Pobl, y boblogaeth a chymunedau - Office for National Statistics
Pobl, y boblogaeth a chymunedau
Rydym yn edrych ar faint o bobl sy'n byw yn y DU, ar newidiadau i'r boblogaeth, ac ar sut rydym yn gwario ein harian. Rydym hefyd yn cyhoeddi data ar droseddu, perthnasau, iechyd a chrefydd. Mae'r ystadegau hyn yn ein helpu i roi darlun manwl o sut rydym yn byw.
Yn yr adran hon
Armed forces community
Information about the armed forces community, including those who have previously served in the armed forces (veterans) and their families, to help support the Armed Forces Covenant.
Genedigaethau, marwolaethau a phriodasau
Mae ystadegau am ddigwyddiadau bywyd yn dweud wrthym am faint a chyflwr y boblogaeth. Rydym yn cyhoeddi data awdurdodol am nifer y genedigaethau a marwolaethau fesul blwyddyn galendr. Ar gyfer diweddaru amcangyfrifon o'r boblogaeth, rydym yn defnyddio data o ganol y flwyddyn hyd ganol y flwyddyn (1 Gorffennaf hyd 30 Mehefin), gyda rhai gwahaniaethau bach.
Troseddu a chyfiawnder
Rydym yn edrych ar droseddau a gyflawnwyd, a nodweddion dioddefwyr. Rydym yn casglu'r ffigurau hyn o droseddau a gofnodwyd gan yr heddlu, ac o Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr. Rydym hefyd yn cyhoeddi data ar ganlyniadau troseddau, o ran yr hyn a ddigwyddodd i'r troseddwr.
Hunaniaeth ddiwylliannol
Rydym yn edrych ar sut mae pobl yn y DU yn gweld eu hunain heddiw, yn nhermau ethnigrwydd, rhywioldeb, crefydd ac iaith, a sut mae hyn wedi newid dros amser. Rydym yn defnyddio amrywiaeth eang o ffynonellau ar gyfer y data hwn.
Addysg a gofal plant
Etholiadau
Dadansoddiad o nifer y bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio, gan gynnwys cymariaethau dros amser a rhwng gwledydd cyfansoddol y DU.
Iechyd a gofal cymdeithasol
Data am ddisgwyliad oes a'r effaith y mae ffactorau megis galwedigaeth, salwch a chamddefnyddio cyffuriau yn ei chael. Rydym yn casglu'r ystadegau hyn o gofrestriadau ac arolygon.
Nodweddion aelwydydd
Tai
Data am brisiau eiddo. Mae'r rhain yn ddangosydd anffurfiol o'r hyder sydd gan bobl yn economi'r DU. Rydym yn casglu data o sampl o forgeisi sydd wedi eu cwblhau, felly nid ydym yn cynnwys eiddo a werthwyd i bobl a ddefnyddiodd arian parod.
Hamdden a thwristiaeth
Data am nifer yr ymweliadau a nifer yr ymwelwyr i'r DU, y rhesymau dros ymweld, a faint o arian a wariwyd ganddynt yma. Rydym yn edrych ar nifer y bobl o'r DU sy'n teithio dramor, eu rhesymau dros deithio, a faint o arian a wariwyd ganddynt. Mae'r ystadegau ynglŷn â phobl o'r DU yn teithio dramor yn ddangosydd anffurfiol o safonau byw.
Cyllid personol a chyllid aelwydydd
Rydym yn edrych ar faint rydym yn ei ennill a'r hyn rydym yn ei wario arno. Mae'r ystadegau hyn yn ein helpu i roi darlun o'n penderfyniadau gwario a chynilo. Mae'r data hyn yn dangos dyledion aelwydydd a dyledion personol, gwariant, incwm a chyfoeth.
Poblogaeth ac ymfudo
Ystadegau am faint, oedran, rhyw a dosbarthiad daearyddol poblogaeth y DU. Rydym hefyd yn archwilio newidiadau ym mhoblogaeth y DU, a'r ffactorau sy'n ysgogi'r newidiadau hyn. Mae amrywiaeth eang o ffyrdd y gellir defnyddio'r ystadegau hyn. Mae'r llywodraeth ganolog, llywodraeth leol a'r sector iechyd yn eu defnyddio ar gyfer cynllunio, dyrannu adnoddau a rheoli'r economi. Maent hefyd yn cael eu defnyddio gan bobl megis ymchwilwyr i'r farchnad ac academyddion.
Lles
Mae mesur lles cenedlaethol yn ymwneud ag edrych y tu hwnt i'r hyn a gynhyrchir gennym, i feysydd megis iechyd, perthnasau, addysg a sgiliau, yr hyn rydym yn ei wneud, lle'r ydym yn byw, ein sefyllfa ariannol a'r amgylchedd. Mae hefyd yn mesur ein lles personol, asesiad unigolyn o'i les ei hun. Daw'r data hyn o amrywiaeth o ffynonellau, ac mae llawer o'r gwaith dadansoddi yn newydd.
Archwiliwch ystadegau lleol
Darganfyddwch, cymharwch, a dewch yn fyw ystadegau am leoedd yn y Deyrnas Unedig.
UK