Gweriniaeth Pobl Tsieina - Wicipedia
Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Gweriniaeth Pobl Tsieina
Math
gwladwriaeth sofran,
gwlad
Enwyd ar ôl
Brenhinllin Qin
, y canol
Prifddinas
Beijing
Dinas fwyaf
Shanghai
Poblogaeth
1,442,965,000
Sefydlwyd
1 Hydref 1949
Anthem
Gorymdaith y Gwirfoddolwyr
Pennaeth llywodraeth
Li Qiang
Cylchfa amser
Cylchfa Amser Safonol, UTC+08:00, Asia/Shanghai, Asia/Urumqi
Iaith/Ieithoedd
swyddogol
Putonghua
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol
Tsieina
Asia
Gwlad
Tsieina
Arwynebedd
9,596,961 ±1 km²
Yn ffinio gyda
Mongolia
Casachstan
Cirgistan
Tajicistan
Pacistan
, India,
Nepal
Bhwtan
Myanmar
Laos
Fietnam
Rwsia
Gogledd Corea
Affganistan
De Corea
, Japan
Cyfesurynnau
35.8447°N 103.4519°E
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredol
Cyngor Gwladwriaethol Gweriniaeth Pobl Tsieina
Corff deddfwriaethol
Cyngres Genedlaethol y Bobl Gweriniaeth Pobl Tsieina
Swydd pennaeth
y wladwriaeth
Arlywydd Gweriniaeth Pobl Tsieina
Pennaeth y wladwriaeth
Xi Jinping
Swydd pennaeth
y Llywodraeth
Prif Weinidog Cyngor Gwladol Gweriniaeth Pobl Tsieina
Pennaeth y Llywodraeth
Li Qiang
Sefydlwydwyd gan
Plaid Gomiwnyddol Tsieina
Ariannol
Cyfanswm CMC (
GDP
$17,820,459 million, $17,963,171 million
Arian
renminbi
Canran y diwaith
5 ±1 canran
Cyfartaledd plant
1.6
Mynegai Datblygiad Dynol
0.768
Ffeiliau perthnasol ar Comin
golygwch ar Wicidata
Pwnc yr erthygl hon yw endid politicaidd Gweriniaeth Pobl China. Am ddefnyddiau eraill, gweler
Tsieina (gwahaniaethu)
Mae
Gweriniaeth Pobl Tsieina
GPT
) neu
Tsieina
(hefyd
Tseina
China
) yn cynnwys y rhan fwyaf o'r ardal hanesyddol a daearyddol a elwir yn
Tsieina
. Ers sefydlu'r weriniaeth yn
1949
mae
Plaid Gomiwnyddol Tsieina
(PGT) wedi arwain y wlad. GPT yw gwlad fwyaf poblog y byd, gyda
phoblogaeth
o fwy na 1,300,000,000. Hi yw'r wlad fwyaf o ran maint yn
Nwyrain Asia
a'r bedwaredd fwyaf yn y byd, ar ôl Rwsia,
Canada
, a'r
Unol Daleithiau
. Mae GPT yn ffinio â 14 gwlad, sef
Affganistan
Bhwtan
Myanmar
India
Casachstan
Cirgistan
Laos
Mongolia
Nepal
Gogledd Corea
Pacistan
Rwsia
Tajicistan
Fietnam
Beijing
yw
prifddinas
y wlad.
Map o Weriniaeth Pobl China
Daearyddiaeth
golygu
golygu cod
Ar y cyfan, gwlad fynyddig ydyw Tsieina. Lleolir y rhan fwyaf o'r boblogaeth yn y dwyrain, yn enwedig wrth ymyl yr arfordir ac yn y Gogledd-ddwyrain.
Yn y Gorllewin y mae'n gymharol sych.
Dylid ceisio dirnad maint a phoblogaeth y wlad trwy ystyried fod talaith Sichuan tua'r un faint a Ffrainc ond yn meddu ar ryw ddwywaith y boblogaeth.
Ar hyn o bryd mae llywodraeth Tsieina wrthi yn ymestyn y rheilffyrdd a'r traffyrdd. Cludir cryn dipyn o nwyddau a theithwyr ar yr afonydd, y camlesi, a'r môr. Bu defnydd cynnar ar awyrennau, oherwydd y pellterau.
Yn groes i bolisi'r Unol Daleithiau a Rwsia, un amser (Amser Beijing) a ddefnyddir ym mhob rhan o'r wlad.
Hanes
golygu
golygu cod
Pan fu farw
Zhou Enlai
ym
1976
, olynwyd ef fel Prif Weinidog gan
Hua Guofeng
. Bu farw Mao ei hun ychydig fisoedd yn ddiweddarach, ac olynodd Hua ef fel Cadeirydd y Blaid Gomiwnyddol.
Rhoddodd Hua ddiwedd ar y
Chwyldro Diwylliannol
, a llwyddodd i leihau grym
Jiang Qing
a'i chynghreiriaid, y
Gang o Bedwar
. Fel arall, parhaodd a pholisïau Mao. Yn raddol, enillodd
Deng Xiaoping
rym o fewn y Blaid Gomiwnyddol, ac olynwyd Hua fel Prif Weinidog gan
Zhao Ziyang
ym 1980, ac fel Cadeirydd y Blaid gan
Hu Yaobang
ym 1981.
Iaith a diwylliant
golygu
golygu cod
Iaith
golygu
golygu cod
Ceir gwahanol amrywiadau Tsieinieg, megis
Cantoneeg
Mandarin
, sydd mor wahanol i'w gilydd â Ffrangeg a Sbaeneg, neu Lydaweg a Chymraeg. Dadleua ieithwyr mai gwahanol ieithoedd ydynt; fodd bynnag, yr arfer ymhlith pobl Tsieina yw i ystyried mai un iaith yw'r Tsieineeg, ac fe ddefnyddir y gair "tafodiaith" ym aml i ddisgrifio'r amrywiadau. Wrth ysgrifennu, defnyddir yr un nodau, geirfa a gramadeg safonol gan siaradwyr pob tafodiaith, a felly ceir weithiau gryn agendor rhwng y tafodieithoedd llafar a'r iaith ysgrifenedig safonol. Mae modd hefyd ddefnyddio geirfa lafar, dafodieithol wrth ysgrifennu yn anffurfiol, ond beirniedir hyn yn llym mewn amgylchiadau ffurfiol neu niwtral.
Mae cystrawen Tsieinieg yn dibynnu bron yn gyfan gwbl ar drefn geiriau. Nid yw na'r enwau na'r berfau yn newid ac ni cheir gwahaniaeth rhwng unigol a lluosog.
Pan yngenir sillaf bydd ei hystyr yn newid yn ôl yr oslef neu don y defnyddir i'w ynganu.
Defnyddir lluniau bychain i ysgrifennu'r iaith. Ffurfir y lluniau hyn o elfennau (ceir o gwmpas dau gant ohonynt) a thipyn o gamp ydyw defnyddio geiriadur Tsieineaidd. Er enghraifft, 女 yw'r llun am ddynes (yn wreiddiol llun o ddynes yn eistedd ar ei chwrcwd).
Diwylliant
golygu
golygu cod
Gellir dadlau mai'r diwylliant Tsieineaidd yw'r mwyaf hirhoedlog a fu erioed. Unwyd yr ymherodr cyntaf Qin (
Qinshi Huangdi
, 秦始皇第) nifer o wledydd bychain i ffurfio un wlad fawr ac y mae'n debyg mai i'w gofio ef y defnyddir y gair Tsieina.
Yn ystod rhyw ugain canrif caed hanes o linach ymherodrol yn ffynnu, llygru ac yna cael ei gael ei ddisodli, gan amlaf wrth i'r werin godi ac ymryfela. Parhaodd hyn tan 1949 a sefydliad GPT.
Gellid dadlau mai uned sylfaenol cymdeithas y llwyth Han (hynny yw, prif lwyth y Tsieinaid) yw'r teulu. Daw llysenw o flaen yr enw personol ac erstalwm byddai'r holl deulu yn cael ei gosbi pe troseddai un aelod. Nid yw'r meddylfryd hwn wedi llwyr ddiflannu.
Cyn y Chun Jie (春节), Gŵyl y Gwanwyn, sydd yn newid yn ôl y lleuad, bydd miliynau o bobl yn ceisio cyrraedd adref i gael gwledd gyda'r holl deulu'n bresennol, yn draddodiadol pryd o "
jiaozi
(饺子)", math o dwmplins bydd y teulu yn paratoi gyda'i gilydd cyn eu berwi a bwyta ar ôl rhoi math arbennig o finegr arnynt. Am rai dyddiau bydd yr holl wlad yn cymryd hoe, gyda ffatrïoedd yn cau i lawr.
O fewn y teulu gwahaniaethir rhwng brawd hyn a brawd iau, chwaer hyn a chwaer iau, sydd yn adlewyrchu i ryw raddau hierarchaeth y gymdeithas. O fewn uned waith neu gwmni disgwylir i'r rhai hŷn (e.e. Lao Zhang – Hen Zhang) edrych ar ôl y rhai iau (Xiao Li – Li Bach) ac i'r iau ufuddhau a pharchu'r bobl hŷn.
O dan y drefn draddodiadol byddai dyn cyfoethog yn ceisio meddu ar nifer o wragedd a goddrych. Byddai teulu yn gobeithio am feibion ac yn dibrisio merched (nid yw'r meddylfryd hwn wedi diflannu), hyn oherwydd bod merch wrth briodi yn cael ei hystyried yn rhan o deulu ei gwr. Teflid babanod menywaidd i ffwrdd (erthyliad yw'r ateb nawr) neu eu lladd. Oherwydd y deheuad hwn am feibion ceir fwy o fechgyn nag o ferched yn Tsieina gyda'r canlyniad mai prin iawn yw hen ferched Tsieina gan fod traddodiad yn ymofyn epil (gwrywaidd). Y tebyg yw mai'r gred draddodiadol yw bod angen plant i gynnal eu rhieni yn eu henaint – ac ar ôl iddynt farw trwy ysgubo'u beddau ar yr ŵyl benodol a gyrru arian a nwyddau iddynt yn y "byd a ddaw". Gellir prynu "arian uffern" i'w yrru i'ch hynafiaid meirw trwy ei losgi (a hyd yn oed setiau radio wedi eu gwneud o bapur). Yr ofn traddodiadol oedd cael plant na fedrid dibynnu arnynt i wneud hyn, fel bod eu hynafiaid yn clemio yn y byd a ddaw.
Bywyd
golygu
golygu cod
Er bod llawer o ddinasyddion erbyn hyn yn byw mewn fflatiau sydd yn bur gyffyrddus, mae llawer o bobl yn byw mewn dull mwy traddodiadol. Yng ngogledd y wlad (lle ceir gaeafoedd oer iawn) ceir "kang" (炕
kang
), math o lwyfan a gynhesir gan ddefnyddio tân neu o leiaf nwyau poeth o'r tân yn y gegin. Bydd y trigolion yn eistedd ar y kang gyda'i choesau wedi croesi fel teilswyr a hefyd yn defnyddio cwiltiau i gysgu arno.
Defnyddir gweill i fwyta, gyda phryd o fwyd yn cynnwys reis neu fara ynghyd â nifer o ddysglau fwydydd crogiedig. Bydd y Tsieineaid yn hoff o gael esgus i wledda ac wrth wneud hyn bydd meistr y tŷ yn defnyddio pâr o weill arbennig i hwylio bwyd i'r gwesteion.
Tueddir i beidio ag yfed alcohol heb fwyta rhywbeth ar yr un pryd. Oherwydd rhyw achos ffisiolegol bydd rhai Tsieineaid yn gwrido ac yn chwysu ar ôl yfed alcohol.
Taleithiau ac ardaloedd eraill
golygu
golygu cod
Prif:
Rhanbarthau gwleidyddol Tsieina
Mae Gweriniaeth Pobl Tsieina yn rheoli 22 talaith (省); mae llywodraeth Gweriniaeth Pobl Tsieina yn cyfrif
Taiwan
(台湾) fel y 23ain dalaith. Mae'r llywodraeth hefyd yn hawlio
Ynysoedd Môr De Tsieina
. Ar wahân i'r taleithiau, mae yna bump o ranbarthau ymreolaethol (自治区) sy'n gartref i leiafrifoedd ethnig; pedair bwrdeistref (直辖市) yn ninasoedd mwyaf Tsieina, a dau
Ranbarth Gweinyddol Arbennig
(特别行政区) o dan reolaeth GPT.
Taleithiau
golygu
golygu cod
Anhui
(安徽)
Fujian
(福建)
Gansu
(甘肃)
Guangdong
(广东)
Guizhou
(贵州)
Hainan
(海南)
Hebei
(河北)
Heilongjiang
(黑龙江)
Henan
(河南)
Hubei
(湖北)
Hunan
(湖南)
Jiangsu
(江苏)
Jiangxi
(江西)
Jilin
(吉林)
Liaoning
(辽宁)
Qinghai
(青海)
Shaanxi
(陕西)
Shandong
(山东)
Shanxi
(山西)
Sichuan
(四川)
Yunnan
(云南)
Zhejiang
(浙江)
Rhanbarthau Ymreolaethol
golygu
golygu cod
Guangxi
Zhuang (广西壮族)
Mongolia Mewnol
(内蒙古)
Ningxia
Hui (宁夏回族)
Xinjiang
Uighur (新疆维吾尔族)
Tibet
(Xizang)(西藏)
Bwrdreistrefi
golygu
golygu cod
Beijing
(北京)
Chongqing
(重庆)
Shanghai
(上海)
Tianjin
(天津)
Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig
golygu
golygu cod
Hong Cong
(香港)
Macau
(澳门)
Economi
golygu
golygu cod
Wrth ystyried economi Tsieina dylid cadw mewn golwg y ffaith fod un o daleithiau Tsieina yn debyg o ran maint i wlad. Er enghraifft, ystyrier talaith Sichuan sydd a tua'r un arwynebedd a Ffrainc ond tua dwywaith y boblogaeth.
Yn fras, gogledd-ddwyrain a de-ddwyrain Tsieina sydd wedi'u datblygu i'r raddfa fwyaf, gan fod y gorllewin yn sych, gyda chryn dipyn o dir anial yno.
Gwlad amaethyddol ydyw Tsieina, gyda ffarmio traddodiadol yn fwy tebyg i arddio. Plannu reis mewn caeau bychain sydd yn cael eu boddi yn ôl angen. Er bod mecaneg yn mynd yn ei blaen defnyddir ych ac anifeiliaid eraill.
Oherwydd i'r Americanwyr osod gwarchae masnachol ar y wlad wedi iddi syrthio i'r blaid Gomiwnyddol yn 1949 bu'n rhaid iddi droi at yr Undeb Sofietaidd am gymorth (er y darfu i Brydain gydnabod y llywodraeth newydd yn fuan ar ôl hyn, gyda rhai cwmnïau yn cychwyn gwneud busnes bron yn syth gyda'r wlad). Mae'n debyg fod llygaid yr Undeb Sofietaidd ar gadw Tsieina yn wlad amaethyddol. Serch hynny, cychwynnodd y Tsieinaid ddatblygu eu diwydiant, gan ddefnyddio'r hyn oedd ar ôl o weithfeydd rheilffordd y Japaneaid i gynnyrch injans rheilffordd ac ati. Bu rhwyg rhwng yr Undeb Sofietaidd a Tsieina ar gychwyn y 1960au a aeth yr arbenigwyr Sofietaidd yn ôl i'w gwlad, gan adael prosiectau megis pontydd mawr dros
Afon Yangtze
ar hanner eu gorffen. Serch hynny, llwyddodd y Tsieineaid orffen y gwaith.
Ers y 1980au, gyda'r polisi o agor y wlad i'r tu allan mae cwmnïau o bob math yn heidio i ddefnyddio llafur rhad i gynhyrchu eu defnyddiau, gyda chwmnïau Tsieineaidd hefyd yn ffynnu.
Ffynhonnell y llafur rhad ydyw'r lluoedd (rhai cannoedd o filiynau) o'r werin sydd yn ceisio gadael y tir.
Dolenni allanol
golygu
golygu cod
China.org.cn
– Porth gwe swyddogol Tsieina
gw
sg
go
Asia
Gwladwriaethau sofranaidd
Affganistan
Bahrain
Bangladesh
Bhwtan
Brunei
Cambodia
Catar
Cirgistan
Corea
De Corea
Gogledd Corea
Coweit
Dwyrain Timor
Yr Emiradau Arabaidd Unedig
Fietnam
Gogledd Cyprus
Gwlad Iorddonen
Gwlad Tai
India
Iran
Irac
Israel
Japan
Laos
Libanus
Maleisia
Maldives
Mongolia
Myanmar
Nepal
Oman
Pacistan
y Philipinau
Sawdi Arabia
Singapôr
Sri Lanca
Syria
Tajicistan
Tsieina
Gweriniaeth Pobl Tsieina
Gweriniaeth Tsieina
Tyrcmenistan
Wsbecistan
Gwladwriaethau trawsgyfandirol
Yr Aifft
Armenia
Aserbaijan
Casachstan
Cyprus
Georgia
Iemen
Indonesia
Rwsia
Twrci
Tiriogaethau dibynnol
ardaloedd ymreolaethol
thiriogaethau
eraill
Hong Cong
Macau
Tibet
Tiriogaethau Palesteinaidd
Dynodir
gwlad anghydnabyddedig neu a gydnabyddir yn rhannol
gan
lythrennau italig
Cydnabyddir gan
Dwrci
yn unig.
Gyda'r mwyafrif o'i thir yn
Affrica
Yn
Ne Orllewin Asia
yn gyfan gwbwl, ond ystyrir yn rhan o
Ewrop
am resymau hanesyddol, gwleidyddol, ac/neu diwylliannol.
Yn rhannol neu ddim o gwbwl yn Ewrop, yn dibynnu ar ddiffiniadau'r ffiniau rhwng Ewrop ac Asia.
Ystyrid weithiau yn rhan o
Oceania
Gyda lleiafrif o'i thir yn Asia.
Ystyrid ynysfor
Socotra
yn rhan o Affrica.
Gweinyddir gan Weriniaeth Pobl Tsieina.
Nid yn llwyr annibynnol.
gw
sg
go
Aelodau
Cyngor Diogelwch
y Cenhedloedd Unedig
Aelodau parhaol
Ffrainc
Rwsia
Y Deyrnas Unedig
Tsieina
Unol Daleithiau
Aelodau dros dro
2025–26
Denmarc
Gwlad Groeg
Pacistan
Panamâ
Somalia
2026–27
Bahrain
Colombia
Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo
Latfia
Liberia
Wedi dod o "
Categorïau
Gweriniaeth Pobl Tsieina
Gwledydd Asia
Categorïau cudd:
Tudalennau gyda meysydd deublyg yn y Nodion
Erthyglau sy'n defnyddio Nodyn Gwybodlen lle Wicidata
Pages using the Kartographer extension
Gweriniaeth Pobl Tsieina
Ychwanegu pwnc