Unol Daleithiau America - Wicipedia
Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Unol Daleithiau America
Unol Daleithiau America
United States of America
Arwyddair
In God We Trust
Math
gwladwriaeth sofran, gwladwriaeth gyfansoddiadol, gweriniaeth ddemocrataidd, gwladwriaeth ffederal,
Uwchbwer
gwlad
Enwyd ar ôl
Yr Amerig
Prifddinas
Washington
Dinas fwyaf
Dinas Efrog Newydd
Poblogaeth
340,110,988
Sefydlwyd
4 Gorff. 1776 (Datganiad o Annibyniaeth oddi wrth
Brydain
3 Medi 1783 (Cydnabod)
4 Mawrth 1789 (Cyfansoddiad)
Anthem
The Star-Spangled Banner
Pennaeth llywodraeth
Donald Trump
Cylchfa amser
UTC−12:00, UTC−11:00, UTC−09:00, UTC−08:00, UTC−07:00, UTC−06:00, UTC−05:00, UTC−04:00, UTC+10:00, UTC+12:00, Samoa Time Zone, Cylchfa Amser yr Iwerydd, Cylchfa Amser Canolog, Alaska Time Zone, Cylchfa Amser y Mynyddoedd, Chamorro Time Zone
Iaith/Ieithoedd
swyddogol
hawaieg
Sbaeneg
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol
Gogledd America
Gwlad
Unol Daleithiau America
Arwynebedd
9,826,675 ±1 km²
Gerllaw
Cefnfor yr Arctig
Y Cefnfor Tawel
Cefnfor yr Iwerydd
Yn ffinio gyda
Mecsico
, Canada
Cyfesurynnau
39.828175°N 98.5795°W
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredol
Llywodraeth Ffederal yr Unol Daleithiau
Corff deddfwriaethol
Cyngres yr Unol Daleithiau
Swydd pennaeth
y wladwriaeth
Arlywydd yr Unol Daleithiau
Pennaeth y wladwriaeth
Donald Trump
Swydd pennaeth
y Llywodraeth
Arlywydd yr Unol Daleithiau
Pennaeth y Llywodraeth
Donald Trump
Ariannol
Cyfanswm CMC (
GDP
$23,315,081 million, $25,462,700 million, $27,720,709 million, $28,750,956 million
Arian
doler yr Unol Daleithiau
Canran y diwaith
6.7 ±0.001 canran
Cyfartaledd plant
1.665
Mynegai Datblygiad Dynol
0.921
Ffeiliau perthnasol ar Comin
golygwch ar Wicidata
Gweriniaeth ffederal yng
Ngogledd America
yw
Unol Daleithiau America
Saesneg
United States of America
) neu'r
Unol Daleithiau
(hefyd, yn enwedig ar lafar, "
America
"). Mae hanner cant o daleithiau yn yr undeb. Lleolir y 48 talaith gyfagos rhwng
Canada
i'r gogledd a
Mecsico
i'r de. Lleolir
Alaska
yng ngogledd-orllewin y cyfandir i'r gorllewin o Ganada.
Ynysfor
yng nghanol y
Cefnfor Tawel
yw'r dalaith arall, sef
Hawaii
. Ceir hefyd 326 neilldiroedd Amerindiaidd (
Indian reservations
). Gydag arwynebedd o 3.8 miliwn milltir sgwâr hi yw'r
drydedd neu'r bedwaredd wlad fwyaf yn y byd
. Mae'n ffinio gyda
Chanada
i'r gogledd a
Mecsico
i'r de yn ogystal â ffiniau morwrol cyfyngedig gyda'r
Bahamas
Cuba
, a
Rwsia
Ymfudodd y
paleo-Amerindiaid
i dir mawr Gogledd America o leiaf 12,000
o flynyddoedd yn ôl
, a dechreuodd gwladychu Ewropeaidd yn yr
16g
. Daeth yr Unol Daleithiau yn annibynnol o Loegr wedi sawl anghydfod â
Phrydain Fawr
ynghylch trethiant a chynrychiolaeth wleidyddol at
Ryfel Annibyniaeth America
(1775–1783), a ddaeth ag
annibyniaeth
i'r genedl. Serennodd y Cymro
Richard Price
pan ddechreuodd
Rhyfel Annibyniaeth America
ar 9 Ebrill 1775 a bu'n allweddol yn cynghori'r Llywodraeth newydd sut i greu system ariannol newydd.
Ar ddiwedd y 18g, dechreuodd yr Unol Daleithiau ehangu ar draws Gogledd America, gan feddiannu tiriogaethau newydd yn raddol, weithiau trwy ryfel neu drwy ddisodli Americanwyr Brodorol yn aml, gan eu troi'n daleithiau newydd; erbyn 1848, roedd yr Unol Daleithiau yn rhychwantu'r Gogledd America, ar wahân i'r gwledydd a elwir heddiw'n Ganada ac Alaska.
Roedd caethwasiaeth yn gyfreithlon yn ne'r Unol Daleithiau tan ail hanner y 19g, pan arweiniodd
Rhyfel Cartref America
at ei ddiddymu. Daeth yr Unol Daleithiau'n bŵer mawr yn dilyn
Rhyfel Sbaen-America
a Rhyfel Byd Cyntaf, statws a gadarnhawyd gan ganlyniad yr Ail Ryfel Byd. Yn ystod y
Rhyfel Oer
, ymladdodd yr Unol Daleithiau
Ryfel Corea a Rhyfel
Fietnam
ond osgowyd gwrthdaro milwrol uniongyrchol â'r
Undeb Sofietaidd
. Cystadlodd y ddau bŵer yn y
Ras Ofod
, gan arwain Rwsia'n llwyddo i roi dyn yn y gofod, ac yna yr Unol Daleithiau yn llwyddo i roi dyn ar y lleuad. Daeth
diddymiad yr Undeb Sofietaidd ym 1991
a'r Rhyfel Oer i ben, gan adael yr Unol Daleithiau fel unig
bŵer-enfawr
y byd.
Mae'r Unol Daleithiau yn
weriniaeth ffederal
ac yn
ddemocratiaeth gynrychioliadol
gyda thair cangen ar wahân o lywodraeth, gan gynnwys
deddfwrfa ddwyochrog
. Mae'n aelod sefydlog o'r
Cenhedloedd Unedig
Banc y Byd
, y
Gronfa Ariannol Ryngwladol
, Sefydliad Taleithiau America,
NATO
, a sefydliadau rhyngwladol eraill. Mae hefyd yn aelod parhaol o
Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig
. Caiff ei hystyried yn
dawddlestr
o ddiwylliannau ac ethnigrwydd, ac mae ei phoblogaeth wedi cael ei siapio gan ganrifoedd o fewnfudo. Mae'r Unol Daleithiau yn uchel mewn mesurau rhyngwladol o ryddid economaidd,
ansawdd bywyd
, addysg a hawliau dynol, er bod ganddi record ofnadwy o lofruddiaethau gynnau, niferoedd mewn carchar, problemau cyffuriau ayb. a beirniadir y wlad am yr anghydraddoldeb sy'n gysylltiedig â hil, cyfoeth ac incwm a diffyg gofal iechyd cyffredinol.
Mae'r Unol Daleithiau yn
wlad ddatblygedig
iawn, mae'n cyfrif am oddeutu chwarter y
CMC
byd-eang, a hi yw economi fwyaf y byd yn ôl CMC ar gyfraddau cyfnewid y farchnad . Yn ôl gwerth, yr Unol Daleithiau yw mewnforiwr nwyddau mwy'r byd ac allforiwr nwyddau ail-fwyaf. Er mai dim ond 4.2% o gyfanswm y byd yw ei phoblogaeth, mae'n dal 29.4% o gyfanswm cyfoeth y byd, y gyfran fwyaf sydd gan unrhyw wlad. Gan ffurfio mwy na thraean o'r gwariant milwrol byd-eang, hwn yw'r pŵer milwrol mwyaf blaenllaw yn y byd ac mae'n rym gwleidyddol, diwylliannol a gwyddonol, yn rhyngwladol.
Hanes
golygu
golygu cod
Prif:
Hanes yr Unol Daleithiau
Cyn glaniad yr
Ewropeiaid
cyntaf roedd y diriogaeth gyfandirol yn gartref i sawl llwyth o Americanwyr brodorol, e.e y
Sioux
a'r
Navajo
Roedd y 13 talaith wreiddiol yn wladfeydd
Prydeinig
hyd yr
1700au
cyn iddynt ennill eu hannibyniaeth yn sgil
Gwrthryfel America
1776
1783
).
Bryd hynny, roedd
Florida
a thiriogaethau eraill yn y de a'r de-orllewin (
Texas
Califfornia
Arizona
a. y. y. b.) yn perthyn i
Sbaen
; roedd rhan sylweddol o'r tir yng nghanol y cyfandir i'r gorllewin o
Afon Mississippi
hyd at ffin
Canada
yn perthyn i
Ffrainc
, ac roedd
Alaska
yn perthyn i
Rwsia
. Yn
1803
prynodd yr Unol Daleithiau y tir Ffrengig am 60 miliwn o ffranciau, neu tua 15 miliwn o ddoleri (
Pryniant Louisiana
) a dwblodd hynny faint y wlad. Yn
1836
cafodd
Texas
annibyniaeth oddi wrth
Mecsico
ac ar ôl naw mlynedd fel
Gweriniaeth Texas
ymunodd y dalaith â'r undeb. Ar ôl y rhyfel rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico, roddodd
Cytundeb Guadeloupe-Hidalgo
1848
) 200,000 milltir sgwar o dir, sydd heddiw yn cynnwys y rhan fwyaf o daleithiau
New Mexico
Arizona
Califfornia
Colorado
Utah
Nevada
, i'r Unol Daleithiau.
Ymladdwyd
Rhyfel Cartref America
(1861–1865) rhwng unarddeg talaith yn y de oedd yn dymuno gadael yr Unol Daleithiau a'r gweddill o'r wlad. Dechreuodd y rhyfel yn dilyn etholiad
Abraham Lincoln
yn Arlywydd yr Unol Daleithiau yn
1861
. Prif asgwrn y gynnen oedd caethwasiaeth; yr oedd pob un o'r taleithiau oedd yn dymuno gadael yr Undeb yn rhai lle roedd caethwasiaeth yn elfen bwysig. Tra nad oedd Lincoln wedi bygwth dileu caethwasiaeth, ystyrid ef yn elyn i'r gyfundrefn. Dewisodd y gwrthryfelwyr
Jefferson Davis
fel Arlywydd.
Dechreuodd yr ymladd ar
12 Ebrill
1861
, pan ymosododd y gwrthryfelwyr ar Fort Sumter yn nhalaith
De Carolina
. Erbyn 1862 yr oedd brwydro ar raddfa eang wedi datblygu, gyda niferoedd mawr yn cael eu lladd. Ym mis Medi 1862, cyhoeddodd Lincoln ryddid y caethion. Erbyn hyn yr oedd y de wedi darganfod cadfridogion o athrylith yn
Robert E. Lee
"Stonewall" Jackson
, ac enillasant nifer o fuddugoliaethau dros yr Undebwyr. Lladdwyd Jackson mewn camgymeriad gan ei filwyr ei hun ym mrwydr Chancellorsville ym Mai 1863, a gorchfygwyd Lee ym
Mrwydr Gettysburg
yn nhalaith
Pennsylvania
ym mis Gorffennaf 1863. Yn y gorllewin, cipiodd byddin dan
Ulysses S. Grant
Vicksburg yn nhalaith
Mississippi
, a thrwy hynny enillodd yr Undebwyr reolaeth ar
Afon Mississippi
. Bu brwydro ffyrnig rhwng Grant a Lee yn nhalaith
Virginia
yn ystod haf 1864 a chipiodd
William Tecumseh Sherman
Atlanta, Georgia
. Ar fore'r 9fed o Ebrill 1865, ildiodd Lee ei fyddin i Grant yn
Appomattox
a daeth y rhyfel i ben. Rhyddhawyd y caethion i gyd.
Yn
1868
gwerthodd Rwsia Alaska i'r Unol Daleithiau am 7,200,000 o ddoleri; roedd llawer o bobol yn y Senedd yn meddwl bod hynny'n ormod i'w dalu am "greigiau ac iâ", ond mae llawer o aur ac olew wedi dod o Alaska ers hynny.
Daearyddiaeth
golygu
golygu cod
Ceir sawl cadwyn o fynyddoedd yng ngorllewin y wlad megis y
Rockies
a'r
Sierra Nevada
. Lleolir
Mynyddoedd Appalachia
ger yr arfordir dwyreiniol. Rhwng y Rockies a'r Appalachians, ceir basn afonydd
Mississippi
Missouri
, y
Llynnoedd Mawr
a'r
Gwastadeddau Mawr
O ddiystyried Hawaii ac Alaska, mae gan y 48 talaith
arwynebedd
o 3,119,885 milltir sgwâr (8,080,470 km sg). O'r ardal yma, mae 2,959,064 mi sg yn dir cyffiniol (
ontiguous land,
) sef 83.65% o gyfanswm arwynebedd tir yr UD.
Mae
Hawaii
, sy'n ynysfor yng nghanol y
Môr Tawel
, i'r de-orllewin o Ogledd America, yn 10,931 mi sg. Ceir pum tiriogaeth boblog ond anghorfforedig:
Puerto Rico
Samoa Americanaidd
Guam
Ynysoedd Gogledd Mariana
, ac
Ynysoedd Americanaidd y Wyryf
gyda'i gilydd yn gorchuddio 9,185 mi sg.
Wedi'i fesur yn ôl arwynebedd tir yn unig, mae'r Unol Daleithiau yn drydydd o ran maint y tu ôl i
Rwsia
Tsieina
, ac ychydig o flaen Canada.
Mae
Mynyddoedd Appalachia
yn rhannu'r arfordir dwyreiniol oddi wrth y
Llynnoedd Mawr
a glaswelltiroedd y
Midwest
Afon
Mississippi
Missouri
, yw'r
pedwaredd system afon hiraf y byd
, yn rhedeg yn bennaf o'r gogledd i'r de trwy ganol y wlad. Mae'r paith ffrwythlon, fflat y
Gwastadeddau Mawr
yn ymestyn i'r gorllewin, ond caiff ei groedorri gan ucheldir y de-ddwyrain.
Bywyd gwyllt a chadwraeth
golygu
golygu cod
Mae'r
eryr moel
wedi bod yn
aderyn cenedlaethol
yr Unol Daleithiau er 1782.
Mae'r UD yn un o 17 o wledydd cyfoethog eu hamrywiaeth (
megadiverse
) sy'n cynnwys llawer iawn o rywogaethau endemig neu frodorol: ceir tuag 17,000 o rywogaethau o blanhigion fasgwlaidd yn yr Unol Daleithiau ac Alaska, ac mae mwy na 1,800 o rywogaethau o
blanhigion blodeuol
i'w cael yn Hawaii.
Mae'r Unol Daleithiau yn gartref i 428 rhywogaeth o famaliaid, 784 rhywogaeth o adar, 311 rhywogaeth o
ymlusgiaid
, a 295 rhywogaeth o
amffibiaid
10
yn ogystal â thua 91,000 o rywogaethau o bryfed.
11
Gorwedd 62 o barciau cenedlaethol a channoedd o barciau eraill, coedwigoedd ac ardaloedd o anialwch a mannau eraill a reolir yn ffederal. At ei gilydd, mae'r llywodraeth yn berchen ar oddeutu 28% o arwynebedd tir y wlad,
12
a hynny'n bennaf yn nhaleithiau'r gorllewin. Mae'r rhan fwyaf o'r tir hwn wedi'i warchod, er bod rhywfaint yn cael ei brydlesu ar gyfer drilio olew a nwy, mwyngloddio, coedwigo, neu ransio gwartheg, a defnyddir bron i un y cant at ddibenion milwrol.
13
14
Mae materion
amgylcheddol
yn cynnwys dadleuon ar olew ac ynni niwclear, delio â
llygredd aer
dŵr
, costau economaidd amddiffyn bywyd gwyllt, coedwigo a
datgoedwigo
15
16
a newid hinsawdd.
17
18
Yr asiantaeth amgylcheddol amlycaf yw'r Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd (EPA), a grëwyd trwy orchymyn arlywyddol ym 1970.
19
Bwriad Deddf Rhywogaethau mewn Perygl 1973 yw amddiffyn rhywogaethau sydd dan fygythiad ac mewn perygl a'u cynefinoedd, ac sy'n cael eu monitro gan Wasanaeth Pysgod a Bywyd Gwyllt yr Unol Daleithiau.
20
Mae'r Unol Daleithiau yn safle 24 ymhlith cenhedloedd yn y Mynegai Perfformiad Amgylcheddol.
21
Ymunodd y wlad â
Chytundeb Paris
ar newid yn yr hinsawdd yn 2016 ac mae ganddi lawer o ymrwymiadau amgylcheddol eraill.
22
Diolch i Donald Trump, gadawodd Gytundeb Paris yn 2020,
23
ond ailymunodd ag ef yn 2021.
24
Taleithiau
golygu
golygu cod
Ceir
Rhestr taleithau'r Unol Daleithiau yn ôl arwynebedd
rhestr ohonynt yn ôl eu huchder
Undeb ffederal o 50 talaith yw'r Unol Daleithiau. Lleolir y brifddinas,
Washington D.C.
, mewn ardal ffederal sydd ddim yn perthyn i unrhyw dalaith.
Alabama
Alaska
Arizona
Arkansas
Califfornia
Colorado
Connecticut
De Carolina
De Dakota
Delaware
Efrog Newydd
Florida
Georgia
Gogledd Carolina
Gogledd Dakota
Gorllewin Virginia
Hawaii
Idaho
Illinois
Indiana
Iowa
Kansas
Kentucky
Louisiana
Maine
Maryland
Massachusetts
Mecsico Newydd
Michigan
Minnesota
Mississippi
Missouri
Montana
Nebraska
Nevada
New Hampshire
New Jersey
Ohio
Oklahoma
Oregon
Pennsylvania
Rhode Island
Tennessee
Texas
Utah
Vermont
Virginia
Washington
Wisconsin
Wyoming
Taleithiau
Dinasoedd
golygu
golygu cod
Dinasoedd mwyaf yr Unol Daleithiau
Rhif
Prif ddinas
Talaith
Pobl.
Rhif yr ardal ddinesig
Pobl, ardal ddinesig.
25
Rhanbarth
26
Dinas Efrog Newydd
Los Angeles
Dinas Efrog Newydd
Efrog Newydd
8,250,567
18,818,536
Gogledd-ddwyrain
Los Angeles
Califfornia
3,849,378
12,950,129
Gorllewin
Chicago
Illinois
2,833,321
9,505,748
Canol-orllewin
Houston
Texas
2,169,248
5,539,949
De
Phoenix
Arizona
1,512,986
13
4,039,182
Gorllewin
Philadelphia
Pennsylvania
1,448,394
5,826,742
Gogledd-ddwyrain
San Antonio
Texas
1,296,682
29
1,942,217
De
San Diego
Califfornia
1,256,951
17
2,941,454
Gorllewin
Dallas
Texas
1,232,940
6,003,967
De
10
San Jose
Califfornia
929,936
30
1,787,123
Gorllewin
Amcangyfrifon o'r Ganolfan Cyfrifiad, 2006
Cosb
golygu
golygu cod
Map o statudau Gwladwriaeth Cosb Marwolaeth yn yr Unol Daleithiau. Glas: Dim statud cosb marwolaeth gyfredol Oren: Cosbi drwy farwolaeth yn anghyfansoddiadol
Melyn: Ni ddienyddiwyd neb er 1976
Coch: Wedi cyflawni dienyddiad er 1976
Cynnydd o: 800% mewn 40 mlynedd
Ymgyrch 'Y Rhyfel
yn Erbyn Cyffuriau'
Nifer y carcharorion yn UDA rhwng 1925 a 2012.
Mae gan Unol Daleithiau America fwy o garcharorion nag unrhyw wlad arall yn y byd. Yn ogystal â hyn, mae'r niferoedd y pen yn uwch nag unrhyw wlad – ar wahân i Seychelles.
27
28
Yn 2012 roedd y nifer yn 707 oedolyn am bob 100,000 o'r boblogaeth.
29
Roedd y trobwynt oddeutu 1971, y flwyddyn y laniswyd eu hymgyrch yn erbyn cyffuriau.
Ar 3 Chwefror 2014 cafwyd anerchiad yn
Nhŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau
gan Shelia Jackson Lee a ddywedodd: "5% yn unig o boblogaeth y byd sydd yn byw yn yr Unol Daleithiau, ond eto, er hyn, rydym wedi carcharu oddeutu chwarter holl garcharorion y byd".
30
31
Incwm, cyfoeth, a thlodi
golygu
golygu cod
Er bod gan UD 4.24% o boblogaeth y byd, mae eithrigolion yn meddu ar 29.4% o gyfanswm cyfoeth y byd, y ganran fwyaf o unrhyw wlad.
32
33
Mae'r UD hefyd yn safle cyntaf yn nifer y
biliwnyddion
a'r miliwnyddion yn y byd, gyda 724 biliwnydd a 10.5 miliwn o filiwnyddion yn 2020.
34
35
Cyn
pandemig byd-eang SARS-CoV-2
2019–2021, roedd
Credit Suisse yn
rhestru bod gan 18.6 miliwn o ddinasyddion yr UD werth net o fwy na $1 miliwn.
36
Yn 2020, nododd y 'Mynegai Diogelwch Bwyd' fod yr Unol Daleithiau yn 11eg mewn diogelwch bwyd, gan roi sgôr o 77.5 / 100 i'r wlad.
37
Ar gyfartaledd mae gan Americanwyr fwy na dwywaith cymaint o le byw i bob annedd ac i bob person na thrigolion yr
Undeb Ewropeaidd.
38
Ar gyfer 2019, graddiodd Rhaglen Ddatblygu'r Cenhedloedd Unedig yr Unol Daleithiau yn 17fed allan o 189 o wledydd yn ei
Mynegai Datblygiad Dynol
(HDI) a'r 28fed allan o 151 o wledydd yn ei HDI (IHDI) wedi'i addasu gan anghydraddoldeb.
39
Roedd tua 567,715 o
bobl ddigartref
yn yr UD yn Ionawr 2019, gyda bron i ddwy ran o dair yn aros mewn lloches argyfwng neu raglen dai drosiannol.
40
Yn 2011, roedd 16,700,000 o blant yn byw mewn cartrefi lle nad oedd sicrwydd o fwyd, tua 35% yn fwy na lefelau 2007.
41
Roedd
40 million
bobl, tua 12.7% o boblogaeth yr UD, yn byw mewn tlodi, gan gynnwys 13.3 miliwn o blant. O'r rhai tlawd, mae
18.5 million
byw mewn tlodi mawr (incwm teulu islaw hanner y trothwy tlodi) ac mae dros bum miliwn yn byw "dan
amodau 'Trydydd Byd
'.
42
Yn 2017, y taleithiau neu;r ardaloedd a oedd â'r
cyfraddau tlodi
isaf ac uchaf oedd
New Hampshire
(7.6%) a
Samoa Americanaidd
(65%), yn y drefn honno.
43
44
45
46
Ynni
golygu
golygu cod
Mae marchnad ynni'r Unol Daleithiau tua 29,000 o oriau terawat y flwyddyn. Yn 2018, daeth 37% o'r egni hwn o
betroliwm
, 31% o
nwy naturiol
, a 13% o
lo.
Cyflenwyd y gweddill gan ffynonellau
ynni niwclear ac adnewyddadwy.
47
Poblogaeth
golygu
golygu cod
Poblogaeth hanesyddol
Cyfrifiad
Poblogaeth
% ±
1790
3,929,214
1800
5,308,483
35.1%
1810
7,239,881
36.4%
1820
9,638,453
33.1%
1830
12,866,020
33.5%
1840
17,069,453
32.7%
1850
23,191,876
35.9%
1860
31,443,321
35.6%
1870
38,558,371
22.6%
1880
50,189,209
30.2%
1890
62,979,766
25.5%
1900
76,212,168
21.0%
1910
92,228,496
21.0%
1920
106,021,537
15.0%
1930
123,202,624
16.2%
1940
132,164,569
7.3%
1950
151,325,798
14.5%
1960
179,323,175
18.5%
1970
203,211,926
13.3%
1980
226,545,805
11.5%
1990
248,709,873
9.8%
2000
281,421,906
13.2%
2010
308,745,538
9.7%
2020
331,449,281
7.4%
Adroddodd Swyddfa Cyfrifiad yr UD
fod 331,449,281 o drigolion ar Ebrill 1, 2020.
48
Nid yw'r ffigwr hwn yn cynnwys y pum tiriogaeth anghorfforedig (
Puerto Rico
Guam
Ynysoedd Americanaidd y Wyryf
Samoa America
, ac
Ynysoedd Gogledd Mariana
) a mân ynysoedd eraill.
49
Yr Unol Daleithiau yw'r drydedd genedl fwyaf poblog yn y byd, ar ôl
Tsieina
ac
India
. Yn 2020, canolrif oed poblogaeth yr Unol Daleithiau oedd 38.5 mlynedd.
50
Crefydd
golygu
golygu cod
Canran
yr ymatebwyr yn yr Unol Daleithiau sy'n dweud bod crefydd yn "bwysig iawn" neu'n "eithaf pwysig" yn eu bywydau (2014)
51
Mae Gwelliant Cyntaf Cyfansoddiad yr UD yn gwarantu ymarfer crefydd yn rhydd ac yn agored.
Gan yr Unol Daleithiau mae'r boblogaeth Gristnogol fwyaf y byd.
52
Mewn arolwg yn 2014, nododd 70.6% o oedolion yn yr Unol Daleithiau eu hunain yn Gristnogion;
53
gyda
Phrotestaniaid yn
cyfrif am 46.5% a
Chatholigion
am 20.8%.
54
Yn 2014, dewisiodd 5.9% o boblogaeth oedolion yr UD grefydd arall.
55
Mae'r rhain yn cynnwys
Iddewiaeth
(1.9%), Islam (0.9%), Hindŵaeth (0.7%), a Bwdhaeth (0.7%).
55
Nododd yr arolwg hefyd fod 22.8% o Americanwyr wedi disgrifio eu hunain fel
agnostig
anffyddiwr
neu
ddim crefydd
o gwbwl - o 8.2% yn 1990.
54
56
57
Syrthiodd aelodaeth mewn tai addoli o 70% ym 1999 i 47% yn 2020.
58
59
Iechyd
golygu
golygu cod
Canolfan Feddygol Texas yn Downtown
Houston
yw'r cymhleth meddygol mwyaf yn y byd.
Adroddodd y Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau (CDC) fod gan yr Unol Daleithiau
ddisgwyliad oes
cyfartalog ar enedigaeth o 77.3 blynedd yn 2020 (74.5 mlynedd i ddynion ac 80.2 mlynedd i fenywod), i lawr 1.5 mlynedd o 2019. Yn ôl ffigurau dros dro, hwn oedd y disgwyliad oes cyfartalog isaf yn yr UD a gofnodwyd gan y CDC er 2003, y dirywiad cyffredinol cyntaf ers 2018, a'r "dirywiad blwyddyn mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd." Priodolwyd rhyw dri chwarter y gostyngiad i farwolaethau o'r pandemig
COVID-19
, gyda'r mwyafrif o'r gweddill oherwydd damweiniau a gorddosau cyffuriau.
60
Mae gan y wlad hefyd un o'r cyfraddau hunanladdiad uchaf ymhlith gwledydd cyfoethog.
61
62
Gan ddechrau ym 1998, roedd disgwyliad oes cyfartalog yr Unol Daleithiau y tu ôl i ddisgwyliad gwledydd diwydiannol cyfoethog eraill, ac mae bwlch "anfantais iechyd" Americanwyr wedi bod yn cynyddu byth ers hynny.
63
Rhwng 1999 a 2019, bu farw mwy na 770,000 o Americanwyr o orddos o gyffuriau.
64
Roedd disgwyliad oes ar ei uchaf ymhlith Asiaid a Sbaenaidd ac ar ei isaf ymhlith y bobl dduon.
65
66
Cyfrannodd
gordewdra
cynyddol yn yr Unol Daleithiau at ostwng safle'r wlad o ran disgwyliad oes o'r 11eg yn y byd ym 1987 i 42ain yn 2007. Yn 2017, roedd gan yr Unol Daleithiau y disgwyliad oes isaf ymhlith Japan, Canada, Awstralia, y Deyrnas Unedig, a saith gwlad arall yng ngorllewin Ewrop.
67
68
Mae cyfraddau gordewdra wedi mwy na dyblu yn ystod y 30 mlynedd diwethaf a nhw yw'r uchaf yn y byd diwydiannol.
69
70
Mae tua thraean o'r boblogaeth oedolion yn ordew ac mae traean ychwanegol 'dros bwysau'.
71
72
Yr Unol Daleithiau yw'r unig genedl ddatblygedig o hyd heb system gofal iechyd cyffredinol.
73
Yn 2017, nid oedd gan 12.2% o'r boblogaeth yswiriant iechyd
74
Mae pwnc Americanwyr heb yswiriant a than yswiriant yn fater gwleidyddol o bwys.
75
76
Fe wnaeth y Ddeddf Gofal Fforddiadwy (ACA), a basiwyd yn gynnar yn 2010 ac a elwir yn anffurfiol fel "ObamaCare", haneru cyfran y boblogaeth heb yswiriant o'r boblogaeth yn fras. Mae'r bil a'i effaith yn y pen draw yn dal i fod yn faterion dadleuol yn yr Unol Daleithiau.
77
78
Mae system gofal iechyd yr UD yn llawer mwy na gwariant unrhyw genedl arall, wedi'i fesur mewn gwariant y pen ac fel canran o'r CMC.
79
Fodd bynnag, mae'r UD yn arweinydd byd-eang ym maes arloesi meddygol.
80
Addysg
golygu
golygu cod
Mae Prifysgol Columbia
, a sefydlwyd ym 1754, yn un o'r colegau trefedigaethol a'r pumed sefydliad hynaf o
addysg uwch
yn yr Unol Daleithiau.
Mae
addysg gyhoeddus
America yn cael ei gweithredu gan lywodraethau gwladol a lleol a'i reoleiddio gan Adran Addysg yr Unol Daleithiau trwy gyfyngiadau ar grantiau ffederal. Yn y rhan fwyaf o daleithiau, mae'n ofynnol i blant fynychu'r ysgol o bump neu chwech oed nes eu bod yn 18 oed (gan ddod â nhw trwy'r ddeuddegfed radd fel arfer, ddiwedd yr
ysgol uwchradd
). O fewn rhaiae rhai taleithiau caniateir i fyfyrwyr adael yr ysgol yn 16 neu'n 17 oed.
81
Llyfrgell Gates Chili High School,
Efrog Newydd
Yn 2012 roedd tua 12% o blant wedi'u cofrestru mewn ysgolion preifat a 3.4% o blant yn cael addysg yn y cartref.
82
Rhwng 2016-2017 gwariodd yr UD $12,794 y flwyddyn ar gyfartaledd ar bob myfyriwr ysgolion elfennol ac uwchradd cyhoeddus.
83
Mae tua 80% o fyfyrwyr coleg yr UD yn mynychu
prifysgolion cyhoeddus
84
85
O'r Americanwyr 25 a hŷn, graddiodd 84.6% o'r ysgol uwchradd, mynychodd 52.6% rai colegau, enillodd 27.2%
radd baglor
, ac enillodd 9.6% raddau graddedig.
86
Mae'r
gyfradd llythrennedd
sylfaenol oddeutu 99%
87
88
y 12fed goar un y byd yn ôl y Cenhedloedd Unedig.
89
Mae gan lawer o'r sefydliadau addysg gorau yn y UD gysylltiadau Cymreig ac yn eu plith y mae Prifysgol Yale yn
New Haven
Connecticut
, a sefydlwyd gan roddion ariannol
Elihu Yale
c fe'i gladdwyd ym mynwent
Eglwys San Silyn
yn
Wrecsam
Diwylliant
golygu
golygu cod
Mae'r Unol Daleithiau yn grochan o
ddiwylliannau
gwahanol ac amrywiaeth eang o grwpiau, traddodiadau a gwerthoedd ethnig.
90
91
Ar wahân i bobl Brodorol America, Brodorion Hawaii ac Alaska , mewnfudodd bron pob Americanwr neu eu hynafiaid neu eu cludo yma fel
caethweision
yn ystod y pum canrif ddiwethaf.
92
Diwylliant Gorllewinol yw diwylliant prif ffrwd yr UD, sy'n deillio i raddau helaeth o draddodiadau mewnfudwyr Ewropeaidd gyda dylanwadau o lawer o ffynonellau ee traddodiadau a ddygwyd yno gan gaethweision o Affrica.
90
93
Mae mewnfudo mwy diweddar o Asia ac yn enwedig o
America Ladin
wedi ychwanegu at y gymysgedd.
90
Mae'r
Freuddwyd Americanaidd
, neu'r canfyddiad bod Americanwyr yn mwynhau symudedd cymdeithasol uchel, yn chwarae rhan allweddol wrth ddenu mewnfudwyr.
94
Ceir cryn drafodaeth a yw hyn yn gywir ai peidio.
95
96
97
Er bod diwylliant prif ffrwd yn honni bod yr Unol Daleithiau yn gymdeithas ddi-ddosbarth,
98
ceir gwahaniaethau sylweddol rhwng dosbarthiadau cymdeithasol y wlad, gan effeithio ar gymdeithasu, iaith a gwerthoedd.
99
Mae Americanwyr yn tueddu i werthfawrogi cyflawniad economaidd-gymdeithasol yn fawr.
100
Llenyddiaeth, athroniaeth, a chelf weledol
golygu
golygu cod
Mark Twain
, awdur a
ddefnyddiai hiwmor Americanaidd
Yn y 18fed a dechrau'r
19g
, dylanwadodd Ewrop ar gelf a llenyddiaeth America. Sefydlodd awduron fel
Washington Irving
, Nathaniel Hawthorne,
Edgar Allan Poe
, a
Henry David Thoreau
lais llenyddol Americanaidd nodedig erbyn canol y 19g.
Roedd Mark Twain
a’r bardd
Walt Whitman
yn ffigyrau mawr yn ail hanner y ganrif. Cydnabyddir
Emily Dickinson
, a oedd bron yn anhysbys yn ystod ei hoes, bellach yn fardd Americanaidd o bwys.
101
Ymhlith y gweithiau sy'n dal agweddau sylfaenol o'r 'cymeriad cenedlaethol' y mae:
Moby-Dick
(1851),
The Adventures of Huckleberry Finn
(1885)
, The Great Gatsby
(1925) gan
F. Scott Fitzgerald a
To Kill a Mockingbird
(1960) gan Harper Lee
- a elwir yn aml yn "Nofel Fawr America."
102
Mae 13 o ddinasyddion yr UD wedi ennill y
Wobr Nobel mewn Llenyddiaeth
ac enwir
William Faulkner
Ernest Hemingway
John Steinbeck
yn aml ymhlith awduron mwyaf dylanwadol yr
20g
103
Datblygodd
genres
llenyddol poblogaidd fel ffilmiau cowbois a throsedd caled yn yr Unol Daleithiau.
Agorodd awduron
Cenhedlaeth y Bitniciaid
ddulliau llenyddol newydd, ynghyd ag awduron ôl-fodernaidd fel John Barth,
Thomas Pynchon
, a Don DeLillo.
104
Gweler hefyd
golygu
golygu cod
Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau
Cyfeiriadau
golygu
golygu cod
Simpson, Victoria (2020-05-06).
"Countries with Which the US Shares Maritime Borders"
WorldAtlas
Cohen, 2004: History and the Hyperpower
BBC, April 2008: Country Profile: United States of America
"Geographical trends of research output"
. Research Trends. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2014-03-17
. Cyrchwyd
16 Mawrth
2014
"Field Listing: Area"
The World Factbook
. cia.gov. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2020-07-07
. Cyrchwyd
2021-10-30
"State Area Measurements and Internal Point Coordinates—Geography—U.S. Census Bureau"
State Area Measurements and Internal Point Coordinates
. U.S. Department of Commerce
. Cyrchwyd
11 Medi
2017
"2010 Census Area"
(PDF)
census.gov
U.S. Census Bureau
. t. 41
. Cyrchwyd
18 Ionawr
2015
"Area"
The World Factbook
. Central Intelligence Agency. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2014-01-31
. Cyrchwyd
15 Ionawr
2015
7.0
7.1
Lew, Alan.
"PHYSICAL GEOGRAPHY OF THE US"
GSP 220—Geography of the United States
. North Arizona University. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 9 Ebrill 2016
. Cyrchwyd
24 Rhagfyr
2014
Len McDougall (2004).
The Encyclopedia of Tracks and Scats: A Comprehensive Guide to the Trackable Animals of the United States and Canada
. Lyons Press. t. 325.
ISBN
978-1-59228-070-4
Morin, Nancy.
"Vascular Plants of the United States"
(PDF)
Plants
. National Biological Service. Archifwyd o'r
gwreiddiol
(PDF)
ar 24 Gorffennaf 2013
. Cyrchwyd
27 Hydref
2008
Osborn, Liz.
"Number of Native Species in United States"
. Current Results Nexus
. Cyrchwyd
15 Ionawr
2015
"Numbers of Insects (Species and Individuals)"
. Smithsonian Institution
. Cyrchwyd
20 Ionawr
2009
Lipton, Eric; Krauss, Clifford (23 Awst 2012).
"Giving Reins to the States Over Drilling"
New York Times
. Cyrchwyd
18 Ionawr
2015
Gorte, Ross W.; Vincent, Carol Hardy.; Hanson, Laura A.; Marc R., Rosenblum.
"Federal Land Ownership: Overview and Data"
(PDF)
fas.org
. Congressional Research Service. Archifwyd o'r
gwreiddiol
(PDF)
ar 2015-01-24
. Cyrchwyd
18 Ionawr
2015
"Chapter 6: Federal Programs to Promote Resource Use, Extraction, and Development"
doi.gov
. U.S. Department of the Interior. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 18 Mawrth 2015
. Cyrchwyd
19 Ionawr
2015
The National Atlas of the United States of America (14 Ionawr 2013).
"Forest Resources of the United States"
. Nationalatlas.gov. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 7 Mai 2009
. Cyrchwyd
13 Ionawr
2014
"Land Use Changes Involving Forestry in the United States: 1952 to 1997, With Projections to 2050"
(PDF)
. 2003
. Cyrchwyd
13 Ionawr
2014
Daynes & Sussman, 2010
, pp. 3, 72, 74–76, 78
Hays, Samuel P. (2000).
Collin, Robert W. (2006).
The Environmental Protection Agency: Cleaning Up America's Act
. Greenwood Publishing Group. t. 1.
ISBN
978-0-313-33341-5
. Cyrchwyd
25 Hydref
2015
Endangered species Fish and Wildlife Service
. General Accounting Office, Diane Publishing. 2003. t. 1.
ISBN
978-1-4289-3997-4
. Cyrchwyd
25 Hydref
2015
"What Is the Greenest Country in the World?"
Atlas & Boots
. Environmental Performance Index. 6 Mehefin 2020
. Cyrchwyd
18 Tachwedd
2020
"United States of America"
Global Climate Action – NAZCA
. United Nations
. Cyrchwyd
18 Tachwedd
2020
Nugent, Ciara (4 Tachwedd 2020).
"The U.S. Just Officially Left the Paris Agreement. Can it Be a Leader in the Climate Fight Again?"
. Times. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2021-10-14
. Cyrchwyd
18 Tachwedd
2020
"Biden announces return to global climate accord, new curbs on U.S. oil industry"
Reuters
. 20 Ionawr 2021
. Cyrchwyd
9 Chwefror
2021
Table 2. Population Estimates for the 100 Most Populous Metropolitan Statistical Areas Based on Gorffennaf 1, 2006, Population Estimates
PDF
).
2005 Population Estimates
. U.S. Census Bureau (5 Ebrill, 2007). Adalwyd ar 17 Mehefin, 2007.
Figure A–3. Census Regions, Census Divisions, and Their Constituent States
PDF
). U.S. Census Bureau. Adalwyd ar 17 Mehefin, 2007.
United States National Research Council.
The Growth of Incarceration in the United States: Exploring Causes and Consequences
Washington, DC: The National Academies Press, 2014. Adalwyd 6 Ionawr 2015:
"The U.S. penal population of 2.2 million adults is by far the largest in the world. Just under one-quarter of the world's prisoners are held in American prisons."
Highest to Lowest - Prison Population Total
International Centre for Prison Studies.
Adalwyd 6 Ionawr 2015.
Mahapatra, Lisa (19 Mawrth 2014).
Incarcerated In America: Why Are So Many People In US Prisons?
International Business Times
. Cyrchwyd
3 Tachwedd
2014
Cyfieithiad o:
the United States is comprised of only 5 percent of the world’s population, but we incarcerate almost a quarter of the world’s prisoners.
groundreport.com;
Archifwyd
2014-12-28 yn y
Peiriant Wayback
adalwyd 6 Ionawr 2015
"Population Clock"
U.S. and World Population Clock
. U.S. Department of Commerce. May 16, 2020
. Cyrchwyd
May 24,
2020
The United States population on Mai 23, 2020 was: 329,686,270
"Global Wealth Report"
Credit Suisse
. Hydref 2018
. Cyrchwyd
11 Chwefror
2019
"Forbes Billionaires 2021: The Richest People in the World"
Forbes
(yn English)
. Cyrchwyd
14 Gorffennaf
2021
CS1 maint: unrecognized language (
link
"Coronavirus Reduces Millionaire Count"
spectrem.com
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2020-09-27
. Cyrchwyd
14 Gorffennaf
2021
"Global wealth databook 2019"
(PDF)
. 23 Hydref 2019. Archifwyd o'r
gwreiddiol
(PDF)
ar 23 Hydref 2019
. Cyrchwyd
4 Awst
2021
"Global Food Security Index"
. London: The Economist Intelligence Unit. 20 Medi 2021. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2021-10-12
. Cyrchwyd
20 Medi
2021
Rector, Robert; Sheffield, Rachel (13 Medi 2011).
"Understanding Poverty in the United States: Surprising Facts About America's Poor"
. Heritage Foundation
. Cyrchwyd
8 Ebrill
2013
"Human Development Index (HDI) | Human Development Reports"
UNHDP
. Cyrchwyd
27 Rhagfyr
2018
"Why Is Homelessness Such a Problem in U.S. Cities"
Bloomberg
. 6 Gorffennaf 2020.
"Household Food Security in the United States in 2011"
(PDF)
. USDA. Medi 2012. Archifwyd o'r
gwreiddiol
(PDF)
ar 7 Hydref 2012
. Cyrchwyd
8 Ebrill
2013
Contempt for the poor in US drives cruel policies," says UN expert"
OHCHR
. 4 Mehefin 2018
. Cyrchwyd
5 Mehefin
2018
"Places: New Hampshire"
Forbes
. Cyrchwyd
30 Mehefin
2020
"U.S. Census Bureau QuickFacts: New Hampshire"
www.census.gov
. Cyrchwyd
30 Mehefin
2020
Sagapolutele, Fili (3 Chwefror 2017).
"American Samoa Governor Says Small Economies 'Cannot Afford Any Reduction In Medicaid' | Pacific Islands Report"
www.pireport.org
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2021-02-24
. Cyrchwyd
30 Mehefin
2020
Gross, Elana Lyn (7 Awst 2020).
"As Stimulus Talks Stalemate, New Report Finds 40 Million Americans Could Be At Risk Of Evictionx"
Forbes
. Cyrchwyd
23 Ionawr
2021
"Diagram 1: Energy Flow, 2018"
(PDF)
EIA Annual Energy Review
. U.S. Dept. of Energy, Energy Information Administration. 2018
. Cyrchwyd
21 Ionawr
2021
"Census Bureau's 2020 Population Count"
United States Census
. Cyrchwyd
26 Ebrill
2021
"Population Clock"
www.census.gov
"The World Factbook: United States"
. Central Intelligence Agency. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2021-12-12
. Cyrchwyd
10 Tachwedd
2018
Importance of religion by state
Pew forum
ANALYSIS (19 Rhagfyr 2011).
"Global Christianity"
. Pewforum.org. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2018-12-26
. Cyrchwyd
17 Awst
2012
"Church Statistics and Religious Affiliations"
Pew Research Center's Religion & Public Life Project
. Pew Research
. Cyrchwyd
23 Medi
2014
54.0
54.1
Nones" on the Rise"
. Pew Forum on Religion & Public Life. 2012
. Cyrchwyd
10 Ionawr
2014
55.0
55.1
"America's Changing Religious Landscape"
Pew Research Center
: Religion & Public Life. 12 Mai 2015.
Barry A. Kosmin; Egon Mayer; Ariela Keysar (19 Rhagfyr 2001).
"American Religious Identification Survey 2001"
(PDF)
. CUNY Graduate Center. Archifwyd o'r
gwreiddiol
(PDF)
ar 2013-07-25
. Cyrchwyd
16 Medi
2011
"United States"
. 27 Ionawr 2011
. Cyrchwyd
2 Mai
2013
Jones, Jeffrey M. (29 Mawrth 2021).
"U.S. Church Membership Falls Below Majority for First Time"
Gallup.com
(yn Saesneg)
. Cyrchwyd
5 Ebrill
2021
Gabbatt, Adam (5 Ebrill 2021).
Allergic reaction to US religious right' fueling decline of religion, experts say"
the Guardian
(yn Saesneg)
. Cyrchwyd
5 Ebrill
2021
"Life Expectancy in the United States Declines by a Year and a Half, Centers for Disease Control and Prevention, National Center for Health Statistics"
www.cdc.gov
. 21 Gorffennaf 2021
. Cyrchwyd
12 Hydref
2021
"New International Report on Health Care: U.S. Suicide Rate Highest Among Wealthy Nations | Commonwealth Fund"
www.commonwealthfund.org
(yn Saesneg)
. Cyrchwyd
17 Mawrth
2020
Kight, Stef W. (6 Mawrth 2019).
"Deaths by suicide, drugs and alcohol reached an all-time high last year"
Axios
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2021-09-05
. Cyrchwyd
6 Mawrth
2019
Achenbach, Joel (26 Tachwedd 2019).
There's something terribly wrong': Americans are dying young at alarming rates"
The Washington Post
. Cyrchwyd
19 Rhagfyr
2019
STATCAST – Week of September 9, 2019.
"Mortality in the United States, 2017"
www.cdc.gov
. 29 Tachwedd 2018
. Cyrchwyd
27 Rhagfyr
2018
Bernstein, Lenny (29 Tachwedd 2018).
"U.S. life expectancy declines again, a dismal trend not seen since World War I"
The Washington Post
. Cyrchwyd
27 Rhagfyr
2018
MacAskill, Ewen (13 Awst 2007).
"US Tumbles Down the World Ratings List for Life Expectancy"
The Guardian
. London
. Cyrchwyd
15 Awst
2007
"How does U.S. life expectancy compare to other countries?"
Peterson-Kaiser Health System Tracker
(yn Saesneg)
. Cyrchwyd
17 Mawrth
2020
Planas, Roque (9 Gorffennaf 2013).
"Mexico Obesity Rate Surpasses The United States', Making It Fattest Country in the Americas"
HuffPost
Schlosser, Eric (2002).
Fast Food Nation
. New York: Perennial. t.
240
ISBN
978-0-06-093845-1
"Prevalence of Overweight and Obesity Among Adults: United States, 2003–2004"
. Centers for Disease Control and Prevention, National Center for Health Statistics
. Cyrchwyd
5 Mehefin
2007
"Fast Food, Central Nervous System Insulin Resistance, and Obesity"
Arteriosclerosis, Thrombosis, and Vascular Biology
. American Heart Association. 2005
. Cyrchwyd
17 Mehefin
2007
Luhby, Tami (11 Mawrth 2020).
"Here's How the US Health Care System Makes It Harder to Stop Coronavirus"
CNN
. Cyrchwyd
30 Rhagfyr
2020
"U.S. Uninsured Rate Steady at 12.2% in Fourth Quarter of 2017"
Gallup
. 16 Ionawr 2018.
Abelson, Reed (10 Mehefin 2008).
"Ranks of Underinsured Are Rising, Study Finds"
The New York Times
. Cyrchwyd
25 Hydref
2008
Blewett, Lynn A. (Rhagfyr 2006). "How Much Health Insurance Is Enough? Revisiting the Concept of Underinsurance".
Medical Care Research and Review
63
(6): 663–700.
doi
10.1177/1077558706293634
ISSN
1077-5587
PMID
17099121
"Health Care Law 54% Favor Repeal of Health Care Law"
. Rasmussen Reports
. Cyrchwyd
13 Hydref
2012
"Debate on ObamaCare to intensify in the wake of landmark Supreme Court ruling"
Fox News
. 29 Mehefin 2012
. Cyrchwyd
14 Hydref
2012
"The U.S. Healthcare System: The Best in the World or Just the Most Expensive?"
(PDF)
. University of Maine. 2001. Archifwyd o'r
gwreiddiol
(PDF)
ar 2007-03-09
. Cyrchwyd
29 Tachwedd
2006
Whitman, Glen; Raad, Raymond.
"Bending the Productivity Curve: Why America Leads the World in Medical Innovation"
. The Cato Institute
. Cyrchwyd
9 Hydref
2012
"Ages for Compulsory School Attendance ..."
U.S. Dept. of Education, National Center for Education Statistics
. Cyrchwyd
10 Mehefin
2007
"Statistics About Non-Public Education in the United States"
. U.S. Dept. of Education, Office of Non-Public Education
. Cyrchwyd
5 Mehefin
2007
"Fast Facts: Expenditures"
nces.ed.gov
(yn Saesneg). Ebrill 2020
. Cyrchwyd
29 Awst
2020
Rushe, Dominic (7 Medi 2018).
"The US spends more on education than other countries. Why is it falling behind?"
The Guardian
(yn Saesneg).
ISSN
0261-3077
. Cyrchwyd
29 Awst
2020
Rosenstone, Steven J. (17 Rhagfyr 2009).
"Public Education for the Common Good"
. University of Minnesota. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 1 Awst 2014
. Cyrchwyd
6 Mawrth
2009
"Educational Attainment in the United States: 2003"
(PDF)
. U.S. Census Bureau
. Cyrchwyd
1 Awst
2006
"United States"
The World Factbook
. Central Intelligence Agency. 3 Ionawr 2018. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2021-12-12
. Cyrchwyd
8 Ionawr
2018
For more detail on U.S. literacy, see
A First Look at the Literacy of America's Adults in the 21st century
, U.S. Department of Education (2003).
"Human Development Indicators"
(PDF)
. United Nations Development Programme, Human Development Reports. 2005. Archifwyd o'r
gwreiddiol
(PDF)
ar 20 Mehefin 2007
. Cyrchwyd
14 Ionawr
2008
90.0
90.1
90.2
Adams, J.Q.; Strother-Adams, Pearlie (2001).
Dealing with diversity : the anthology
. Chicago: Kendall/Hunt Pub.
ISBN
978-0-7872-8145-8
Thompson, William E.; Hickey, Joseph V. (2004).
Society in focus : an introduction to sociology
(arg. 5th). Boston: Pearson/Allyn and Bacon.
ISBN
978-0-205-41365-2
Fiorina, Morris P.
; Peterson, Paul E. (2010).
The New American democracy
(arg. 7th). London: Longman. t. 97.
ISBN
978-0-205-78016-7
Holloway, Joseph E. (2005).
Africanisms in American culture
(arg. 2nd). Bloomington: Indiana University Press. tt. 18–38.
ISBN
978-0-253-21749-3
Clifton, Jon (21 Mawrth 2013).
"More Than 100 Million Worldwide Dream of a Life in the U.S. More than 25% in Liberia, Sierra Leone, Dominican Republic want to move to the U.S."
Gallup
. Cyrchwyd
10 Ionawr
2014
"A Family Affair: Intergenerational Social Mobility across OECD Countries"
(PDF)
Economic Policy Reforms: Going for Growth
. OECD. 2010
. Cyrchwyd
20 Medi
2010
Economic Policy Reforms: Going for Growth
OECD. 2010
Retrieved
September 20,
2010
"Understanding Mobility in America"
Center for American Progress
. 26 Ebrill 2006.
Schneider, Donald (29 Gorffennaf 2013).
"A Guide to Understanding International Comparisons of Economic Mobility"
. The Heritage Foundation
. Cyrchwyd
22 Awst
2013
Gutfeld, Amon (2002).
American Exceptionalism: The Effects of Plenty on the American Experience
. Brighton and Portland: Sussex Academic Press. t. 65.
ISBN
978-1-903900-08-6
Zweig, Michael (2004).
What's Class Got To Do With It, American Society in the Twenty-First Century
. Ithaca, NY: Cornell University Press.
ISBN
978-0-8014-8899-3
O'Keefe, Kevin (2005).
The Average American
. New York: PublicAffairs.
ISBN
978-1-58648-270-1
Harold, Bloom
(1999).
Emily Dickinson
. Broomall, PA: Chelsea House Publishers. t.
ISBN
978-0-7910-5106-1
Buell, Lawrence (Gwanwyn–Haf 2008).
"The Unkillable Dream of the Great American Novel:
Moby-Dick
as Test Case"
American Literary History
20
(1–2): 132–155.
doi
10.1093/alh/ajn005
ISSN
0896-7148
Edward, Quinn (2006).
A dictionary of literary and thematic terms
(arg. 2nd). Facts On File. t.
361
ISBN
978-0-8160-6243-0
Lesher, Linda Parent (2000).
The Best Novels of the Nineties: A Reader's Guide
. McFarland. t. 109.
ISBN
978-1-4766-0389-6
Dolenni allanol
golygu
golygu cod
(Saesneg)
Porth swyddogol yr Unol Daleithiau
gw
sg
go
Taleithiau Unol Daleithiau America
Taleithiau
Alabama
Alaska
Arizona
Arkansas
Califfornia
Colorado
Connecticut
De Carolina
De Dakota
Delaware
Efrog Newydd
Fflorida
Georgia
Gogledd Carolina
Gogledd Dakota
Gorllewin Virginia
Hawaii
Idaho
Illinois
Indiana
Iowa
Kansas
Kentucky
Louisiana
Maine
Maryland
Massachusetts
Mecsico Newydd
Michigan
Minnesota
Mississippi
Missouri
Montana
Nebraska
Nevada
New Hampshire
New Jersey
Ohio
Oklahoma
Oregon
Pennsylvania
Rhode Island
Tennessee
Texas
Utah
Vermont
Virginia
Washington
Wisconsin
Wyoming
Ardal ffederal
Ardal Columbia
gw
sg
go
Gogledd America
Gwladwriaethau sofranaidd
Antigwa a Barbiwda
Y Bahamas
Barbados
Belîs
Canada
Ciwba
Costa Rica
Dominica
El Salfador
Grenada
Gwatemala
Gweriniaeth Dominica
Haiti
Hondwras
Jamaica
Mecsico
Nicaragwa
Panamâ
Sant Kitts-Nevis
Sant Lwsia
Sant Vincent a'r Grenadines
Trinidad a Thobago
Unol Daleithiau America
Tiriogaethau dibynnol
ardaloedd ymreolaethol
thiriogaethau
eraill
Anguilla
Arwba
Bermuda
Bonaire
Curaçao
Guadeloupe
Martinique
Montserrat
Puerto Rico
Saba
Saint Barthélemy
Saint-Martin
Saint-Pierre-et-Miquelon
Sint Eustatius
Sint Maarten
Ynys Clipperton
Yr Ynys Las
Ynys Navassa
Ynysoedd Americanaidd y Wyryf
Ynysoedd Caiman
Ynysoedd Prydeinig y Wyryf
Ynysoedd Turks a Caicos
Ystyrid weithiau
fel rhan o
Dde America
gw
sg
go
Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO)
Aelodau
Albania
Yr Almaen
Gwlad Belg
Bwlgaria
Canada
Croatia
Denmarc
Yr Eidal
Estonia
Y Ffindir
Ffrainc
Hwngari
Gogledd Macedonia
Gwlad Groeg
Gwlad yr Iâ
Yr Iseldiroedd
Latfia
Lithwania
Lwcsembwrg
Montenegro
Norwy
Portiwgal
Gwlad Pwyl
Rwmania
Sbaen
Slofacia
Slofenia
Sweden
Y Deyrnas Unedig
Tsiecia
Twrci
Unol Daleithiau
Ymgeiswyr
Bosnia a Hertsegofina
Georgia
Wcráin
gw
sg
go
G8
Aelodau arhosol
Yr Almaen
Canada
Y Deyrnas Unedig
Yr Eidal
Ffrainc
Japan
Rwsia
Unol Daleithiau
Cynrychiolaethau ychwanegol
Yr Undeb Ewropeaidd
gw
sg
go
Aelodau
Cyngor Diogelwch
y Cenhedloedd Unedig
Aelodau parhaol
Ffrainc
Rwsia
Y Deyrnas Unedig
Tsieina
Unol Daleithiau
Aelodau dros dro
2025–26
Denmarc
Gwlad Groeg
Pacistan
Panamâ
Somalia
2026–27
Bahrain
Colombia
Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo
Latfia
Liberia
Wedi dod o "
Categorïau
Unol Daleithiau America
Aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig
Aelod-wladwriaethau NATO
Cyn-drefedigaethau'r Ymerodraeth Brydeinig
Gweriniaethau ffederal
Gwledydd Gogledd America
Gwledydd a thiriogaethau Saesneg
Categorïau cudd:
Webarchive template wayback links
CS1 maint: unrecognized language
CS1 Saesneg-language sources (en)
Tudalennau gyda meysydd deublyg yn y Nodion
Erthyglau sy'n defnyddio Nodyn Gwybodlen lle Wicidata
Pages using the Kartographer extension
Unol Daleithiau America
Ychwanegu pwnc