Norwy - Wicipedia
Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Norwy
Kongeriket Norge
Arwyddair
Alt for Norge
Math
gwladwriaeth sofran,
gwlad
Enwyd ar ôl
gogledd,
ffordd
Prifddinas
Oslo
Dinas fwyaf
Oslo
Poblogaeth
5,627,400
Sefydlwyd
26 Hydref 1905 (diplomatic recognition, Yr Undeb rhwng Sweden a Norwy)
17 Mai 1814 (
cyfansoddiad
9 g
7 Mehefin 1905 (Yr Undeb rhwng Sweden a Norwy)
Anthem
Ja, vi elsker dette landet
Pennaeth llywodraeth
Jonas Gahr Støre
Cylchfa amser
UTC+01:00
Nawddsant
Olaf II of Norway
Iaith/Ieithoedd
swyddogol
Bokmål
, Sami,
Nynorsk
Norwyeg
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol
Ardal Economeg Ewropeaidd,
Gwledydd Nordig
Arwynebedd
385,207 km²
Gerllaw
Môr Norwy,
Môr Barents
Môr y Gogledd
Skagerrak
Cefnfor yr Iwerydd
Yn ffinio gyda
Sweden,
Y Ffindir
Rwsia
yr Undeb Ewropeaidd
Cyfesurynnau
59.93°N 10.68°E
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredol
Llywodraeth Norwy
Corff deddfwriaethol
Stortinget
Swydd pennaeth
y wladwriaeth
teyrn Norwy
Pennaeth y wladwriaeth
Harald V, brenin Norwy
Swydd pennaeth
y Llywodraeth
Prif Weinidog Norwy
Pennaeth y Llywodraeth
Jonas Gahr Støre
Ariannol
Cyfanswm CMC (
GDP
$490,293 million, $579,267 million
Arian
krone Norwy
Canran y diwaith
3 ±1 canran
Cyfartaledd plant
1.78
Mynegai Datblygiad Dynol
0.966
Ffeiliau perthnasol ar Comin
golygwch ar Wicidata
Mae
Teyrnas Norwy
neu
Norwy
yn wlad ar ochr ddwyreiniol
Môr y Gogledd
. Ynghyd a'i chymydog
Sweden
i'r dwyrain, mae'n un o wledydd
Llychlyn
Hanes
golygu
golygu cod
Prif Erthygl:
Hanes Norwy
O dan y Llychlynwyr (
Vikings
yn Saesneg) unwyd y wlad erbyn yr 11g. Ym
1387
bu farw brenin olaf y llinell Norwyaidd, a daeth y wlad o dan reolaeth
Denmarc
. Gelwid yr adeg yma yn 'noson 400 mlynedd' gan y Norwywyr, gan fod Norwy yn bartner gwan yn yr undeb. Ym
1814
, ar ôl i Ddenmarc gefnogi
Napoleon
yn y rhyfeloedd Ewropeaidd, daeth Sweden i reoli Norwy. Blinodd y Norwywyr ar reolaeth Sweden, ac ym
1905
daeth Norwy yn annibynnol wrth i'r llywodraeth gynnig brenhiniaeth y wlad i Dywysog Carl o Ddenmarc, a ddaeth yn frenin y wlad newydd, gan gymeryd yr enw
Haakon VII
Yn yr
Ail Ryfel Byd
fe wnaeth byddinoedd
yr Almaen
o dan
Adolf Hitler
oresgyn Norwy, ac oherwydd hyn daeth y wlad yn aelod o
NATO
ym
1949
er mwyn diogelwch. Roedd hefyd yn aelod o'r
Cenhedloedd Unedig
o'r dechrau. Mae Norwy yn aelod o
EFTA
ac
Ardal Economaidd Ewrop
, ond mae'r etholaeth wedi pleidleisio dwywaith (ym
1972
ac ym
1994
) yn erbyn ymuno a'r
Undeb Ewropeaidd
Gwleidyddiaeth
golygu
golygu cod
Prif Erthygl:
Gwleidyddiaeth
Mae Norwy yn
frenhiniaeth
ond mae'r pŵer gwleidyddol yn nwylo'r senedd, y
Storting
. Mae'r gyfundrefn yn debyg i'r hyn a gaed yn y
Deyrnas Unedig
, gan fod ambell i swyddogaeth pwysig gan y brenin, ond fe'u defnyddir trwy gyngor y Cabinet fel arfer.
Mae 165 o aelodau gan y Storting. Fe etholir yr aelodau drwy
gynrychiolaeth gyfrannol
o'r 11 sir yn y wlad, am gyfnodau o bedair mlynedd. Ar ôl etholiadau, mae'r Storting yn rhannu'n ddau siambr—yr
Odelsting
a'r
Lagting
—sydd weithiau'n cwrdd ar wahân, ac weithiau gyda'i gilydd, yn ôl y deddfwriaeth sy'n cael ei ddadlau.
Siroedd a threfedigaethau
golygu
golygu cod
Rhennir Norwy'n 15
sir
fylke
, lluosog
fylker
, sydd yn eu tro yn cael eu rhannu'n 357 cymuned (
kommuner
). Dyma restr o'r siroedd:
Norwy sir 2024
Sir 2024
Adran Weinyddol
Oslo
Oslo
11
Rogaland
Stavanger
15
Møre og Romsdal
Molde
18
Nordland
Bodø
31
Østfold
Sarpsborg
32
Akershus
Oslo
33
Buskerud
Drammen
34
Innlandet
Hamar
39
Vestfold
Tønsberg
40
Telemark
Skien
42
Agder
Kristiansand
46
Vestland
Bergen
50
Trøndelag
Steinkjer
55
Troms
Tromsø
56
Finnmark
Vadsø
Yn ogystal â hyn, mae gan Norwy nifer o diriogaethau ar draws y byd. Ystyrir ynysoedd
Svalbard
Jan Mayen
i'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain o'r wlad yn rannau o'r deyrnas. Ar y llaw arall, ystyrir
Ynys Bouvet
i'r de o Affrica fel trefedigaeth ar wahân i'r deyrnas ei hunan.
Mae Norwy yn hawlio rhan o dir
Antarctica
Dronning Maud Land
ac
Ynys Pedr I
) ond mae'r hawliau hyn bellach yn cael eu anwybyddu ar ôl cytundeb rhyngwladol.
Daearyddiaeth
golygu
golygu cod
Prif Erthygl:
Daearyddiaeth Norwy
Cymharu lleoliad a maint Norwy a Chymru
Mae tua dwy rhan o dair o dir Norwy yn fynyddoedd, ac mae rhyw 50,000 o ynysoedd yn eistedd ger yr arfordir troellog, sydd dros 20,000 km o hyd. Mae olion
Oes yr Iâ
i'w weld, gyda sawl
ffiord
a nifer o
rewlifoedd
Mae Norwy yn rhannol o fewn
Cylch yr Arctig
, sydd yn golygu nad yw'r haul yn machlud yno am ran o'r haf. Serch hyn, mae'r hinsawdd yn cael ei gadw'n gynnes oherwydd dylanwad
Llif y Gwlff
, sef llif cynnes o ddŵr a daw o'r trofannau.
Mannau uchaf Norwy yw mynyddoedd
Glittertinden
(2472m) a
Galdhøpiggen
(2469m), yng nghadwyn
Jotunheimen
Economi
golygu
golygu cod
Prif Erthygl:
Economi Norwy
Mae Norwy yn wlad llewyrchus, yn bennaf efallai oherwydd fod digonedd o adnoddau naturiol ganddi. Ceir llawer o
nwy naturiol
ac
olew crai
yn o dan
Môr y Gogledd
, ac mae'r wlad yn dibynnu'n gryf ar y diwydiant olew—hwn sy'n creu 35% o holl allforion y wlad. Ond mae diwydiannau eraill pwysig gan Norwy—er enghraifft y diwydiant
pysgota
. Ceisiodd Norwy ymuno âr
Undeb Ewropeaidd
(UE) dwywaith, ond methodd y cynlluniau am na fod Norwy am ildio rheolaeth ar y diwydiant hwn. Serch hyn mae Norwy yn aelod o farchnad cyffredin yr UE drwy cytundeb
Ardal Economaidd Ewrop
Mae gan Norwywyr safon uchel o fyw, yn bennaf oherwydd yr arian o'r diwydiant olew. Roedd pryder felly beth fyddai'n digwydd ar ôl i'r olew ddiflannu. I ddatrys y broblem, mae llywodraeth Norwy wedi bod yn buddsoddi rhan o'i hennillion o'r diwydiant mewn cronfa dramor, sy'n cynnwys (ym mis Tachwedd 2003) 114 biliwn
doler Americanaidd
Diwylliant
golygu
golygu cod
Prif Erthygl:
Diwylliant Norwy
Mae 86% o boblogaeth Norwy yn perthyn i eglwys swyddogol Norwy, sy'n eglwys Lwtheraidd.
Dethlir diwrnod cenedlaethol Norwy ar
17 Mai
. Ar y diwrnod hwnnw mae llawer o'r Norwyiaid yn gwisgo
bunad
(gwisg
draddodiadol) ac yn gwylio gorymdeithiau ar hyd y strydoedd.
Norwywyr enwog:
Henrik Ibsen
—dramodydd
Roald Amundsen
—y dyn cyntaf i gyrraedd
Pegwn y De
Edvard Munch
—arlunydd
Edvard Grieg
—cyfansoddwr
Knut Hamsun
—nofelydd; enillydd
Gwobr Llenyddiaeth Nobel
ym
1920
Ieithoedd
golygu
golygu cod
Prif:
Ieithoedd Norwy
Mae dau ffurf ysgrifenedig i'r
iaith
Norwyeg
Bokmål
(iaith llyfr)
Nynorsk
(Norwyeg newydd)
. Enw'r wlad yw
Norge
yn Bokmål, a
Noreg
yn Nynorsk. Er fod y ddwy iaith yn swyddogol, y Bokmål traddodiadol sy'n fwy cyffredin. Yn y gogledd, siaredir sawl iaith
Saami
gan bobl y
Saami
; mae'r iaith hon yn gwbl wahanol i'r Norwyeg.
Gweler hefyd
golygu
golygu cod
Dinasoedd Norwy
Cyfeiriadau
golygu
golygu cod
1.0
1.1
1.2
"Fylkesinndelingen fra 2024"
(yn Norwyeg). Regjeringen. 2022-07-05
. Cyrchwyd
2024-03-01
gw
sg
go
Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO)
Aelodau
Albania
Yr Almaen
Gwlad Belg
Bwlgaria
Canada
Croatia
Denmarc
Yr Eidal
Estonia
Y Ffindir
Ffrainc
Hwngari
Gogledd Macedonia
Gwlad Groeg
Gwlad yr Iâ
Yr Iseldiroedd
Latfia
Lithwania
Lwcsembwrg
Montenegro
Norwy
Portiwgal
Gwlad Pwyl
Rwmania
Sbaen
Slofacia
Slofenia
Sweden
Y Deyrnas Unedig
Tsiecia
Twrci
Unol Daleithiau
Ymgeiswyr
Bosnia a Hertsegofina
Georgia
Wcráin
Wedi dod o "
Categorïau
Norwy
Gwledydd Ewrop
Categorïau cudd:
CS1 Norwyeg-language sources (no)
Erthyglau sy'n defnyddio Nodyn Gwybodlen lle Wicidata
Pages using the Kartographer extension
Norwy
Ychwanegu pwnc
US