Singapôr - Wicipedia
Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Singapôr
Arwyddair
Onward, Singapore
Math
gwladwriaeth sofran,
dinas-wladwriaeth
, ynys-genedl,
dinas
, dinas â phorthladd, dinas fawr, tref ar y ffin,
gwlad
, dinas global, prifddinas cenedl
Enwyd ar ôl
Sinha
Prifddinas
Singapôr
Poblogaeth
5,866,139
Sefydlwyd
9 Awst 1965
Anthem
Onward Singapore
Pennaeth llywodraeth
Lawrence Wong
Cylchfa amser
UTC+08:00, Amser Safonol Singapôr, Asia/Singapôr
Gefeilldref/i
Gibraltar
P'yŏngyang
Iaith/Ieithoedd
swyddogol
Saesneg
Maleieg
, Mandarin safonol,
Tamileg
Daearyddiaeth
Gwlad
Singapôr
Arwynebedd
719.1 km²
Gerllaw
Culfor Singapôr, Afon Singapôr
Yn ffinio gyda
Maleisia
Indonesia
Cyfesurynnau
1.3°N 103.8°E
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredol
Llywodraeth Singapôr
Corff deddfwriaethol
Senedd Singapôr
Swydd pennaeth
y wladwriaeth
Arlywydd Singapôr
Pennaeth y wladwriaeth
Tharman Shanmugaratnam
Swydd pennaeth
y Llywodraeth
Prif Weinidog Singapôr
Pennaeth y Llywodraeth
Lawrence Wong
Crefydd/Enwad
Bwdhaeth
Taoaeth
Cristnogaeth
Islam
Hindŵaeth
Ariannol
Cyfanswm CMC (
GDP
$423,797 million, $466,789 million
Arian
Singapore dollar
Canran y diwaith
2.1 canran
Cyfartaledd plant
1.25
Mynegai Datblygiad Dynol
0.939
Ffeiliau perthnasol ar Comin
golygwch ar Wicidata
Gwlad sofran, dinas ac ynys yn ne-ddwyrain
Asia
yw
Singapôr
ynganiad
). Fe'i lleolir oddi ar flaen deheuol
Gorynys Malaya
, 137 km i'r gogledd o'r
Cyhydedd
. Cysylltir yr ynys â
Maleisia
gan
sarn
ar draws
Culfor Johor
. Singapôr yw un o
borthladdoedd
prysuraf y byd ac mae wedi dod yn ganolfan ddiwydiannol ac ariannol bwysig ers ei hannibyniaeth oddi wrth Lloegr ym 1965.
Gelwir hi weithiau'n 'Ddinas y Llewod', 'Dinas y Gerddi' neu'n 'Ddotyn Coch'. Hi yw'r unig wlad sofran sydd hefyd yn
ynys
. Saif un gradd (137 km) i'r gogledd o'r cyhydedd, i lawr i'r de, sydd y rhan mwyaf deheuol o gyfandir Asia. Mae ei thiriogaeth hefyd yn cynnwys 62 ynys arall ac ers ei hannibyniaeth adenillwyd llawer o dir newydd a gwelwyd gynnydd yn ei harwynebedd o 23% (130 km
) yn fwy a cheir gerddi cenedlaethol, er gwaetha dwysedd poblogaeth uchel. Ceir yma dyfiant trofannol hynod.
Eglwys Gadeiriol Sant Andreus
Sefydlwyd y Singapôr fodern yn 1819 gan Syr Stamford Raffles fel porthladd masnashu'r
Ymerodraeth Brydeinig
. Yn 1867, ad-drefnwyd cytrefi'r Ymerodraeth yn Ne-ddwyrain Asia a daeth Singapôr dan reolaeth uniongyrchol Lloegr fel rhan o Aneddiadau'r Culfor (
Straits Settlements
). Yn ystod yr
Ail Ryfel Byd
, meddiannwyd Singapôr gan Japan, a dychwelodd i reolaeth Prydain fel trefedigaeth y goron pan ildiodd Japan ym 1945. Enillodd Singapôr hunan-lywodraeth oddi wrth y DU ym 1959 ac ym 1963 daeth yn rhan o ffederasiwn newydd
Malaysia
, ochr yn ochr â Malaya, Gogledd Borneo, a Sarawak. Arweiniodd gwahaniaethau ideolegol at ddiarddel Singapore o'r ffederasiwn ddwy flynedd yn ddiweddarach a daeth yn wlad annibynnol.
Ar ôl blynyddoedd cynnar o gynnwrf ac er gwaethaf diffyg adnoddau naturiol a chefn gwlad, datblygodd y genedl yn gyflym i ddod yn un o'r "Pedwar Teigr Asiaidd" yn seiliedig ar fasnach allanol, gan ddod yn wlad ddatblygedig iawn; mae yn y nawfed safle ym
Mynegai Datblygiad Dynol
y Cenhedloedd Unedig ac mae
ganddo'r CMC ail-uchaf y pen (PPP)
yn y byd. Singapôr yw'r unig wlad yn Asia sydd â sgôr sofran AAA gan yr holl brif asiantaethau graddio. Mae'n ganolbwynt ariannol a morol o bwys, wedi'i rhestru'n gyson y ddinas ddrutaf i fyw ynddi ers 2013, ac mae wedi'i nodi fel
hafan dreth
. Mae Singapôr wedi'i osod yn uchel mewn dangosyddion cymdeithasol allweddol:
addysg
gofal iechyd
, ansawdd bywyd, diogelwch personol, a thai, gyda chyfradd
perchentyaeth
o 91%. Mae Singaporiaid yn mwynhau un o ddisgwyliadau oes hira'r byd, cyflymderau cysylltiad Rhyngrwyd cyflymaf ac un o'r cyfraddau marwolaethau babanod isaf yn y byd .
Mae Singapôr yn weriniaeth seneddol unedol gyda system o lywodraeth seneddol
unochrog
. Er bod etholiadau’n cael eu hystyried yn rhydd yn gyffredinol, mae’r llywodraeth yn arfer rheolaeth eitha llym dros wleidyddiaeth a chymdeithas, ac mae Plaid Weithredu’r Bobl wedi llywodraethu'n ddi-dor ers
annibyniaeth
. Mae'r wlad yn un o bum aelod
sefydlol ASEAN
, acyn bencadlys
Ysgrifenyddiaeth Cydweithrediad Economaidd Asia-Môr Tawel
(APEC) ac Ysgrifenyddiaeth Cyngor Cydweithrediad Economaidd y Môr Tawel (PECC), yn ogystal â llawer o gynadleddau a digwyddiadau rhyngwladol. Mae Singapôr hefyd yn aelod o'r
Cenhedloedd Unedig
Sefydliad Masnach y Byd
, Uwchgynhadledd Dwyrain Asia,
Mudiad Heb Aliniad
, a
Chymanwlad y Cenhedloedd
Geirdarddiad
golygu
golygu cod
Mae'r enw Cymraeg "Singapôr" (a nifer o ieithoedd eraill) yn dod o'r enw brodorol
Maleieg
am y wlad,
Singapura
, a oedd yn ei dro'n deillio o'r
gair Sansgrit
am "ddinas y llew" (a Ladineiddiwyd fel Siṃhapura; Brahmi: 𑀲𑀺𑀁𑀳𑀧𑀼𑀭; yn llythrennol "llew ddinas";
ystyr siṃha
yw "llew",
ystyr pura
yw "dinas" neu "gaer").
Ceir cofnod
Tsieineeaidd
o'r
3g
at
Pú Luó Zhōng
, sy'n swnio fel y
Maleieg
am "ynys ar ddiwedd penrhyn."
Ceir cyfeiriadau cynnar i'r ew 'Temasek' hefyd, a hynny yn y Nagarakretagama (canu mawl mewn
Jafaneg
), a ysgrifennwyd yn 1365, ac mewn
Fietnameg
ceir ffynhonnell o'r un cyfnod. Mae'r enw o bosibl yn golygu "Tref Glan Môr", sy'n deillio o'r gair
tasek
Malay
, sy'n golygu "môr" neu "lyn".
Oddeutu tua 1330 ymwelodd y teithiwr Tsieineaidd
Wang Dayuan
â lle o'r enw
Danmaxi
neu
Tam ma siak
, yn dibynnu ar ynganiad. Gall
Danmaxi
fod yn drawsgrifiad o Temasek (Tumasik), neu fe all fod yn gyfuniad o'r
Malay
Tanah
golygu "tir" a'r gair
Tseineeaidd
Xi
sy'n golygu "
tun
," a masnachwyd ar yr ynys.
Defnyddiwyd amrywiadau o'r enw
Siṃhapura
ar gyfer nifer o ddinasoedd ledled y rhanbarth cyn sefydlu
Teyrnas Singapura
. Yn y diwylliant Hindŵaidd-Bwdhaidd, roedd
llewod
yn gysylltiedig â phŵer ac amddiffyniad (fel ag yr oedd gan
Lywelyn Fawr
) a allai esbonio atyniad enw o'r fath.
O dan feddiannaeth Siapan, ailenwyd y wlad am ysbaid yn
Syonan
Shōnan
sy'n golygu "Golau o'r De."
Weithiau cyfeirir at Singapôr gan y llysenw "Gardd-Ddinas" gan gyfeirio at ei pharciau a'i strydoedd â'i choed.
10
Mabwysiadwyd enw anffurfiol arall, sef " Little Red Dot," ar ôl i cyhoeddi erthygl yn yr
Asian Wall Street Journal ar
4 Awst 1998.
11
12
13
14
Hanes
golygu
golygu cod
Yn 1299, yn ôl yr Malay Annals, y sefydlwyd
Teyrnas Singapura
ar yr ynys gan Sang Nila Utama.
15
Er bod hyn yn destun dadleuon academaidd,
mae'n hysbys serch hynny o amrywiol ddogfennau fod Singapôr yn y
14g
, a elwid yr adeg honno yn Temasek, yn borthladd masnachu pwysig a rannwyd rhwng yr Ymerodraeth Majapahit a theyrnasoedd Siamese
ac roedd yn rhan o'r Indosffer.
16
17
18
19
20
Nodweddwyd y teyrnasoedd Indiaidd hyn gan wytnwch rhyfeddol, uniondeb gwleidyddol a sefydlogrwydd gweinyddol.
21
Dengys ffynonellau hanesyddol hefyd bod y Majapahit neu'r Siamese wedi ymosod ar ei reolwr Parameswara tua diwedd y 14g, gan ei orfodi i symud i Malacca lle sefydlodd Sultanate Malacca.
Mae tystiolaeth archaeolegol yn awgrymu bod y prif anheddiad ar Fort Canning wedi'i adael tua'r adeg hon, er i anheddiad masnachu bach barhau yn Singapôr am beth amser wedi hynny.
Yn 1613, llosgodd ysbeilwyr Portiwgal yr anheddiad, a diflannodd yr ynys i ebargofiant am y ddwy ganrif nesaf.
22
Erbyn hynny roedd Singapôr yn rhan o'r Sultanate Johor mewn enw.
23
Roedd y rhanbarth morwrol ehangach a llawer o fasnach o dan reolaeth yr Iseldiroedd am y cyfnod canlynol ar ôl concwest yr Iseldiroedd o Malacca.
24
Gwladychu gan 'Brydain'
golygu
golygu cod
Cyrhaeddodd y llywodraethwr Seisnig Stamford Raffles Singapôr ar 28 Ionawr 1819 a chyn hir cydnabu'r ynys fel dewis naturiol ar gyfer porthladd newydd.
25
Yna rheolwyd yr ynys mewn enw gan Tengku Abdul Rahman, Swltan Johor, a oedd yn cael ei reoli gan yr Iseldiroedd a'r Bugis.
26
Fodd bynnag, gwanhawyd y Swltaniaeth: roedd Temenggong (Prif Weinidog) Tengku Abdul Rahman yn deyrngar i frawd hynaf y Sultan, Tengku Long, a oedd yn byw yn alltud yn
Riau
. Gyda chymorth y Temenggong, llwyddodd Raffles i smyglo Tengku Long yn ôl i Singapore. Cynigiodd Raffles gydnabod Tengku Long fel Sultan haeddiannol Johor, o dan y teitl Sultan Hussein, yn ogystal â darparu taliad blynyddol o $5000 a $3000 arall i'r Temenggong. Yn gyfnewid am hyn, byddai Sultan Hussein yn rhoi’r hawl i Loegr sefydlu porthladd i fasnachu ar Singapôr.
27
Llofnodwyd cytundeb ffurfiol ar 6 Chwefror 1819.
28
29
Map arolwg 1825. Bu masnach ym mhorthladd rhydd Singapôr am 150 mlynedd. Roedd bryn Fort Canning (canol) yn gartref i'w reolwyr trefedigaethol hynafol a chynnar.
Ar ôl
y Rhyfel Byd Cyntaf
, adeiladodd y Prydeinwyr canolfan i'w Llynges fawr yma fel rhan o'u strategaeth i ddal ei gafael yn Singapôr.
30
Cyhoeddwyd yn wreiddiol ym 1921, aeth y gwaith o adeiladu'r sylfaen ymlaen nes goresgyniad
Manchuria
gan Japan ym 1931. Costiodd $60 miliwn ac heb ei gwblhau'n llawn ym 1938, serch hynny, hwn oedd y
doc sych
mwyaf yn y byd, y doc arnofio trydydd-fwyaf, ac roedd ganddo ddigon o danciau tanwydd i gynnal llynges gyfan Prydain am chwe mis.
30
31
32
Amddiffynnwyd y porthladd yma gan ynna 15 modfedd (380 mm) a oedd wedi'u lleoli yn Fort Siloso, Fort Canning a Labrador, yn ogystal â maes awyr y
Llu Awyr Brenhinol
yng Nghanolfan Awyr Tengah.
Galwodd
Winston Churchill
y lle yn "
Gibraltar
y Dwyrain", ac roedd trafodaethau milwrol yn aml yn cyfeirio at y ganolfan yn syml fel " Dwyrain o Suez ". Fodd bynnag, roedd Fflyd Gartref Prydain wedi'i lleoli yn Ewrop, ac ni allai Lloegr fforddio adeiladu ail fflyd i amddiffyn eu buddiannau yn Asia. Y cynllun oedd i'r Fflyd Gartref hwylio yn gyflym i Singapore pe bai argyfwng. O ganlyniad, ar ôl i'r
Ail Ryfel Byd ddechrau
ym 1939, roedd y fflyd yn canolbwyntio ar amddiffyn Prydain, gan adael Singapôr yn agored i oresgyniad gan Japan.
33
34
Yr Ail Ryfel Byd
golygu
golygu cod
Lloegr yn ei heglu hi oddi yno, ym 1945 ar ôl ildio Japan. Mae tŵr rheoli Maes Awyr Kallang ger y ddinas wedi'i gadw hyd heddiw.
Yn ystod
Rhyfel y Môr Tawel
, daeth goresgyniad Japan o Malaya i ben gyda Brwydr Singapôr. Pan ildiodd llu Prydain o 60,000 o filwyr ar 15 Chwefror 1942, galwodd prif weinidog Prydain Winston Churchill y gorchfygiad "y trychineb gwaethaf a'r capitiwleiddio mwyaf yn hanes Prydain".
35
Roedd colledion Prydain a'r Ymerodraeth yn ystod yr ymladd dros Singapôr yn drwm, gyda chyfanswm o bron i 85,000 o bersonél wedi'u cipio.
36
Lladdwyd neu anafwyd tua 5,000;
37
Awstralia
y daeth y mwyafrif.
38
39
40
Lladdwyd 1,714 o Japaneiaid a chlwyfwyd 3,378.
36
Cyfnod ar ôl y rhyfel
golygu
golygu cod
Ar ôl ildio Japan i'r Cynghreiriaid ar 15 Awst 1945, aeth Singapôr gyflwr byr o anarchiaeth, trais ac anhrefn; roedd ysbeilio a lladd i ddial yn eang. Dychwelodd milwyr Prydain, Awstralia ac India dan arweiniad yr Arglwydd Louis Mountbatten i Singapôr i dderbyn ildiad ffurfiol lluoedd Japan yn y rhanbarth gan y Cadfridog Seishirō Itagaki ar ran y Cadfridog Hisaichi Terauchi ar 12 Medi 1945.
41
42
Rhoddwyd Tomoyuki Profwyd Yamashita gerbron y Llys gan gomisiwn milwrol yr Unol Daleithiau am droseddau rhyfel. Fe'i cafwyd yn euog a'i grogi yn
Ynysoedd
Philipinau
ar 23 Chwefror 1946.
43
44
Gweriniaeth Singapôr
golygu
golygu cod
Lee Kuan Yew
, prif weinidog cyntaf Singapore
Ar ôl cael eu diarddel o Malaysia, daeth yn annibynnol, dan yr enw 'Gweriniaeth Singapôr' Singapôr, ar 9 Awst 1965, gyda
Lee Kuan Yew
yn brif weinidog a Yusof bin Ishak yn arlywydd cyntaf.
45
46
Yn 1967, cyd-sefydlodd y wlad
Gymdeithas Cenhedloedd De-ddwyrain Asia
(ASEAN). Dechreuodd terfysgoedd hil unwaith eto ym 1969.
47
Pwysleisiodd Lee Kuan Yew yr ochr economaidd drwy entrepreneuriaeth busnes, a chyfyngiadau ar ddemocratiaeth fewnol, a llwyddodd yn ei ymgais.
48
49
Parhaodd twf economaidd trwy gydol yr
1980au
, gyda'r gyfradd ddiweithdra yn gostwng i 3% a thwf CMC go iawn ar gyfartaledd tua 8% hyd at 1999. Yn ystod yr
1980au
, dechreuodd Singapôr symud tuag at ddiwydiannau uwch-dechnoleg, er mwyn parhau i fod yn gystadleuol yn erbyn gwledydd cyfagos drwy gynhyrchu gyda llafur rhatach. Agorwyd Maes Awyr 'Changi Singapore' ym 1981 a ffurfiwyd Singapore Airlines.
50
Daeth
Porthladd Singapôr
yn un o borthladdoedd prysuraf y byd a thyfodd y diwydiannau gwasanaeth a thwristiaeth yn aruthrol yn ystod y cyfnod hwn.
51
52
Llywodraeth a gwleidyddiaeth
golygu
golygu cod
Yr Istana
yw preswylfa swyddogol a swyddfa'r Arlywydd, yn ogystal â swyddfa weithredol y Prif Weinidog.
Gweriniaeth seneddol
yw Singapôr sy'n seiliedig ar system San Steffan, oherwydd y cysylltiad a fu yn y gorffennol. Cyfansoddiad y wlad yw cyfraith oruchaf y wlad, gan sefydlu strwythur a chyfrifoldeb y llywodraeth. Yr arlywydd yw pennaeth y wladwriaeth ac mae'n arfer pŵer gweithredol ar gyngor ei weinidogion. Y prif weinidog yw pennaeth y llywodraeth ac fe’i penodir gan yr arlywydd fel y person sydd fwyaf tebygol o ennyn hyder mwyafrif y Senedd. Dewisir y Cabinet gan y prif weinidog a'i benodi'n ffurfiol gan yr arlywydd.
53
Milwrol
golygu
golygu cod
Mae byddin Singapôr, y gellir dadlau ei fod y mwyaf datblygedig, yn dechnolegol, yn Ne-ddwyrain Asia,
54
yn cynnwys y fyddin, y llynges, a'r llu awyr. Fe'i gwelir fel gwarantwr annibyniaeth y wlad.
55
56
Mae'r llywodraeth yn gwario 4.9% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth y wlad ar y fyddin - sy'n uchel yn ôl safonau rhanbarthol
54
- ac mae un o bob pedair doler o wariant y llywodraeth yn cael ei wario ar amddiffyn.
57
Hawliau Dynol
golygu
golygu cod
Mae Cornel yr Areithwyr yn Chinatown yn darparu man cyhoeddus ac ardal lle gellir siarad yn rhydd, sydd wedi'i gyfyngu mewn rhannau eraill o'r ynys.
Yn 2020, roedd Singapôr yn y 158fed safle allan o 180 o genhedloedd gan 'Ohebwyr Heb Ffinia'u ym Mynegai Rhyddid y Wasg 'Worldwide'.
58
Yn hanesyddol, mae'r llywodraeth wedi cyfyngu ar ryddid barn a
rhyddid y wasg
ac wedi cyfyngu rhai
hawliau sifil
a gwleidyddol.
59
Cyfyngir ar yr hawl i ryddid barn a chymdeithas a warantir gan Erthygl 14 (1) o Gyfansoddiad Singapôr gan is-adran (2) ddilynol yr un Erthygl.
60
Mae Freedom House yn graddio Singapôr fel "rhannol rydd" yn ei
adroddiad Rhyddid yn y Byd
61
ac mae Uned Cudd-wybodaeth yr
Economegydd
yn graddio Singapôr fel "democratiaeth ddiffygiol", yr ail reng orau o bedwar, yn ei " Mynegai Democratiaeth".
62
63
Yn etholiad cyffredinol 2015 Singapôr, enillodd Plaid Weithredu'r Bobl (PAP) 83 o 89 sedd a ymladdwyd â 70% o'r bleidlais boblogaidd.
64
Roedd yr etholiadau diweddaraf yng Ngorffennaf 2020, gyda Phlaid Gweithredu'r Bobl (PAP) yn ennill 83 o 93 sedd a ymladdwyd â 61% o'r bleidlais boblogaidd.
Mae Amnest Rhyngwladol
wedi dweud bod rhai o ddarpariaethau cyfreithiol system Singapôr yn gwrthdaro â’r “hawl i gael eich rhagdybio’n ddieuog nes eich profi’n euog”.
65
Mae'r llywodraeth wedi dadlau yn erbyn honiadau Amnest, gan nodi nad yw eu "safbwynt ar ddileu'r gosb eithaf yn wrthwynebus yn rhyngwladol o bell ffordd" a bod yr Adroddiad yn cynnwys "gwallau difrifol o ffeithiau a chamddarluniadau".
66
Mae system farnwrol Singapore yn cael ei hystyried yn un o'r rhai mwyaf dibynadwy yn Asia.
67
Mae
masnachu mewn rhyw
yn Singapôr yn broblem sylweddol. Mae menywod a merched o Singapôr a merched tramor wedi cael eu gorfodi i buteindra mewn puteindai ac wedi cael eu cam-drin yn gorfforol ac yn seicolegol.
68
69
70
Mae deddf sy'n dyddio o 1938 yn gwahardd cysylltu rhywiol rhwng dynion, ond anaml y gorfodir y gyfraith. Ar y llaw arall, mae cysylltiadau rhywiol rhwng menywod yn gyfreithiol.
71
Daearyddiaeth
golygu
golygu cod
Canol Singapôr
Mae Singapôr yn cynnwys 63 o ynysoedd, gan gynnwys y brif ynys, Pulau Ujong.
72
Ynys Jurong
, Pulau Tekong, Pulau Ubin a Sentosa yw'r mwyaf o ynysoedd Singapôr. Y pwynt naturiol uchaf yw Bryn Bukit Timah yn sy'n 163 metr o chder.
73
O dan lywodraeth Prydain, roedd
Ynys y Nadolig
a'r
Ynysoedd Cocos
yn rhan o Singapôr, ond trosglwyddwyd y ddau i
Awstralia
ym 1957.
74
75
76
Pedra Branca yw pwynt mwyaf dwyreiniol y genedl.
77
Mae prosiectau adfer tir wedi cynyddu arwynebedd tir Singapore o 580 km sgwar yn y
1960au
i 710 km sg erbyn 2015, cynnydd o ryw 22% (130 km
).
78
Rhagwelir y bydd y wlad yn adennill 56 km sg yn y dyfodol agos.
79
Mae rhai prosiectau'n cynnwys uno ynysoedd llai trwy adfer tir i ffurfio ynysoedd mwy, fel y gellir byw arnynt, fel y gwnaed gydag Ynys Jurong.
80
Mae'r math o dywod a ddefnyddir wrth adfer i'w gael mewn afonydd a thraethau, yn hytrach nag anialwch, ac mae galw mawr amdano ledled y byd. Yn 2010 mewnforiodd Singapôr bron i 15 miliwn tunnell o dywod ar gyfer ei phrosiectau, gyda'r galw yn golygu bod Indonesia, Malaysia a
Fietnam
i gyd wedi cyfyngu neu wahardd allforio tywod i Singapôr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. O ganlyniad, yn 2016 newidiodd Singapôr i ddefnyddio
polderi ar
gyfer adfer, lle mae ardal wedi'i hamgáu ac yna ei bwmpio'n sych.
81
Mae Gerddi Botaneg Singapore yn
Safle Treftadaeth y Byd UNESCO
- un o dair gardd yn y byd, a'r unig ardd drofannol, i gael ei chydnabod felly.
Natur
golygu
golygu cod
Mae trefoli Singapôr yn golygu ei bod wedi colli 95% o'i choedwigoedd hanesyddol,
82
ac erbyn hyn mae dros hanner y ffawna a'r fflora sy'n digwydd yn naturiol yn Singapôr yn bresennol mewn gwarchodfeydd natur yn unig, fel Gwarchodfa Natur Bukit Timah a Gwarchodfa Gwlyptir Sungei Buloh, sy'n cynnwys dim ond 0.25% o arwynebedd tir Singapôr.
82
Yn 1967, er mwyn brwydro yn erbyn y dirywiad hwn mewn gerddi a pharciau naturiol, cyflwynodd y llywodraeth y weledigaeth o wneud Singapôr yn "ardd-ddinas",
83
gyda'r nod o wella ansawdd bywyd i'w dinasyddion.
84
Ers hynny, mae bron i 10% o dir Singapore wedi'i neilltuo ar gyfer parciau a gwarchodfeydd natur
85
a cheir cynlluniau i warchod y bywyd gwyllt sy'n weddill yn y wlad gan y Llywodraeth.
86
Mae gerddi adnabyddus Singapôr yn cynnwys Gerddi Botaneg Singapôr, gardd drofannol 161 oed a
Safle
Treftadaeth y Byd
UNESCO cyntaf yn Singapore.
87
Hinsawdd
golygu
golygu cod
Mae gan Singapôr
hinsawdd coedwig law drofannol
(Köppen:
Af
) heb dymhorau nodedig, tymheredd a gwasgedd unffurf, lleithder uchel, a glawiad toreithiog.
88
89
Mae'r tymheredd fel arfer yn amrywio o 23 to 32 °C (73 to 90 °F). Er nad yw'r tymheredd yn amrywio'n fawr trwy gydol y flwyddyn, ceir tymor monswn gwlypach rhwng Tachwedd a Chwefror.
90
Rhwng Gorffennaf a mis Hydref, yn aml tawch a mwg a achosir gan danau yn
Indonesia
gyfagos, fel arfer o ynys
Sumatra
91
Mae Singapôr yn dilyn parth amser GMT + 8, awr o flaen y parth nodweddiadol ar gyfer ei leoliad daearyddol.
92
Mae hyn yn achosi i'r haul godi a machlud yn arbennig o hwyr yn ystod mis Chwefror, lle mae'r haul yn codi am 7:15 y bore ac yn machlud tua 7:20 yp. Yn ystod Gorffennaf, mae'r haul yn machlud tua 7:15 yp. Y cynharaf y bydd yr haul yn codi ac yn machlud yw ddiwedd mis Hydref a dechrau mis Tachwedd pan fydd yr haul yn codi am 6:46 am ac yn gosod am 6:50 yp.
93
Economi
golygu
golygu cod
Dathlodd Singapore Airlines, Jiwbilî Aur y genedl yn 2015 gyda baner y wlad ar ei
Airbus A380
Mae gan Singapôr economi a marchnad ddatblygedig iawn. Ynghyd â
Hong Kong
De Korea
, a
Taiwan
, mae Singapore yn un o'r
Pedwar Teigr Asiaidd
, ac mae wedi rhagori ar y gwledydd eraill o ran
Cynnyrch mewnwladol crynswth
(GDP) y pen. Rhwng 1965 a 1995, roedd cyfraddau twf ar gyfartaledd oddeutu 6% y flwyddyn, a bu i'r cynnydd hwn drawsnewid safonau byw'r boblogaeth.
94
Mae economi Singapôr yn cael ei ystyried yn rhydd,
95
yn arloesol,
96
yn ddeinamig
97
ac yn gyfeillgar i fusnes.
98
Am sawl blwyddyn, mae'r wlad wedi bod yn un o'r ychydig
99
sydd â statws credyd AAA, a'r unig wlad Asiaidd i gyflawni'r sgôr yma.
100
Mae wedi denu llawer iawn o fuddsoddiad tramor o ganlyniad i'w lleoliad, gweithlu medrus, cyfraddau treth isel, seilwaith datblygedig a dim goddefgarwch yn erbyn llygredd.
101
Hi yw economi fwyaf cystadleuol y byd, yn ôl
safle Fforwm Economaidd
y Byd o 141 o wledydd,
102
gyda'r ail
GDP uchaf y pen
103
104
Ceir mwy na 7,000 o gorfforaethau rhyngwladol o'r Unol Daleithiau, Japan ac Ewrop yn Singapôr.
105
106
Er gwaethaf rhyddid y farchnad, mae lywodraeth Singapore ei bus ym mrywes yr economi, gan gyfrannu 22% o'r CMC.
107
Dywedir fod y ddinas yn lleoliad poblogaidd ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau crofforaethol mawr.
108
Cyfeiriadau
golygu
golygu cod
"Singapore"
. bartleby.com. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 11 Ebrill 2001
. Cyrchwyd
13 Mai
2020
"Singapore: History, Singapore 1994"
. Asian Studies @ University of Texas at Austin. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 23 Mawrth 2007
. Cyrchwyd
13 Mai
2020
3.0
3.1
Singapore Street Names: A Study of Toponymics
. Marshall Cavendish. 15 Mehefin 2013. t. 381.
ISBN
9789814484749
John N. Miksic (15 Tachwedd 2013).
Singapore and the Silk Road of the Sea, 1300–1800
. NUS Press. tt. 171–182.
ISBN
978-9971695743
5.0
5.1
5.2
5.3
Miksic 2013
Joshua Lee (6 December 2016).
"5 other places in Asia which are also called Singapura"
Mothership
. Cyrchwyd
13 Mai
2020
7.0
7.1
Turnbull, C.M. (2009).
A History of Modern Singapore, 1819–2005
. NUS Press. tt. 21–22.
ISBN
978-9971-69-430-2
Abshire, Jean (2011).
The History of Singapore
. ABC-CLIO. t. 104.
ISBN
978-0-313-37743-3
Blackburn, Kevin; Hack, Karl (2004).
Did Singapore Have to Fall?: Churchill and the Impregnable Fortress
. Routledge. t. 132.
ISBN
978-0-203-40440-9
inc, Encyclopaedia Britannica (1991).
The New Encyclopædia Britannica
(arg. 15th). Chicago: Encyclopædia Britannica. t.
832
Bibcode
1991neb..book.....G
ISBN
978-0-85229-529-8
"Singapore, known variously as the 'Lion City,' or 'Garden City,' the latter for its many parks and tree-lined streets
Glennie, Charlotte; Ang, Mavis; Rhys, Gillian; Aul, Vidhu; Walton, Nicholas (6 Awst 2015).
"50 reasons Singapore is the best city in the world"
. CNN
. Cyrchwyd
13 Mai
2020
The Lion City. The Garden City. The Asian Tiger. The 'Fine' City. All venerable nicknames, and the longtime favourite is the 'Little Red Dot'
"A little red dot in a sea of green"
The Economist
. London. 16 Gorffennaf 2015.
..with a characteristic mixture of pride and paranoia, Singapore adopted 'little red dot' as a motto
"Editorial: The mighty red dot"
The Jakarta Post
. 8 Medi 2017
. Cyrchwyd
13 Mai
2020
"Habibie truly admired the 'Little Red Dot'",
Today (Singapore newspaper)
, 20 Medi 2006
Malay Annals
. 1821. t. 43.
Dixon, Robert M.W.; Alexandra, Y. (2004).
Adjective Classes: A Cross-linguistic Typology
. Oxford University Press. t.
74
ISBN
0-19-920346-6
Matisoff, James
(1990), "On Megalocomparison",
Language
66
(1): 106–120,
doi
10.2307/415281
JSTOR
415281
Enfield, N.J. (2005),
"Areal Linguistics and Mainland Southeast Asia"
Annual Review of Anthropology
34
: 181–206,
doi
10.1146/annurev.anthro.34.081804.120406
Lavy, Paul A..
"As in Heaven, So on Earth: The Politics of Visnu Siva and Harihara Images in Preangkorian Khmer Civilisation"
Journal of Southeast Asian Studies
(academia edu)
34
(1): 21–39.
doi
10.1017/S002246340300002X
. Adalwyd 23 December 2015
"Results of the 1995–1996 Archaeological Field Investigations at Angkor Borei, Cambodia"
(PDF)
. University of Hawai'i-Manoa. Archifwyd o'r
gwreiddiol
(PDF)
ar 23 Medi 2015
. Cyrchwyd
5 Gorffennaf
2015
Pierre-Yves Manguin, "From Funan to Sriwijaya: Cultural continuities and discontinuities in the Early Historical maritime states of Southeast Asia", in
25 tahun kerjasama Pusat Penelitian Arkeologi dan Ecole française d'Extrême-Orient,
Jakarta, Pusat Penelitian Arkeologi / EFEO, 2002, p. 59-82.
Borschberg, P. (2010).
The Singapore and Melaka Straits. Violence, Security and Diplomacy in the 17th century
. Singapore: NUS Press. tt. 157–158.
ISBN
978-9971-69-464-7
"Country Studies: Singapore: History"
. U.S. Library of Congress
. Cyrchwyd
1 Mai
2007
Leitch Lepoer, Barbara, gol. (1989).
Singapore: A Country Study
. Country Studies. GPO for tus/singapore/4.htm
. Cyrchwyd
18 Chwefror
2010
Mun Cheong Yong; V. V. Bhanoji Rao (1995).
Singapore-India Relations: A Primer
. NUS Press. t. 3.
ISBN
978-9971-69-195-0
Trocki, Carl A. (2009).
Singapore: Wealth, Power and the Culture of Control
. Routledge. t. 73.
ISBN
978-1-134-50243-1
"Singapore – Founding and Early Years"
U.S. Library of Congress
. Cyrchwyd
18 Gorffennaf
2006
Ng, Jenny (7 Chwefror 1997).
"1819 – The February Documents"
Ministry of Defence
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2017-07-17
. Cyrchwyd
18 Gorffennaf
2006
"Milestones in Singapore's Legal History"
Supreme Court, Singapore
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 27 Medi 2007
. Cyrchwyd
18 Gorffennaf
2006
30.0
30.1
Stille, Mark (2016).
Malaya and Singapore 1941–42: The fall of Britain's empire in the East
. Bloomsbury Publishing. tt. 5–6.
ISBN
978-1-4728-1124-0
Tan, Kevin (2008).
Marshall of Singapore: A Biography
. Institute of Southeast Asian Studies. tt. 90–.
ISBN
978-981-230-878-8
Hobbs, David (2017).
The British Pacific Fleet: The Royal Navy's Most Powerful Strike Force
. Naval Institute Press. t. 5.
ISBN
978-1-61251-917-3
Lamb, Margaret; Tarling, Nicholas (2001).
From Versailles to Pearl Harbor: The Origins of the Second World War in Europe and Asia
. Macmillan International Higher Education. t. 39.
ISBN
978-1-4039-3772-8
dolen farw
Tan, Kevin (2008).
Marshall of Singapore: A Biography
ISBN
978-981-230-878-8
"On This Day – 15 February 1942: Singapore forced to surrender"
BBC News
. 15 Chwefror 1942
. Cyrchwyd
1 Mai
2007
36.0
36.1
Wigmore 1957
"Battle of Singapore"
. World History Group
. Cyrchwyd
8 Mai
2015
Legg 1965
Ooi, Teresa (17 Ionawr 1995). "1,000 Aussie victims of WWII join suit against Japan".
The Straits Times
. Singapore.
"South West Pacific War: Australia's Fine Record"
The Straits Times
. Singapore. 12 Medi 1946.
Bose 2010
"The real Japanese surrender"
(PDF)
The Sunday Times
. Singapore. 4 Medi 2005. Archifwyd o'r
gwreiddiol
(PDF)
ar 19 Ionawr 2008
. Cyrchwyd
22 Hydref
2019
Smith 2006
"Yamashita Hanged"
Malaya Tribune
. 23 Chwefror 1946.
"Past and present leaders of Singapore | Infopedia"
eresources.nlb.gov.sg
. Cyrchwyd
28 Mai
2020
"Yusof to be the first President"
eresources.nlb.gov.sg
. Cyrchwyd
28 Mai
2020
Sandhu, Kernial Singh; Wheatley, Paul (1989).
Management of Success: The Moulding of Modern Singapore
. Institute of Southeast Asian Studies. t. 107.
ISBN
978-981-3035-42-3
Terry McCarthy, "Lee Kuan Yew."
"Lee Kuan Yew: Our chief diplomat to the world"
The Straits Times
. Singapore. 25 Mawrth 2015.
"History of Changi Airport"
. Civil Aviation Authority of Singapore. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 29 Mehefin 2006.
"LUNCH DIALOGUE ON 'SINGAPORE AS A TRANSPORT HUB
Lee Kuan Yew School of Public Policy
. Lee Kuan Yew School of Public Policy
. Cyrchwyd
17 Tachwedd
2018
Lam, Yin Yin.
"Three factors that have made Singapore a global logistics hub"
The World Bank Blogs
. The World Bank
. Cyrchwyd
17 Tachwedd
2018
Morgan, Grace, gol. (2016).
A Guide to the Singapore Constitution
Singapore Management University
. tt. 33–36.
54.0
54.1
Moss, Trefor (18 Ionawr 2010).
"Buying an advantage"
Jane's Defence Review
. London. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 23 Ionawr 2010.
"SAF remains final guarantor of Singapore's independence"
. Singapore: Channel NewsAsia. 1 Gorffennaf 2007. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2011-05-16
. Cyrchwyd
19 Chwefror
2011
"Lunch Talk on "Defending Singapore: Strategies for a Small State" by Minister for Defence Teo Chee Hean"
(Press release). 21 Ebrill 2005. Archifwyd o
y gwreiddiol
ar 2007-10-24
. Adalwyd 2021-10-16
"S'pore to boost expenditure, raise defence spending"
AsiaOne
. Singapore. 13 Hydref 2011. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 11 Ionawr 2012
. Cyrchwyd
13 Hydref
2011
"An alternative way to curtail press freedom"
RSF
(yn Saesneg)
. Cyrchwyd
23 Ebrill
2020
"The government of Singapore says it welcomes criticism, but its critics still suffer"
The Economist
. London. 9 Mawrth 2017.
"Constitution of the Republic of Singapore – Singapore Statutes Online"
sso.agc.gov.sg
(yn Saesneg)
. Cyrchwyd
28 Mai
2020
"Freedom in the World 2010 – Singapore"
. Freedom House. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2012-01-07
. Cyrchwyd
12 Mehefin
2011
"Singapore"
. Freedom House. 2013. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 3 Mai 2014
. Cyrchwyd
28 Mai
2014
The Economist Intelligence Unit (8 Ionawr 2019).
"Democracy Index 2018: Me Too?"
The Economist Intelligence Unit
. Cyrchwyd
13 Ionawr
2019
Lee, U-Wen.
"PAP racks up landslide win, takes 83 out of 89 seats"
Business Times
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 13 Medi 2015
. Cyrchwyd
13 Medi
2015
"Singapore: The death penalty – A hidden toll of executions"
. Amnesty International. 2003. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 13 Ionawr 2012
. Cyrchwyd
1 Mai
2011
"The Singapore Government's Response To Amnesty International's Report 'Singapore – The Death Penalty: A Hidden Toll Of Executions'"
(Press release). 30 Ionawr 2004. Archifwyd o
y gwreiddiol
ar 2007-11-14
. Adalwyd 2021-10-16
"Hong Kong has best judicial system in Asia: business survey"
ABS-CBN News
. Quezon City. Agence France-Presse. 15 Medi 2008. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2011-05-11
. Cyrchwyd
24 Tachwedd
2016
"How a 14-year-old girl was trafficked to Singapore and locked up"
Asia One
. 2017.
"Sex trafficking in Singapore: How changes to the law Mai protect women duped into prostitution"
CNA
. 10 Tachwedd 2019.
She had lost all reason to live': Undoing the horrors of being trafficked to Singapore and seeking justice"
cna
. 15 Chwefror 2020.
Wong, Jonathan (2 Hydref 2018).
"Government has not curbed public prosecutor's discretion for Section 377A: A-G Lucien Wong"
The Straits Times
Savage, Victor R.; Yeoh, Brenda S.A. (2004).
Toponymics: A Study of Singapore's Street Names
. Singapore: Eastern Universities Press.
ISBN
978-981-210-364-2
"Bukit Timah Hill"
. National Heritage Board. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 9 Ebrill 2015
. Cyrchwyd
11 Ionawr
2015
Commonwealth and Colonial Law by
Kenneth Roberts-Wray
, London, Stevens, 1966.
Department of External Affairs in Australia. (16 Mai 1957): Report from the Australian High Commission in Singapore to the Department of External Affairs in Australia.
"All set for transfer"
The Straits Times
. Singapore. 16 Mai 1958. t. 2.
"Pedra Branca"
. Ministry of Foreign Affairs
. Cyrchwyd
4 Chwefror
2020
"Such quantities of sand"
The Economist
. London. 28 Chwefror 2015.
"MND Land Use Report"
. Ministry of National Development. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 4 Chwefror 2013.
"Earthshots: Satellite Images of Environmental Change: Singapore"
. Earthshots
. Cyrchwyd
14 Ebrill
2015
"New ideas to feed a growing island"
The Straits Times
. Singapore. 4 Chwefror 2018.
82.0
82.1
Brook, Barry W.; Sodhi, Navjot S.; Ng, Peter K.L. (24 Gorffennaf 2003).
"Catastrophic extinctions follow deforestation in Singapore"
Nature
424
(6947): 420–426.
Bibcode
2003Natur.424..420B
doi
10.1038/nature01795
ISSN
0028-0836
PMID
12879068
Garden City" vision is introduced"
. History SG
. Cyrchwyd
16 Tachwedd
2016
"Singapore, A City in a Garden"
(PDF)
. National Parks Board. Archifwyd o'r
gwreiddiol
(PDF)
ar 24 Mawrth 2014.
"Speech by MOS Desmond Lee at the Asia for Animals Conference Gala Dinner"
. National Development Ministry. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 10 Gorffennaf 2014
. Cyrchwyd
17 Ionawr
2014
"National Initiatives"
. National Biodiversity Reference Center. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 5 Hydref 2007
. Cyrchwyd
26 Medi
2009
"Singapore Botanic Gardens declared UNESCO World Heritage Site"
. Channel NewsAsia. 4 Gorffennaf 2015. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 15 Tachwedd 2017
. Cyrchwyd
15 Tachwedd
2017
"Climate of Singapore |"
www.weather.gov.sg
. Cyrchwyd
28 Mai
2020
McKnight, Tom L. (Tom Lee); Hess, Darrel (2000).
Physical geography : a landscape appreciation
. Internet Archive. Upper Saddle River, N.J. : Prentice Hall
. Cyrchwyd
28 Mai
2020
"Singapore National Environment Agency Weather Statistics"
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 31 Hydref 2016
. Cyrchwyd
24 Tachwedd
2016
Bond, Sam (2 Hydref 2006).
"Singapore enveloped by Sumatran smog"
Edie newsroom
. Cyrchwyd
2 Mehefin
2011
Mok Ly Yng (22 Medi 2010).
"Why is Singapore in the 'Wrong' Time Zone?"
. National University of Singapore. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 28 Gorffennaf 2010
. Cyrchwyd
5 Mai
2020
"Astronomical and Tidal Information | Monthly Data |"
www.weather.gov.sg
. Cyrchwyd
31 Mai
2020
Baten, Jörg (2016).
A History of the Global Economy. From 1500 to the Present
. Cambridge University Press. t. 292.
ISBN
978-1-107-50718-0
Li, Dickson (1 Chwefror 2010).
"Singapore is most open economy: Report"
Asiaone
. Singapore. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 7 Chwefror 2010
. Cyrchwyd
10 Mai
2011
"Singapore ranked 7th in the world for innovation"
The Straits Times
. Singapore. 5 Mawrth 2010
. Cyrchwyd
23 Awst
2010
"Singapore jumps to top of Global Dynamism Index"
The Straits Times
. Singapore. 29 Hydref 2015.
"Singapore top paradise for business: World Bank"
AsiaOne
. Singapore. Agence France-Presse. 26 Medi 2007. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 7 Gorffennaf 2009
. Cyrchwyd
22 Ebrill
2010
For the second year running, Singapore tops the aggregate rankings on the ease of doing business in 2006 to 2007.
"The AAA-rated club: which countries still make the grade?"
The Guardian
. London. 15 Hydref 2014.
Ogg, Jon C. (8 Awst 2011).
"Remaining countries with AAA credit ratings"
NBC News
. Cyrchwyd
12 Hydref
2011
"CPIB Corruption Statistics 2015"
(PDF)
. World Bank. 2 Ebrill 2015. Archifwyd o'r
gwreiddiol
(PDF)
ar 22 Mawrth 2016.
"Singapore is world's most competitive economy: World Economic Forum"
Straits Times
. 9 Hydref 2019.
"Report for Selected Countries and Subjects"
www.imf.org
. Cyrchwyd
7 Hydref
2019
"Report for Selected Countries and Subjects"
www.imf.org
. Cyrchwyd
7 Hydref
2019
"MNCs: Why you should set up a subsidiary in Singapore"
Hawksford
. Cyrchwyd
23 Awst
2021
"44 Percent of Workforce Are Non-Citizens" (our estimate)"
Your Salary in Singapore
. 15 Mawrth 2010. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 21 Chwefror 2016.
Seung-yoon Lee (9 Ebrill 2014).
"Ha-Joon Chang: Economics Is A Political Argument"
HuffPost
. Cyrchwyd
18 Gorffennaf
2014
"Singapore remains top Asian city for meetings"
The Straits Times
. Singapore. 9 Medi 2015.
gw
sg
go
Asia
Gwladwriaethau sofranaidd
Affganistan
Bahrain
Bangladesh
Bhwtan
Brunei
Cambodia
Catar
Cirgistan
Corea
De Corea
Gogledd Corea
Coweit
Dwyrain Timor
Yr Emiradau Arabaidd Unedig
Fietnam
Gogledd Cyprus
Gwlad Iorddonen
Gwlad Tai
India
Iran
Irac
Israel
Japan
Laos
Libanus
Maleisia
Maldives
Mongolia
Myanmar
Nepal
Oman
Pacistan
y Philipinau
Sawdi Arabia
Singapôr
Sri Lanca
Syria
Tajicistan
Tsieina
Gweriniaeth Pobl Tsieina
Gweriniaeth Tsieina
Tyrcmenistan
Wsbecistan
Gwladwriaethau trawsgyfandirol
Yr Aifft
Armenia
Aserbaijan
Casachstan
Cyprus
Georgia
Iemen
Indonesia
Rwsia
Twrci
Tiriogaethau dibynnol
ardaloedd ymreolaethol
thiriogaethau
eraill
Hong Cong
Macau
Tibet
Tiriogaethau Palesteinaidd
Dynodir
gwlad anghydnabyddedig neu a gydnabyddir yn rhannol
gan
lythrennau italig
Cydnabyddir gan
Dwrci
yn unig.
Gyda'r mwyafrif o'i thir yn
Affrica
Yn
Ne Orllewin Asia
yn gyfan gwbwl, ond ystyrir yn rhan o
Ewrop
am resymau hanesyddol, gwleidyddol, ac/neu diwylliannol.
Yn rhannol neu ddim o gwbwl yn Ewrop, yn dibynnu ar ddiffiniadau'r ffiniau rhwng Ewrop ac Asia.
Ystyrid weithiau yn rhan o
Oceania
Gyda lleiafrif o'i thir yn Asia.
Ystyrid ynysfor
Socotra
yn rhan o Affrica.
Gweinyddir gan Weriniaeth Pobl Tsieina.
Nid yn llwyr annibynnol.
Wedi dod o "
Categorïau
Aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig
Aelod-wladwriaethau'r Gymanwlad
Aelod-wladwriaethau ASEAN
Dinas-wladwriaethau
Gwledydd a thiriogaethau Maleieg
Gwledydd a thiriogaethau Saesneg
Gwledydd Asia
Gweriniaethau'r Gymanwlad
Prifddinasoedd Asia
Singapôr
Categorïau cudd:
Nodyn
Pages containing cite templates with deprecated parameters
CS1 Saesneg-language sources (en)
Erthyglau sy'n defnyddio Nodyn Gwybodlen lle Wicidata
Erthyglau microfformat hAudio
Erthyglau sy'n cynnwys testun Japaneg
Pages using the Kartographer extension
Singapôr
Ychwanegu pwnc
US