Tref y Penrhyn - Wicipedia
Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Tref y Penrhyn
Math
dinas â phorthladd, endid tiriogaethol (ystadegol), dinas fawr, legislative capital, prifddinas cenedl, endid tiriogaethol gweinyddol
Enwyd ar ôl
Penrhyn Gobaith Da
Poblogaeth
3,776,313
Sefydlwyd
1652
Pennaeth llywodraeth
Geordin Hill-Lewis
Cylchfa amser
UTC+2
Gefeilldref/i
Aachen
Haifa
, Hangzhou,
Nice
St Petersburg
Funchal
Antwerp
Pune
San Francisco
Buenos Aires
Johannesburg
İzmir
Monterrey
Iaith/Ieithoedd
swyddogol
Affricaneg
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol
Western Cape
Sir
Sir Tref y Penrhyn
Gwlad
De Affrica
Arwynebedd
2,454.72 km²
Uwch y môr
5 metr
Gerllaw
Bae'r Bwrdd
Cyfesurynnau
33.9253°S 18.4239°E
Cod post
8001, 8000
Swydd pennaeth
y Llywodraeth
Maer Cape Town
Pennaeth y Llywodraeth
Geordin Hill-Lewis
Ffeiliau perthnasol ar Comin
golygwch ar Wicidata
Prifddinas
, porthladd a'r ail ddinas fwyaf poblog yn
Ne Affrica
yw
Tref y Penrhyn
Saesneg
Cape Town
Affricaneg
Kaapstad
/ˈkɑːpstɑt/
Xhosa
iKapa
) a elwir ar lafar yn "Fam Ddinas".
Mae'n brifddinas daleithiol
Gorllewin y Penrhyn
, yn ganolfan bwrdeistref Dinas Tref y Penrhyn ac yma y lleolir Senedd y wlad.
Lleolir Tref y Penrhyn ym mhen gogleddol Gorynys y Penrhyn yn ne orllewin De Affrica, tua 50 km i'r gogledd o
Benrhyn Gobaith Da
. Saif ar droed
Mynydd y Bwrdd
, ar arfordir Bae'r Bwrdd yn ne
Cefnfor yr Iwerydd
. Mae poblogaeth Tref y Penrhyn oddeutu 3,776,313
(2021)
, ond
Johannesburg
yw dinas fwyaf poblog yn Ne Affrica. Ceir dwy brifddinas arall yn Ne Affrica: prifddinas cyfraith y wlad yw
Bloemfontein
a phrifddinas yr arlywydd, sef
Gauteng
Pretoria
).
Enwyd y ddinas yn Brifddinas Dylunio'r Byd, 2014 gan Gyngor Rhyngwladol Cymdeithasau Dylunio Diwydiannol.
Yn yr un flwyddyn, enwyd Tref y Penrhyn y lle gorau yn y byd i ymweld ag ef - a hynny gan
The New York Times
The Daily Telegraph
Mae Cape Town hefyd wedi bod yn ddinas letyol ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 1995 a
Chwpan y Byd FIFA 2010
, ac mae'n cynnal cymal Affrica Rygbi'r Byd (Cyfres 7) yn flynyddol.
Oherwydd ei bwysigrwydd fel porthladd lan 'Table Bay', fe'i datblygwyd gan Gwmni Dwyrain India'r Iseldiroedd (VOC) fel gorsaf gyflenwi ar gyfer llongau o'r
Iseldiroedd
sy'n hwylio i Ddwyrain Affrica,
India
, a'r
Dwyrain Pell
. Fe wnaeth dyfodiad
Jan van Riebeeck
ar 6 Ebrill 1652 sefydlu Gwladfa Cape VOC, yr anheddiad Ewropeaidd parhaol cyntaf yn Ne Affrica. Hyd nes Rhuthr Aur Witwatersrand a datblygu Johannesburg, Cape Town oedd y ddinas fwyaf yn Ne Affrica.
Hanes
golygu
golygu cod
Daethpwyd o hyd i'r olion dynol cynharaf yn y rhanbarth yn Ogof Peers yn Fish Hoek ac maent yn dyddio rhwng 15,000 a 12,000 (
CP
).
Ychydig sy'n hysbys o hanes preswylwyr cyntaf y rhanbarth, gan nad oes hanes ysgrifenedig o'r ardal cyn iddo gael ei grybwyll gyntaf gan y fforiwr
Portiwgalaidd
Bartolomeu Dias
ym 1488, sef yr Ewropead cyntaf i gyrraedd yr ardal, a'i enwi'n "Benrhyn y Stormydd" (
Cabo das Tormentas
). Cafodd ei ailenwi'n ddiweddarach gan
João II, brenin Portiwgal
, yn
Cabo da Boa Esperança
("Benrhyn Gobaith Da") oherwydd y gobaith o fyd gwell, pan agorwyd y llwybr i India a'r Dwyrain. Cofnododd
Vasco da Gama
iddo weld Penrhyn Gobaith ym 1497.
Yn 1510, ym Mrwydr Salt River, lladdwyd Francisco de Almeida a chwe deg pedwar o'i ddynion a threchwyd ei blaid gan yr
!Uriǁ'aekua
("Goringhaiqua" mewn sillafu bras yn yr
Iseldireg
) - pan ddefnyddiodd wartheg wedi'u hyfforddi'n arbennig.
10
Roedd yr !Uriǁ’aekua yn un o lwythi'r Khoekhoe, fel y’u gelwir, yn yr ardal. Ar ddiwedd yr
16g
roedd llongau o
Ffrainc
Denmarc
yr Iseldiroedd
Lloegr
Phortiwgal
(o Bortiwgal yn bennaf) yn parhau i angori yno'n rheolaidd, ym Mae'r Bwrdd ar eu ffordd i'r
India
. Roeddent yn masnachu
tybaco
copr
haearn
gyda llwythi'r Khoekhoe, yn gyfnewid am gig ffres a phethau eraill.
Sefydlwyd Tref y Penrhyn ym 1652 gan y llywodraethwr Jan van Riebeeck, Cadlywydd
Trefedigaeth y Penrhyn
, yn orsaf gyflenwi ar fôr-lwybr
Cwmni Iseldiraidd India'r Dwyrain
. Hon oedd y wladfa Ewropeaidd gyntaf yn Ne Affrica. Meddiannwyd y ddinas gan
yr Ymerodraeth Brydeinig
ym 1795. Dychwelodd i'r Iseldirwyr ym 1803, ond cafodd ei hailgipio gan y Prydeinwyr ym 1806 a'i gwneud yn brifddinas
Trefedigaeth Penrhyn Gobaith Da
. Daeth Tref y Penrhyn yn y brifddinas ddeddfwriaethol genedlaethol, a
Pretoria
yn y brifddinas weinyddol, pan ffurfiodd
Undeb De Affrica
ym 1910. Roedd yn brifddinas
Talaith y Penrhyn
o 1910 hyd 1994, ac yn brifddinas Dwyrain y Penrhyn ers hynny.
Economi
golygu
golygu cod
Un o ganolfannau economaidd mwyaf Affrica yw Tref y Penrhyn.
Ceir
, nwyddau
lledr
a phlastig, a
dillad
yw'r prif ddiwydiannau, ac mae
puro olew
, bwyd a
gwin
, offer peirianyddol, a chemegion a
gwrtaith
i gyd yn ddiwydiannau pwysig.
Allforir
aur
diemyntau
ffrwythau
gan y porthladd. Hwn yw un o
ddociau sych
mwya'r byd, ac mae atgyweirio llongau yn ddiwydiant pwysig. Mae rhan fawr o ardal y dociau bellach yn ganolfan fasnachol a thwristaidd ar lan y dŵr gydag amgueddfeydd, marchnadau crefftau, a bwytai.
Golygfa o "Folwen y Ddinas" o
Lion's Head
ym Mai (diwedd yr hydref).
Yn 2011 roedd
Cynnyrch mewnwladol crynswth
(neu CMC) y brifddinas yn UD US$ 56.8 biliwn gyda CMC y pen o US$ 15,721; o'i gymhary a CMC y pen o US$ 31,148
Cymru
11
Demograffeg
golygu
golygu cod
Trigai dros 3.7 miliwn o bobl yn yr
ardal fetropolitanaidd
, yn ôl cyfrifiad 2011. Tref y Penrhyn felly yw'r ddinas ail fwyaf boblog yn Ne Affrica ar ôl
Johannesburg
. Mae 42.4% o'r boblogaeth yn
bobl liw'r Penrhyn
, 38.6% yn Affricanwyr Duon, 15.7% yn groenwyn, 1.4% yn Indiaidd neu Asiaidd, a 1.9% o hil neu grŵp ethnig arall.
Affricaneg
Xhosa
Saesneg
yw prif ieithoedd y ddinas.
12
Twristiaeth
golygu
golygu cod
Mae Tref y Penrhyn nid yn unig yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid yn Ne Affrica, ond yn un o'r cyrchfannau pwysicaf yn Affrica gyfan. Mae hyn oherwydd ei hinsawdd fwyn, ei lleoliad naturiol, dramatig a'i seilwaith modern. Ceir sawl nodwedd naturiol adnabyddus sy'n denu twristiaid, yn fwyaf arbennig Bwrdd y Mynydd, sy'n ffurfio rhan fawr o Barc Cenedlaethol Bwrdd y Mynydd ac sy'n rhan ôl o Fowlen y Ddinas.
13
Gellir cyrraedd pen y mynydd naill ai trwy heicio i fyny, neu trwy gymryd rhaffbont y
Table Mountain Cableway
14
Cydnabyddir Cape Point fel y pentir dramatig ar ddiwedd Penrhyn Cape. Mae llawer o dwristiaid hefyd yn gyrru ar hyd
Chapman's Peak Drive
, ffordd gul sy'n cysylltu Noordhoek â Hout Bay, i gael golygfeydd o
Gefnfor yr Iwerydd
a mynyddoedd cyfagos. Mae'n bosibl naill ai gyrru neu heicio i fyny Signal Hill i gael golygfeydd agosach o Fowlen y Ddinas a Mynydd y Bwrdd
Adeiladau
golygu
golygu cod
Castell Gobaith Da (codwyd 1666)
Yr Eglwys Ddiwygiedig Iseldiraidd (codwyd 1699)
Hen Dŷ'r Dref (1755; adeilad cyhoeddus cyntaf y ddinas, sy'n cynnwys oriel o baentiadau o Fflandrys a'r Isalmaen)
Prifysgol Tref y Penrhyn (sefydlwyd 1829)
Ystad Groote Schuur (cyn-gartref y prif weinidog a'r arlywydd)
Senedd yr Undeb
Maes Awyr Rhyngwladol Tref y Penrhyn
Ynys Robben
(hen garchar)
Cyfeiriadau
golygu
golygu cod
withbeyond.com.
"The Mother City Cape Town"
Skylife
(yn Saesneg). Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2020-11-26
. Cyrchwyd
2020-10-12
"Western Cape | province, South Africa"
Encyclopedia Britannica
(yn Saesneg).
Archifwyd
o'r gwreiddiol ar 8 Mai 2017
. Cyrchwyd
22 Mehefin
2017
"Discover the 9 Provinces of South Africa and their Capital Cities"
Archifwyd
o'r gwreiddiol ar 14 Mehefin 2017
. Cyrchwyd
22 Mehefin
2017
"Pretoria | national administrative capital, South Africa"
Encyclopedia Britannica
(yn Saesneg).
Archifwyd
o'r gwreiddiol ar 18 Gorffennaf 2018
. Cyrchwyd
18 Gorffennaf
2018
"Cape Town Hosts Official WDC 2014 Signing Ceremony"
. World Design Capital.
Archifwyd
o'r gwreiddiol ar 10 Mawrth 2013
. Cyrchwyd
4 Awst
2012
"14 Fun Facts You Didn't Know About Cape Town - Interesting & Amusing Things about the Mother City"
Cape Town Magazine
Archifwyd
o'r gwreiddiol ar 26 Mehefin 2014
. Cyrchwyd
17 Mehefin
2014
Bruyn, Pippa de (5 Chwefror 2016).
"The world's best cities"
Telegraph.co.uk
Archifwyd
o'r gwreiddiol ar 5 Ionawr 2016
. Cyrchwyd
4 Ebrill
2018
worldrugby.org.
"Rounds and Tournaments - HSBC World Rugby Sevens Series | world.rugby/sevens-series"
www.world.rugby
. Cyrchwyd
2020-10-12
"The Antiquity of man"
. SouthAfrica.info. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 1 Mawrth 2009
. Cyrchwyd
15 Mehefin
2009
Hamilton, Carolyn, (ed.) Mbenga, Bernard, (ed.) Ross, Robert, 1949 Gorffennaf 26- (ed.) (2011). "Khoesan and Immigrants".
The Cambridge history of South Africa: 1885-1994
. Cambridge University Press. tt. 168–173.
ISBN
9780521517942
OCLC
778617810
CS1 maint: multiple names: authors list (
link
) CS1 maint: extra text: authors list (
link
"Global city GDP 2011"
. Brookings Institution. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 5 Mehefin 2013
. Cyrchwyd
18 Tachwedd
2014
(Saesneg)
City of Cape Town
. Statistics South Africa. Adalwyd ar 14 Gorffennaf 2016.
"Table Mountain Aerial Cableway"
Archifwyd
o'r gwreiddiol ar 18 Rhagfyr 2014
. Cyrchwyd
21 Ebrill
2008
"Cape Point"
. Cape Point.
Archifwyd
o'r gwreiddiol ar 28 Medi 2011
. Cyrchwyd
1 Hydref
2011
Awdurdod
WorldCat
VIAF
125475857
LCCN
n79035922
GND
4029615-5
SELIBR
149950
SUDOC
027286835
BNF
cb119432557
(data)
NKC
ge129528
BNE
XX4683322
Wedi dod o "
Categorïau
Dinasoedd De Affrica
Prifddinasoedd Affrica
Sefydliadau 1652
Categorïau cudd:
CS1 Saesneg-language sources (en)
CS1 maint: multiple names: authors list
CS1 maint: extra text: authors list
Erthyglau sy'n defnyddio Nodyn Gwybodlen lle Wicidata
Pages with plain IPA
Wikipedia articles with VIAF identifiers
Wikipedia articles with LCCN identifiers
Wikipedia articles with GND identifiers
Wikipedia articles with SELIBR identifiers
Wikipedia articles with BNF identifiers
Pages using the Kartographer extension
Tref y Penrhyn
Ychwanegu pwnc
US