A.; Higgins, J. A.; Fike, D. A.; Eddy, M. P. (2010). "The earliest Cambrian record of animals and ocean geochemical change".
Geological Society of America Bulletin
122
(11–12): 1731–1774.
Bibcode
2010GSAB..122.1731M
doi
10.1130/B30346.1
"New Timeline for Appearances of Skeletal Animals in Fossil Record Developed by UCSB Researchers"
. The Regents of the University of California. 10 November 2010. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 3 Medi 2014
. Cyrchwyd
1 Medi
2014
Conway-Morris, Simon
(2003).
"The Cambrian "explosion" of metazoans and molecular biology: would Darwin be satisfied?"
The International Journal of Developmental Biology
47
(7–8): 505–515.
PMID
14756326
. Adalwyd 28 Chwefror 2018
"The Tree of Life"
The Burgess Shale
Royal Ontario Museum
. 10 Mehefin 2011. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 16 Chwefror 2018
. Cyrchwyd
28 Chwefror
2018
Budd, Graham E.; Jensen, Sören (2017). "The origin of the animals and a 'Savannah' hypothesis for early bilaterian evolution".
Biological Reviews
92
(1): 446–473.
doi
10.1111/brv.12239
PMID
26588818
Kapli, Paschalia; Telford, Maximilian J. (11 Dec 2020).
"Topology-dependent asymmetry in systematic errors affects phylogenetic placement of Ctenophora and Xenacoelomorpha"
Science Advances
(10): eabc5162.
Bibcode
2020SciA....6.5162K
doi
10.1126/sciadv.abc5162
PMC
7732190
PMID
33310849
Giribet, Gonzalo (27 Medi 2016). "Genomics and the animal tree of life: conflicts and future prospects".
Zoologica Scripta
45
: 14–21.
doi
10.1111/zsc.12215
Peterson, Kevin J.; Cotton, James A.; Gehling, James G.; Pisani, Davide (27 Ebrill 2008).
"The Ediacaran emergence of bilaterians: congruence between the genetic and the geological fossil records"
Philosophical Transactions of the Royal Society of London B: Biological Sciences
363
(1496): 1435–1443.
doi
10.1098/rstb.2007.2233
PMC
2614224
PMID
18192191
Parfrey, Laura Wegener; Lahr, Daniel J. G.; Knoll, Andrew H.; Katz, Laura A. (16 August 2011).
"Estimating the timing of early eukaryotic diversification with multigene molecular clocks"
Proceedings of the National Academy of Sciences
108
(33): 13624–13629.
Bibcode
2011PNAS..10813624P
doi
10.1073/pnas.1110633108
PMC
3158185
PMID
21810989
"Raising the Standard in Fossil Calibration"
Fossil Calibration Database
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 7 Mawrth 2018
. Cyrchwyd
3 Mawrth
2018
Laumer, Christopher E.; Gruber-Vodicka, Harald; Hadfield, Michael G.; Pearse, Vicki B.; Riesgo, Ana; Marioni, John C.; Giribet, Gonzalo (2018).
"Support for a clade of Placozoa and Cnidaria in genes with minimal compositional bias"
eLife
2018;7
: e36278.
doi
10.7554/eLife.36278
PMC
6277202
PMID
30373720
Adl, Sina M.; Bass, David; Lane, Christopher E.; Lukeš, Julius; Schoch, Conrad L.; Smirnov, Alexey; Agatha, Sabine; Berney, Cedric et al. (2018).
"Revisions to the Classification, Nomenclature, and Diversity of Eukaryotes"
Journal of Eukaryotic Microbiology
66
(1): 4–119.
doi
10.1111/jeu.12691
PMC
6492006
PMID
30257078
Bhamrah, H. S.; Juneja, Kavita (2003).
An Introduction to Porifera
. Anmol Publications. t. 58.
ISBN
978-81-261-0675-2
Sumich, James L. (2008).
Laboratory and Field Investigations in Marine Life
. Jones & Bartlett Learning. t.
67
ISBN
978-0-7637-5730-4
Jessop, Nancy Meyer (1970).
Biosphere; a study of life
Prentice-Hall
. t.
428
Sharma, N. S. (2005).
Continuity And Evolution Of Animals
. Mittal Publications. t. 106.
ISBN
978-81-8293-018-6
Minelli, Alessandro (2009).
Perspectives in Animal Phylogeny and Evolution
Oxford University Press
. t. 53.
ISBN
978-0-19-856620-5
Brusca, Richard C. (2016).
Introduction to the Bilateria and the Phylum Xenacoelomorpha | Triploblasty and Bilateral Symmetry Provide New Avenues for Animal Radiation
(PDF)
Sinauer Associates
. tt. 345–372.
ISBN
978-1-60535-375-3
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
(PDF)
ar 2019-04-24
. Cyrchwyd
4 Mawrth
2018
Telford, Maximilian J. (2008). "Resolving Animal Phylogeny: A Sledgehammer for a Tough Nut?".
Developmental Cell
14
(4): 457–459.
doi
10.1016/j.devcel.2008.03.016
PMID
18410719
Philippe, H.; Brinkmann, H.; Copley, R.R.; Moroz, L. L.; Nakano, H.; Poustka, A.J.; Wallberg, A.; Peterson, K. J. et al. (2011).
"Acoelomorph flatworms are deuterostomes related to
Xenoturbella
Nature
470
(7333): 255–258.
Bibcode
2011Natur.470..255P
doi
10.1038/nature09676
PMC
4025995
PMID
21307940
Perseke, M.; Hankeln, T.; Weich, B.; Fritzsch, G.; Stadler, P.F.; Israelsson, O.; Bernhard, D.; Schlegel, M. (August 2007).
"The mitochondrial DNA of Xenoturbella bocki: genomic architecture and phylogenetic analysis"
Theory Biosci
126
(1): 35–42.
doi
10.1007/s12064-007-0007-7
PMID
18087755
. Adalwyd 4 Mawrth 2018
Cannon, Johanna T.; Vellutini, Bruno C.; Smith III, Julian.; Ronquist, Frederik; Jondelius, Ulf; Hejnol, Andreas (3 Chwefror 2016).
"Xenacoelomorpha is the sister group to Nephrozoa"
Nature
530
(7588): 89–93.
Bibcode
2016Natur.530...89C
doi
10.1038/nature16520
PMID
26842059
Dolenni allanol
golygu
golygu cod
Prosiect Coeden Fywyd
Animal Diversity Web
– cronfa ddata anifeiliaid
Prifysgol Michigan
ARKive
– cronfa ddata amlgyfrwng o rywogaethau sydd mewn perygl/a warchodir
Wiciadur
Chwiliwch am
anifail
yn
Wiciadur
Awdurdod
WorldCat
LCCN
sh85005249
GND
4060087-7
BNF
cb119328694
(data)
NDL
00561523
NKC
ph136485
Wedi dod o "
Categorïau
Tudalennau â gwallau cyfeirio
CS1 errors: markup
Anifeiliaid
Pethau byw
Swoleg
Tacsa wedi'u henwi gan Carolus Linnaeus
Teyrnasoedd o ewcaryotau
Categorïau cudd:
Tudalennau gyda meysydd deublyg yn y Nodion
Nodyn
CS1: long volume value
Erthyglau sy'n defnyddio Nodyn Gwybodlen pethau Wicidata
Erthyglau gyda microfformatiau 'rhywogaeth'
Wikipedia articles with LCCN identifiers
Wikipedia articles with GND identifiers
Wikipedia articles with BNF identifiers
Anifail
Ychwanegu pwnc
US