Porth Adnoddau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Adnoddau Diweddar
Podlediad Ymchwil ar y Gweill
Ychwanegwyd: 16/12/2025
660
Podlediad Ymchwil ar y Gweill
Dyddiad cyhoeddi: 2025
Cymraeg Yn Unig
Podlediad Ymchwil ar y Gweill
660
Cymraeg Yn Unig
Tagiau
Rhaglen Sgiliau Ymchwil
Trawsddisgyblaethol
podlediad
Podlediad sy’n rhoi llwyfan i ymchwilwyr ledled Cymru rannu eu gwaith a’u syniadau. Bob pennod, mae Jonathan Davies, deiliad ysgoloriaeth ymchwil y Coleg Cymraeg, yn siarad gyda gwestai newydd i archwilio eu maes ymchwil, y cwestiynau sy’n eu hysgogi, a’r effaith ar gymdeithas. O’r gwyddorau naturiol i’r celfyddydau creadigol, mae’r podlediad yn cynnig cipolwg hygyrch ac ysbrydoledig ar ystod eang o bynciau. P'un ai ydych chi'n ymchwilydd, yn fyfyriwr neu’n syml yn mwynhau darganfod syniadau newydd, mae croeso i chi ymuno â’r sgwrs.
Agor
Pecyn technegau newid ymddygiad
Ychwanegwyd: 16/12/2025
731
Pecyn technegau newid ymddygiad
Dyddiad cyhoeddi: 2025
Dwyieithog
Pecyn technegau newid ymddygiad
731
Dwyieithog
Tagiau
Rhaglen Datblygu Staff
Adnodd Coleg Cymraeg
Comisiynwyd asiantaeth newid ymddygiad Claremont i greu'r Pecyn Technegau Newid Ymddygiad.

Bwriad y pecyn yw rhoi arweiniad a chyngor i ymarferwyr sy'n gweithio gyda dysgwyr sydd wrthi'n gwneud penderfyniadau am eu haddysg.

Mae'r daith i'r brifysgol yn gyfnod cyffrous i fyfyrwyr ond gall hefyd fod yn gyfnod ansicr, yn llawn cwestiynau ynghylch gyrwyr a rhwystrau canfyddedig sy'n ymwneud ag astudio'n Gymraeg.

Gyda'n gilydd, gallwn helpu darpar fyfyrwyr a myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch eu camau nesaf wrth astudio'n Gymraeg yn y brifysgol.

Mae’r fideo isod yn cyflwyno trosolwg o’r Pecyn gan gynnwys:

Sut i ddeall ein cynulleidfa?
Y rhwystrau a'r ysgogiad sy'n dylanwadu ar benderfyniadau myfyrwyr ynghylch astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Y strategaethau negeseuon sy'n gallu helpu i leihau ansicrwydd, meithrin hyder a dangos manteision astudio yn Gymraeg
Agor
Beth yw ystyr bywyd? ... a chwestiynau mawr eraill
Ychwanegwyd: 08/12/2025
717
Beth yw ystyr bywyd? ... a chwestiynau mawr eraill
Dyddiad cyhoeddi: 2025
Cymraeg Yn Unig
Beth yw ystyr bywyd? ... a chwestiynau mawr eraill
717
Cymraeg Yn Unig
Tagiau
Athroniaeth
Astudiaethau Crefyddol
Hanes
Gwleidyddiaeth
Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
Daearyddiaeth ddynol
Adnodd Coleg Cymraeg
Dyma bodlediad yn y Gymraeg sydd ychydig yn wahanol i’r arfer, a sydd – fel mae’r teitl yn ei awgrymu – yn mynd i’r afael â rhai o gwestiynau mawr bywyd. Ariennir y podlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chyflwynir y gyfres gan Dr Huw Williams, darllenydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd yn cynnal sgyrsiau bywiog a ffraeth â chyfeillion amrywiol, gan gynnwys arbenigwyr a rhai academyddion blaenllaw Cymraeg.

Rhagdybiaeth y gyfres yw bod pob un ohonom yn hel meddyliau ar faterion dwys sy’n rhan o fywyd pob dydd, ac mae trafod a myfyrio ar y themâu hyn yn beth iach a phwysig. Mae’r sgyrsiau yn cyflwyno’r trafodaethau drwy gyfrwng iaith bob dydd mewn ffordd hygyrch; dylai apelio at ddysgwyr y 6ed dosbarth, myfyrwyr prifysgol, ac oedolion eraill nad oes ganddynt wybodaeth flaenorol o’r pynciau dan sylw.  Felly ymunwch â ni (a pharatowch hefyd am daith fach i Roswell!)

Cynhyrchir y gyfres, gyda cherddoriaeth wreiddiol, gan Osian Gwynedd.
Agor
Adnoddau Sgiliau Hanfodol Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
Ychwanegwyd: 19/11/2025
703
Adnoddau Sgiliau Hanfodol Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
Dyddiad cyhoeddi: 2025
Dwyieithog
Adnoddau Sgiliau Hanfodol Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
703
Dwyieithog
Tagiau
Ôl-16
Gofal Plant
Addysg Ôl-16
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi gweithio gyda’r sector i ddatblygu adnoddau Sgiliau Hanfodol Cymru i gynorthwyo gyda’r addysgu a’r dysgu ar gyfer Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu ar Lefel 1 a 2.

Mae’r adnoddau wedi’u cynllunio i adlewyrchu sefyllfaoedd gwaith go iawn y gallech chi ddod ar eu traws mewn gofal plant a'r blynyddoedd cynnar, ac maen nhw'n ymdrin â gwahanol ganlyniadau dysgu y mae angen i chi eu gwybod i gwblhau eich cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Nid yw’r adnoddau’n orfodol. Gallwch chi eu gwneud i gyd neu ddewis y rhai fydd yn eich helpu fwyaf.

Mae’r adnoddau hyn wedi’u bwriadu i gefnogi dysgu ac felly nid ydyn nhw'n disodli gweithgareddau addysgu nac asesu. Maen nhw wedi’u cynllunio i ddangos lle mae sgiliau Sgiliau Hanfodol Cymru yn cael eu cymhwyso mewn lleoliadau ymarfer, ac efallai na fyddan nhw'n ymdrin â’r holl ganlyniadau dysgu yn llawn.
Agor
Adnoddau Sgiliau Hanfodol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ychwanegwyd: 19/11/2025
653
Adnoddau Sgiliau Hanfodol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dyddiad cyhoeddi: 2025
Dwyieithog
Adnoddau Sgiliau Hanfodol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
653
Dwyieithog
Tagiau
Iechyd
Ôl-16
Iechyd a Gofal

Mae’r adnoddau wedi’u cynllunio i adlewyrchu sefyllfaoedd gwaith go iawn y gallech chi ddod ar eu traws mewn gofal cymdeithasol, ac maen nhw'n ymdrin â gwahanol ganlyniadau dysgu y mae angen i chi eu gwybod i gwblhau eich cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Darlith Edward Lhuyd 2025: Yr Athro Jane Aaron
Ychwanegwyd: 18/11/2025
784
Darlith Edward Lhuyd 2025: Yr Athro Jane Aaron
Dyddiad cyhoeddi: 2025
Cymraeg Yn Unig
Darlith Edward Lhuyd 2025: Yr Athro Jane Aaron
784
Cymraeg Yn Unig
Tagiau
Cymraeg
Gwyddorau Amgylcheddol
Cymraeg Llên
Hanes Cymru
Amgylchedd
Adnodd Coleg Cymraeg
Traddodwyd Darlith Flynyddol Edward Lhuyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru 2025 gan yr Athro Jane Aaron yn Pontio, Bangor, ar 18 Tachwedd 2025. Y testun oedd Colli Gwyrddni: Ecofeirniadaeth a gwaith rhai o feirdd Cymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn ogystal â dadansoddi llenyddiaeth sy’n ymwneud â’r berthynas rhwng pobl a’r amgylchedd, mae nod gwleidyddol i ecofeirniadaeth, sef dyfnhau ein dealltwriaeth hanesyddol o achosion yr argyfwng amgylcheddol presennol a’n ymnerthu i wrthsefyll y rhai a fyn ei ddiystyru. Yn y ddarlith hon byddwn yn ystyried gwaith barddonol rhai o Gymry’r bedwaredd ganrif ar bymtheg y trawsffurfiwyd eu bywydau gan y chwyldro diwydiannol, ac yn gofyn a oes neges i ni heddiw yn eu hymateb hwy i golli gwyrddni?

Athro Emerita yn Ysgol y Dyniaethau ym Mhrifysgol De Cymru yw Jane Aaron ac awdur Pur fel y Dur: Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg a enillodd Wobr Goffa Ellis Griffith ym 1999, Nineteenth-Century Women’s Writing in Wales a enillodd Wobr Roland Mathias yn 2009, y gyfrol Welsh Gothic (2013), a’i cofiant Cranogwen a enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn yn y categori Ffeithiol Creadigol yn 2024.
Agor
Sôn am Sgwennu: Ysgrifennu Creadigol Cyfoes
Ychwanegwyd: 22/10/2025
1.1K
Sôn am Sgwennu: Ysgrifennu Creadigol Cyfoes
Dyddiad cyhoeddi: 2025
Cymraeg Yn Unig
Sôn am Sgwennu: Ysgrifennu Creadigol Cyfoes
1.1K
Cymraeg Yn Unig
Tagiau
Cymraeg
Cymraeg Llên
Adnodd Coleg Cymraeg
Croeso i ‘Sôn am Sgwennu’, adnodd gan Dr Llion Pryderi Roberts, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, sy’n cyflwyno cyfres o drafodaethau am ysgrifennu creadigol cyfoes.

Mae’r adnodd yn cynnwys:

Podlediad ‘Sôn am Sgwennu’ – recordiadau o sgyrsiau â 4 awdur profiadol sy’n canolbwyntio ar y broses ymarferol o ysgrifennu ac ar agweddau perthnasol i’w gwaith ac i astudio’r maes:

Caryl Lewis
Ifor ap Glyn
Annes Glynn
Llŷr Gwyn Lewis

Mae'r adnodd hefyd yn cynnwys dogfen i bob recordiad sy’n nodi’r cwestiynau a ofynnwyd ac sy’n nodi’n fras y codau amser perthnasol ar gyfer pob cwestiwn (fel bod modd gwrando ar y recordiad o’i gwr neu symud o un cwestiwn i’r llall)

Ysgrifau ‘Sôn am Sgwennu’ – 8 ysgrif fer sy’n trafod agweddau perthnasol i’r broses o ysgrifennu’n greadigol ac i astudio’r maes:

‘Ysgrifennu Creadigol: Dechrau arni a datblygu syniad’, Llion Pryderi Roberts
‘Sgrifennu’, Elinor Wyn Reynolds
‘Cymeriadu’, Megan Angharad Hunter
‘Creu Cerdd’, Mari George
‘Perlau mân Llwyd Owen’
‘Annwyl Leo, Annwyl Iestyn: Proses gydweithredol cyfres Y Pump’, Iestyn Tyne a Leo Drayton
‘Sgwennu Nofel’, Marlyn Samuel
‘Ysgrifennu i Blant’, Casia Wiliam

Adnodd ar gyfer myfyrwyr Addysg Uwch yn bennaf yw ‘Sôn am Sgwennu’, ond gall fod yn berthnasol i ddisgyblion UG a Safon Uwch, athrawon, ac unrhyw un sy’n ymddiddori ym maes ysgrifennu creadigol.

Dyfarnwyd nawdd ar gyfer yr adnodd hwn drwy gyfrwng cynllun Grantiau Bach y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Hoffwn ddiolch i’r Coleg, i’r holl awduron am eu parodrwydd i gymryd rhan yn y prosiect ac i’m cydweithwyr yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd am eu cymorth parod.
Agor
Cydweithio trwy’r Gymraeg: Aseswyr a Chyflogwyr
Ychwanegwyd: 07/10/2025
874
Cydweithio trwy’r Gymraeg: Aseswyr a Chyflogwyr
Dyddiad cyhoeddi: 2025
Dwyieithog
Cydweithio trwy’r Gymraeg: Aseswyr a Chyflogwyr
874
Dwyieithog
Tagiau
Ôl-16
Rhaglen Datblygu Staff
Addysg Ôl-16
Adnodd Coleg Cymraeg
Mae’r recordiad hwn yn cynnwys trafodaeth banel fywiog sy’n canolbwyntio ar rôl aseswyr wrth weithio gyda chyflogwyr a phrentisiaid i amlygu gwerth y Gymraeg fel sgil allweddol yn y gweithle.

Berni Tyler - Cyfarwyddwr Consortiwm B-wbl (Cadeirydd)
Dafydd Bowen - Cyfarwyddwr Pobl a Llefydd, Mentera
Gwyn-Arfon Williams – Aseswr yn y gwaith, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Grŵp Llandrillo Menai
Rhian Williams – Aseswr, Sgil Cymru
Sue Jeffries – Rheolwr Gyfarwyddwr, Sgil Cymru
Angharad Elfyn – Prentis, Sgil Cymru
Helen Davies – Swyddog Addysg Bellach a Phrentisiaethau, Coleg Cymraeg

Uchafbwyntiau’r Gweminar:

- Lansiad swyddogol yr adnodd ‘Pecyn Prentis’, gyda chyfranwyr o’r adnodd yn rhannu eu profiadau uniongyrchol.

- Trafodaeth rhwng aseswyr a chyflogwyr ar sut gall y pecyn gefnogi eu gwaith o ddydd i ddydd.

- Arferion da yn cael eu rhannu ar sut i argyhoeddi prentisiaid a chyflogwyr o fanteision defnyddio’r Gymraeg.

- Sgwrs agored ar sut i gynyddu hyder aseswyr yn y Gymraeg, gan rannu heriau, llwyddiannau ac enghreifftiau ysbrydoledig.

Cynhaliwyd y sesiwn ar y 18fed o Fehefin 2025.
Agor
Gweld Mwy
Adnoddau Diweddar Ôl-16
Beth yw ystyr bywyd? ... a chwestiynau mawr eraill
Ychwanegwyd: 08/12/2025
717
Beth yw ystyr bywyd? ... a chwestiynau mawr eraill
Dyddiad cyhoeddi: 2025
Cymraeg Yn Unig
Beth yw ystyr bywyd? ... a chwestiynau mawr eraill
717
Cymraeg Yn Unig
Tagiau
Athroniaeth
Astudiaethau Crefyddol
Hanes
Gwleidyddiaeth
Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
Daearyddiaeth ddynol
Adnodd Coleg Cymraeg
Dyma bodlediad yn y Gymraeg sydd ychydig yn wahanol i’r arfer, a sydd – fel mae’r teitl yn ei awgrymu – yn mynd i’r afael â rhai o gwestiynau mawr bywyd. Ariennir y podlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chyflwynir y gyfres gan Dr Huw Williams, darllenydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd yn cynnal sgyrsiau bywiog a ffraeth â chyfeillion amrywiol, gan gynnwys arbenigwyr a rhai academyddion blaenllaw Cymraeg.

Rhagdybiaeth y gyfres yw bod pob un ohonom yn hel meddyliau ar faterion dwys sy’n rhan o fywyd pob dydd, ac mae trafod a myfyrio ar y themâu hyn yn beth iach a phwysig. Mae’r sgyrsiau yn cyflwyno’r trafodaethau drwy gyfrwng iaith bob dydd mewn ffordd hygyrch; dylai apelio at ddysgwyr y 6ed dosbarth, myfyrwyr prifysgol, ac oedolion eraill nad oes ganddynt wybodaeth flaenorol o’r pynciau dan sylw.  Felly ymunwch â ni (a pharatowch hefyd am daith fach i Roswell!)

Cynhyrchir y gyfres, gyda cherddoriaeth wreiddiol, gan Osian Gwynedd.
Agor
Adnoddau Sgiliau Hanfodol Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
Ychwanegwyd: 19/11/2025
703
Adnoddau Sgiliau Hanfodol Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
Dyddiad cyhoeddi: 2025
Dwyieithog
Adnoddau Sgiliau Hanfodol Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
703
Dwyieithog
Tagiau
Ôl-16
Gofal Plant
Addysg Ôl-16
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi gweithio gyda’r sector i ddatblygu adnoddau Sgiliau Hanfodol Cymru i gynorthwyo gyda’r addysgu a’r dysgu ar gyfer Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu ar Lefel 1 a 2.

Mae’r adnoddau wedi’u cynllunio i adlewyrchu sefyllfaoedd gwaith go iawn y gallech chi ddod ar eu traws mewn gofal plant a'r blynyddoedd cynnar, ac maen nhw'n ymdrin â gwahanol ganlyniadau dysgu y mae angen i chi eu gwybod i gwblhau eich cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Nid yw’r adnoddau’n orfodol. Gallwch chi eu gwneud i gyd neu ddewis y rhai fydd yn eich helpu fwyaf.

Mae’r adnoddau hyn wedi’u bwriadu i gefnogi dysgu ac felly nid ydyn nhw'n disodli gweithgareddau addysgu nac asesu. Maen nhw wedi’u cynllunio i ddangos lle mae sgiliau Sgiliau Hanfodol Cymru yn cael eu cymhwyso mewn lleoliadau ymarfer, ac efallai na fyddan nhw'n ymdrin â’r holl ganlyniadau dysgu yn llawn.
Agor
Adnoddau Sgiliau Hanfodol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ychwanegwyd: 19/11/2025
653
Adnoddau Sgiliau Hanfodol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dyddiad cyhoeddi: 2025
Dwyieithog
Adnoddau Sgiliau Hanfodol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
653
Dwyieithog
Tagiau
Iechyd
Ôl-16
Iechyd a Gofal
Addysg Ôl-16
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi gweithio gyda’r sector i ddatblygu adnoddau Sgiliau Hanfodol Cymru i gynorthwyo gyda’r addysgu a’r dysgu ar gyfer Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu ar Lefel 1 a 2.

Mae’r adnoddau wedi’u cynllunio i adlewyrchu sefyllfaoedd gwaith go iawn y gallech chi ddod ar eu traws mewn gofal cymdeithasol, ac maen nhw'n ymdrin â gwahanol ganlyniadau dysgu y mae angen i chi eu gwybod i gwblhau eich cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Nid yw’r adnoddau’n orfodol. Gallwch chi eu gwneud i gyd neu ddewis y rhai fydd yn eich helpu fwyaf.

Mae’r adnoddau hyn wedi’u bwriadu i gefnogi dysgu ac felly nid ydyn nhw'n disodli gweithgareddau addysgu nac asesu. Maen nhw wedi’u cynllunio i ddangos lle mae sgiliau Sgiliau Hanfodol Cymru yn cael eu cymhwyso mewn lleoliadau ymarfer, ac efallai na fyddan nhw'n ymdrin â’r holl ganlyniadau dysgu yn llawn.
Agor
Cydweithio trwy’r Gymraeg: Aseswyr a Chyflogwyr
Ychwanegwyd: 07/10/2025
874
Cydweithio trwy’r Gymraeg: Aseswyr a Chyflogwyr
Dyddiad cyhoeddi: 2025
Dwyieithog
Cydweithio trwy’r Gymraeg: Aseswyr a Chyflogwyr
874
Dwyieithog
Tagiau
Ôl-16
Rhaglen Datblygu Staff
Addysg Ôl-16
Adnodd Coleg Cymraeg
Mae’r recordiad hwn yn cynnwys trafodaeth banel fywiog sy’n canolbwyntio ar rôl aseswyr wrth weithio gyda chyflogwyr a phrentisiaid i amlygu gwerth y Gymraeg fel sgil allweddol yn y gweithle.

Berni Tyler - Cyfarwyddwr Consortiwm B-wbl (Cadeirydd)
Dafydd Bowen - Cyfarwyddwr Pobl a Llefydd, Mentera
Gwyn-Arfon Williams – Aseswr yn y gwaith, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Grŵp Llandrillo Menai
Rhian Williams – Aseswr, Sgil Cymru
Sue Jeffries – Rheolwr Gyfarwyddwr, Sgil Cymru
Angharad Elfyn – Prentis, Sgil Cymru
Helen Davies – Swyddog Addysg Bellach a Phrentisiaethau, Coleg Cymraeg

Uchafbwyntiau’r Gweminar:

- Lansiad swyddogol yr adnodd ‘Pecyn Prentis’, gyda chyfranwyr o’r adnodd yn rhannu eu profiadau uniongyrchol.

- Trafodaeth rhwng aseswyr a chyflogwyr ar sut gall y pecyn gefnogi eu gwaith o ddydd i ddydd.

- Arferion da yn cael eu rhannu ar sut i argyhoeddi prentisiaid a chyflogwyr o fanteision defnyddio’r Gymraeg.

- Sgwrs agored ar sut i gynyddu hyder aseswyr yn y Gymraeg, gan rannu heriau, llwyddiannau ac enghreifftiau ysbrydoledig.

Cynhaliwyd y sesiwn ar y 18fed o Fehefin 2025.
Agor
Cyflwyniad i yrfa mewn Therapi Iaith a Lleferydd
Ychwanegwyd: 29/09/2025
1.1K
Cyflwyniad i yrfa mewn Therapi Iaith a Lleferydd
Dyddiad cyhoeddi: 2025
Cymraeg Yn Unig
Cyflwyniad i yrfa mewn Therapi Iaith a Lleferydd
1.1K
Cymraeg Yn Unig
Tagiau
Iechyd a Gofal
Bwriad yr adnodd hwn yw:

Rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr am broffesiwn Therapi Iaith a Lleferydd
Egluro beth yw cyfathrebu a phwysigrwydd y proffesiwn wrth   gefnogi unigolion gydag anghenion cyfathrebu
Rhoi blas ar seminar lefel blwyddyn gyntaf yn y brifysgol

Mae’r adnodd hwn wedi ei ddatblygu ar y cyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Wrecsam gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Agor
Pecyn Prentis
Ychwanegwyd: 15/07/2025
2K
Pecyn Prentis
Dyddiad cyhoeddi: 2025
Dwyieithog
Pecyn Prentis
2K
Dwyieithog
Tagiau
Prentisiaethau
Adnodd Coleg Cymraeg
Siop un stop ar gyfer cyflogwyr i gefnogi prentisiaid dwyieithog a’r Gymraeg.

Mae Pecyn Prentis yn adnodd digidol cynhwysfawr wedi’i lunio er mwyn helpu cyflogwyr i recriwtio, datblygu a chefnogi prentisiaid sy’n defnyddio’r Gymraeg. Yma, cewch gyfuniad gwerthfawr o wybodaeth gyfredol, cyngor arbenigol ac adnoddau ymarferol sy’n addas ar gyfer pob cam o’r daith brentisiaeth.

O ddarparwyr prentisiaethau i gymorth gyda’r iaith Gymraeg a chyngor gyrfa, mae’r adnodd yn cwmpasu’r cyfan. Mae'n cynnwys astudiaethau achos ysbrydoledig, clipiau fideo bywiog a storïau o lwyddiant gan brentisiaid cyfredol neu sydd newydd gymhwyso, yn ogystal â chan eu cyflogwyr.

Boed yn gyflogwr newydd i fyd prentisiaethau neu’n sefydliad profiadol, mae Pecyn Prentis yn cynnig gwir fewnwelediad go-iawn, enghreifftiau o arfer dda, a chefnogaeth benodol er mwyn galluogi pob prentis i ffynnu mewn amgylchedd dwyieithog.
Agor
Cit Chwaraeon
Ychwanegwyd: 30/06/2025
1.9K
Cit Chwaraeon
Dyddiad cyhoeddi: 2025
Dwyieithog
Cit Chwaraeon
1.9K
Dwyieithog
Tagiau
Chwaraeon
Ôl-16
Addysg Ôl-16
Adnodd Coleg Cymraeg
Casgliad o adnoddau e-ddysgu Chwaraeon wedi'u teilwra ar gyfer dysgwyr ar Lefel 2. Ceir gwybodaeth ymarferol am sut i gynllunio a rhedeg sesiwn, y gwahanol swyddi a chyfrifoldebau yn y byd chwaraeon, cyngor defnyddiol a chip ar fywyd bob dydd amrywiaeth o bobl broffesiynol yn y maes.

Mae'r adnodd wedi'i rannu yn dair uned:

Cynllunio a Chyflawni Sesiwn Chwaraeon
Rolau a chyfrifoldebau Staff Chwaraeon a Hamdden
Gweithio yn y Diwydiant Chwaraeon
Agor
Astudiaethau Busnes
Ychwanegwyd: 22/05/2025
3.2K
Astudiaethau Busnes
Dyddiad cyhoeddi: 2024
Dwyieithog
Astudiaethau Busnes
3.2K
Dwyieithog
Tagiau
Astudiaethau Busnes
Ôl-16
Busnes
Addysg Ôl-16
Marchnata
Adnodd Coleg Cymraeg
Yn yr adnodd hwn byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o fusnesau a’u marchnadoedd. Mae’r adnodd wedi ei rannu’n chwe uned:

Archwilio Busnes
Marchnata
Cyllid Personol a Busnes
Busnes Rhyngwladol
Egwyddorion Rheolaeth
Gwneud Penderfyniadau Busnes

Yma cewch wybodaeth ynglŷn â busnesau a chwmnïau yng Nghymru y gallwch ei defnyddio i ymchwilio ymhellach neu er mwyn cwblhau aseiniadau.

Byddwch hefyd yn dod ar draws ymarferion byr ac astudiaethau achos a fydd yn profi eich dealltwriaeth yn fras.

Mae'r adnodd hwn yn targedu dysgwyr sy'n astudio cyrsiau busnes ar lefel 3.
Agor
Gweld Mwy
Tanysgrifio/Creu cyfrif
Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.
Unsupported Browser
Sorry, your web browser is not capable of supporting the features required by this website. We advise you upgrade your web browser before continuing to use this website.
The following web browsers are supported by this website:
Apple web kit UI
Version 537 or later
Microsoft Internet Explorer
Version 11 or later
Microsoft Edge
Any version
Google Chrome
Version 70 or later
Mozilla Firefox
Version 65 or later
Apple Safari
Version 601 or later
Opera
Version 60 or later
Facebook App
Any version
Twitter App
Any version
Please contact your system administrator if you require assistance upgrading or changing your web browser.
We will not notify you again about this until you next restart your browser.
Rhybudd
Title
Mae angen cyfrif
Bydd angen mewngofnodi i ychwanegu'r casgliad hwn i'ch ffefrynnau.
Mewngofnodi neu creu cyfrif