Wicipedia Cymraeg - Wicipedia
Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o
Wicipedia
Wicipedia Cymraeg
Ciplun o hafan y Wicipedia Cymraeg ar 29 Hydref 2009, diwrnod ar ôl cyrraedd 25,000 o erthyglau
URL
cy.wikipedia.org
Masnachol?
Nac ydy
Math o wefan
Gwyddoniadur arlein
Cofrestru
Dewisol
Ieithoedd
ar gael
Cymraeg
Perchennog
Sefydliad Wicimedia
Lansiwyd ar
Gorffennaf 2003
Gwyddoniadur rhydd
Cymraeg
y gall unrhyw un gyfrannu iddo yw'r
Wicipedia Cymraeg
. Mae'n rhan o deulu
Wikipedia
ac fe'i lansiwyd yng Ngorffennaf 2003. Erbyn heddiw (Ebrill 2026), mae ganddi oddeutu
284,087
o erthyglau. Yn 2023 daeth y Gymraeg yn 45ed allan o 600 o ieithoedd mwya'r byd ar restr
World Language Barometer
, yn bennaf oherwydd cryfder Wicipedia Cymraeg.
Hon, mae'n debyg, yw'r
wefan
Gymraeg fwyaf poblogaidd o ran nifer y darllenwyr, gyda chyfartaledd o 840,000 o dudalennau'n cael eu hagor pob mis gan ddarllenwyr unigryw (nid bots).
Mae'r cyfan o gynnwys Wicipedia a'i chwiorydd (testun, delweddau, ffilm ayb) wedi'u cofrestru ar drwydded
CC-BY-SA
sy'n drwydded sy'n caniatáu defnydd masnachol ohoni, neu ar drwydded agored debyg: gall cwmni cyfyngedig ddefnyddio'r cynnwys a'i werthu am elw, ar
rai amodau
er enghraifft.
Ers 15 Rhagfyr 2016 ceir mwy o erthyglau ar ferched ar y Wicipedia Cymraeg nag o ddynion - yr iaith gyntaf (allan o dros 330) i gyrraedd hynny.
Yn ôl arolwg o ddarllenwyr Wicipedia a gyhoeddwyd yn Chwefror 2017 roedd mwy o'r darllenwyr o'r farn fod yr wybodaeth ar yr Wicipedia Cymraeg yn 'gywir ac yn ddibynadwy' na'r ganran fyd-eang a wnaed yn 2011 mewn arolwg o'r Wicipedia Saesneg.
Yng Ngorffennaf 2013, yn dilyn ffurfio Wici Cymru, penodwyd Rheolwr Cymru, swydd lawn amser, wedi'i noddi gan Lywodraeth Cymru a Wicimedia DU, er mwyn hyfforddi golygyddion i wella ac ychwanegu i gynnwys Wicipedia. Yn Ionawr 2014 penodwyd Trefnydd Hyfforddi sgiliau wici, a'r un mis hysbysebodd
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
am Gydlynydd Wicipedia yn y cylchgrawn
Golwg
. Yn Ionawr 2015 penododd
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Jason Evans yn Wicipediwr Preswyl llawn amser a phenodwyd ef yn Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell_Genedlaethol ym Medi 2017.
Ers Haf 2016 mae Geiriadur Rhywogaethau
Llên Natur
('Y Bywiadur') yn tynnu llif o dros 12,000 o ffotograffau o Gomin Wicimedia, drwy Wicidata, ac yn cynnwys dolen i dros 10,000 o erthyglau ar y Wicipedia Cymraeg.
10
Caiff Wicipedia hefyd ei rhestru fel adnodd Cymraeg ar wefannau
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
11
a'r
BBC
12
13
a chan borwr
Mozilla Firefox
14
Mae
S4C
yn awgrymu Wicipedia fel adnodd i
isdeitlwyr
Cymraeg y gellir ei defnyddio "gyda gofal".
15
Hanes
Yr ymgais i ddatblygu'r Wicipedia, Mawrth 2014. Ch- dde: Robin Owain, Marc Haynes ac Aled Powell
Roedd y Wikipedia (fersiwn Saesneg) wedi'i chreu gan
Jimmy Wales
Larry Sanger
ar 15 Ionawr 2001. Dechreuwyd y Wicipedia Cymraeg yng Ngorffennaf 2003. Cyrhaeddodd mil o erthyglau ar 9 Ebrill 2004, 2500 erbyn 15 Awst 2004,
16
ac erbyn 23 Mehefin 2007 cyhoeddwyd 10,000 erthygl. Ar 20 Tachwedd 2008 roedd 20,000 erthygl, a llai na flwyddyn yn ddiweddarach, cyrhaeddwyd y targed o 25,000 erthygl ar 28 Hydref 2009. Yn Ebrill 2013, roedd dros 40,000 o erthyglau gan y Wicipedia Cymraeg, ac roedd y 71ain Wicipedia mwyaf allan o dros 280 o ieithoedd. Erbyn Gorffennaf 2013 roedd dros 50,000 o erthyglau ac roedd yn y 62ain mwyaf. Ddechrau mis Medi 2014 roedd gan y Wicipedia Cymraeg dros 60,000 o erthyglau ac roedd yn y 63ain mwyaf. Roedd gan y wefan 16 o weinyddwyr, 93 o
ddefnyddwyr gweithgar
, a "dyfnder" o 59.
17
Mesuriad bras o safon Wicipedia yw dyfnder sy'n ystyried nifer yr erthyglau, nifer y golygiadau a nifer y tudalennau "cynhaliaeth" (megis tudalennau sgwrs, categorïau a nodiadau).
18
Ar 02 Mehefin 2015 rhoddwyd botwm 'Dyfynwch ar Wicipedia' ar bob un o dudalennau
Papurau Newydd Cymru Arlein
y Llyfrgell Genedlaethol.
Cyfweliad gyda Marc Haynes,
Cydlynydd Wicipedia llawn amser yn y Coleg Cymraeg
Ar 12 Medi 2012 cyflwynwyd
Cynllun Datblygu
gyda saith maes i'w datblygu, gan gynnwys marchnata'r Wicipedia yn well, rhyddhau ffeiliau
Cadw
, y Llyfrgell Genedlaethol ayb drwy drwyddedi agored
Comin
a hyfforddi golygyddion newydd i Wicipedia. Er mwyn gwireddu'r rhain ffurfiwyd cymdeithas newydd i gefnogi'r Wicipedia Cymraeg: Cymdeithas Wici Cymru a gyfarfu 23 Ebrill 2013 yn Rhuthun. Cytunodd Barry Morgan, Archesgob Cymru a'r actor Rhys Ifans i fod yn un o ddau Noddwr y Wicipedia Cymraeg (gweler
Wicipedia:Wici Cymru
).
Yng Ngorffennaf 2012 cafwyd cyfarfod rhwng y Gweinidog dros Dechnoleg Gwybodaeth Llywodraeth Cymru,
[1]
sef Leighton Andrews, a Robin Owain, gyda'r ddau yn cytuno ar saith pwynt a godwyd, gan gynnwys rhyddhau cynnwys cyrff cyhoeddus ar drwydded agored. Ers y cyfarfod hwn, mae'r Llywodraeth wedi bod yn flaenllaw yn y maes, gyda Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn Awst 2013 yn cyfarfod Robin i agor y drws ymhellach.
19
Yn Nhachwedd 2013 agorwyd cynhadledd addysg Wikimedia UK gan
Gareth Morlais
, a draddododd am bwysigrwydd Wicipedia Cymraeg i addysg Gymraeg.
Ystadegau
Hyd yma (Ebrill 2026), cafwyd 14,829,305 o olygiadau ar y wici Cymraeg gan 106,865 o olygyddion cofrestredig a miloedd rhagor o olygyddion nad ydynt wedi mewngofnodi. Mae ganddi oddeutu 284,000 o erthyglau (Ebrill 2026). Ceir 11 o Weinyddwyr sy'n ceisio cadw trefn ar bethau, a hynny mor agored a phosibl. Roedd nifer y golygyddion gweithgar (dros 25 golygiad) yn ystod y mis diwethaf yn 156.
Cyrhaeddodd y wefan 100,000 o erthyglau ym Mawrth 2018
20
a 200,000 ar 12 Medi 2022 yn dilyn creu erthyglau newydd ar ffilmiau.
Rhwng Mai 2017 a Mai 2019 dyblodd y nifer o olygiadau; yn yr un cyfnod gostyngodd nifer y golygiadau ar yr Wicipedia Saesneg -9%. Gellir cymharu hefyd y sefyllfa ar ddiwedd Mai 2019 gyda'r ieithoedd Celtaidd eraill:
gw
sg
go
Wicipedias
Celtaidd
: Nifer yr erthyglau
(Cyfanswm erthyglau: 469,215)
Cymraeg
Llydaweg
Gwyddeleg
Gaeleg yr Alban
Cernyweg
Manaweg
284,087
91,036
63,820
16,048
7,126
7,098
Prosiectau
Uwchlwytho delweddau Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Jason Evans, Wicipediwr Preswyl y Llyfrgell genedlaethol; penodwyd 19 Ionawr 2015. Ym Medi 2017 penodwyd ef gan y Llyfrgell yn 'Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell Genedlaethol'.
Yn 2008 cydweithiodd y Wicipedia Cymraeg â Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn rhaglen beilot i uwchlwytho delweddau i'r Wicipediau Cymraeg a
Saesneg
, yn bennaf ffotograffau o gasgliad
John Thomas
21
22
Ni chafodd y delweddau eu huwchlwytho dan
drwydded rydd
, ond yn hytrach gyda chaniatâd perchennog yr hawlfraint (sef y Llyfrgell Genedlaethol) i'w defnyddio.
23
Yn 2009 ymunodd y Llyfrgell Genedlaethol â'r wefan
Flickr
, gan uwchlwytho delweddau heb unrhyw gyfyngiadau hawlfraint er mwyn annog pobl i ddefnyddio'r lluniau,
24
a chychwynnodd defnyddwyr Wicipedia uwchlwytho'r delweddau hyn i Wicipedia ym Mehefin 2012.
25
Nifer yr erthyglau ar yr Wici Cymraeg; Mehefin 2013.
Ar 02 Mehefin 2015 rhoddwyd botwm 'Dyfynwch ar Wicipedia' ar bob un o dudalennau
Papurau Newydd Cymru Arlein
y Llyfrgell Genedlaethol - yn Gymraeg ac yn Saesneg. Roedd hyn yn galluogi pobl i gyfeirio at ffynhonellau'r wybodaeth ar Wicipedia yn seiliedig ar bapurau newydd a sganiwyd yn y Llyfrgell.
Pedia Trefynwy
Arwydd Trefynwy
Cymerodd y Wicipedia Cymraeg ran mewn prosiect
Pedia Trefynwy
, cynllun avant-garde, ar y pryd, i ddatblygu erthyglau a chyfryngau Wicipedia am
Drefynwy
mewn nifer o ieithoedd. Gweithiodd
Wikimedia UK
Chyngor Sir Fynwy
i hybu'r prosiect. Gosodwyd dros fil o
godau
QRpedia
ar draws y dref, gan alluogi defnyddwyr
ffonau clyfar
i gael mynediad i erthyglau Wicipedia ar eu ffonau.
26
27
Eraill
Ar wahân i brosiect
Llwybrau Byw
ac yna prosiectau Llyfrgell Genedlaethol a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru (WiciPop a Wici Iechyd), cafwyd prosiect
Prosiect WiciMôn
a phenodwyd Aaron Morris yn Ionawr 2017 am gyfnod o ddwy flynedd, ac yn achlysurol wedi hynny.
Digwyddiadau cynnar
Golygathon 2012
Y poster a grewyd i hyrwyddo golygathon cyntaf y Wicipedia Cymraeg
Fel ymateb i'r Cynllun Datblygu, cynhaliwyd "Golygathon" gan gyfranwyr y Wicipedia Cymraeg ar 30 Mehefin 2012 yn
Llyfrgell Ganolog Caerdydd
. Hwn oedd y cyfarfod Wicipedia Cymraeg cyntaf. Pwrpas y Golygathon oedd i greu golygwyr newydd a dod a'r gwirfoddolwyr cyfoes at ei gilydd drwy wella erthyglau am Gaerdydd a'i phobl.
28
Golygathon yn Llyfrgell Abertawe, Ionawr 2014.
Yn fuan ar ei ôl cafwyd golygathonau mewn nifer o lefydd ledled Cymru gan gynnwys Abertawe, Dolgellau, Rhuthun a Wrecsam.
Eisteddfod 2012
Y bardd
Les Barker
mewn gweithdy Wicipedia yn Eisteddfod 2012
Yn
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012
cafodd y Wicipedia bartner:
Hacio'r Iaith
a rhannwyd pabell.
29
Ymwelodd
Carwyn Jones
, Prif Weinidog Cymru, â'r babell, gan gael ei dywys o gwmpas y wefan gan Robin Llwyd.
30
Ar gyfer yr ŵyl, trefnwyd baner dwy fetr ac arni'r geiriau "Wicipedia Cymraeg: Byd o Wybodaeth".
Cafwyd prosiect gyda'r Eisteddfod Genedlaethol a Menter Môn hefyd, sef '
Wici Môn
', prosiect dair mlynedd, gydag Aaron Morris yn Gydlynydd y Prosiect.
Rhan o restr o ieithoedd a oedd yn defnyddio rhestri Wicidata yn Hydref 2016. Roedd tair gwaith mwy ohonynt ar y Wicipedia Cymraeg na phob un o'r 290 iaith arall gyda'i gilydd!
Cymdeithas Wici Cymru
Prif:
Cymdeithas Wici Cymru
Ym mis Medi 2012 ffurfiwyd Cymdeithas Llwybrau Byw i gefnogi gweithgareddau'r Wicipedia Cymraeg,
31
gan fabwysiadau'r
Cynllun Datblygu
fel cynllun gweithredu'r gymdeithas. Yn hwyrach, newidiwyd yr enw yn Gymdeithas Wici Cymru a chytunodd yr actor a chanwr o Gymro
Rhys Ifans
ac Archesgob Cymru y Gwir Barchedig Athro
Barry Morgan
i fod yn Noddwyr Anrhydeddus y Gymdeithas.
32
. Cofrestwyd y parth www.wicicymru.org a chrewyd gwefan ar gyfer y gymdeithas. Ar Orffennaf 2013 penodwyd Rheolwr Wikimedia UK yng Nghymru wedi'i secondio i Wici Cymru.
Grŵp Defnyddwyr Wicimedia Cymru
Cyflwynwyd y cynnig
yn y Caffi
, yng Ngorffennaf 2017 a sefydlwyd y grŵp yn Aberystwyth ar
27 Mawrth 2018
Trydar a chyfryngau torfol eraill
Ceir rhaglen (
app
) ar
iTunes
ac ar
ffonau Android
i lawrlwytho Wicipedia er mwyn pori'r gwyddoniadur heb angen cysylltu â'r we.
33
Yng Ngorffennaf 2009 crewyd cyfrif i'r Wicipedia Cymraeg ar
i gyhoeddi erthyglau newydd fel "tweets" (@Wicipedia). Ceir hefyd yr
URL
sy'n arwain at yr URL swyddogol,
. Ym Medi 2013 dechreuwyd y cyfri @WiciCymru ac erbyn Mehefin 2019 roedd ganddo dros bum mil o ddilynwyr; mae'n trydar 'Ar y dydd hwn' rhng 8.00 a 9.00 y bore a syniadau am erthyglau newydd, neu awgrymiadau er mwyn ehangu erthyglau. Mae @MonWici a @WiciCaerdydd hefyd yn trydar ac ill dau wedi'u sefydlu ym Mehefin 2017. Yn 2019 sefydlodd Carl Morris gyfri 'Menywod Mewn Coch' gyda'r bwriad i gynyddu niferoedd yr erthyglau ar fenywod.
Cymuned Wicimedia
Wicipedia Cymraeg yw'r mwyaf o'r prosiectau Wicimedia yn y Gymraeg. Y prosiectau eraill yw
Wiciadur
Wicidata
Wicitestun
Wicilyfrau
Wiciddyfynnu
, a thudalennau croeso Cymraeg ar
Meta-Wici
Comin Wicifryngau
, a
Wicirywogaeth
. Nid oes fersiynau Cymraeg o
Wikinews
nac
Wikiversity
Geirfa
Bathwyd termau Cymraeg
ar gyfer nifer o nodweddion y Wicipedia Cymraeg, gan gynnwys "eginyn" (Saesneg:
stub
), "Y Caffi" (
Village Pump
), "nodyn" (
template
), "gwybodlen" (
infobox
), "tudalen wahaniaethu" (
disambiguation page
) ac '
amrodor
' a gwrthrychau technoleg newydd eraill.
Sylwadau amdani
Yn 2023 daeth y Gymraeg yn 45ed allan o 600 o ieithoed mwya'r byd ar restr
World Language Barometer
, yn bennaf oherwydd cryfder Wicipedia Cymraeg.
34
Mewn cyfweliad yn Awst 2007, cyfeiriodd
Jimmy Wales
, sylfaenydd Wicipedia, at y Wicipedia Cymraeg wrth drafod Wicipediau mewn ieithoedd lleiafrifol:
Certainly within Wikipedia right now we are seeing some fairly successful projects in small European languages. You don't really need a Welsh language Wikipedia, perhaps. The number of people who speak Welsh who don't also speak English is very small and getting smaller every year. So why do we have a Welsh Wikipedia? Well, people wanted it, so they're making it. And language preservation is the main motive. It is their mother tongue and they want to keep it alive, keep its literature alive. Certainly some of the larger small languages like Basque and Catalan have very successful projects. I definitely see that preserving parts of your language and culture through collaborative projects makes a lot of sense.
35
Mae
Golwg
36
Planet
37
a'r
Western Mail
38
wedi cyhoeddi erthyglau sy'n trafod y Wicipedia Cymraeg.
Gweler hefyd
Category:Wicipedia Cymraeg
Wicipedia Saesneg
Wicimedia DU
Cyfeiriadau
World Language Barometer
adalwyd 15 Tachwedd 2024
(Saesneg)
Morris, Carl (31 Gorffennaf 2012).
Wales: Imagining the Welsh Language Web
. GlobalVoices. Adalwyd ar 16 Medi 2012.
3.0
3.1
Gwefan Wikistats
Archifwyd
2012-09-10 yn y
Peiriant Wayback
; adalwyd 25 Mawrth 2013
Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 Unported License
Gwefan Comin; adalwyd 12 Mai 2013.
Blog Wikimedia UK adalwyd 3 Hydref 2017.
Arolwg o ddarllenwyr y Wicipedia Cymraeg
Cam bach i Wici Cymru, cam ENFAWR i ddynoliaeth
- Blog Wikimedia UK; adalwyd 3 Hydref 2017.
Library of Wales with a birthday gift to Wikipedia Gwefan Wicimedia DU;
Archifwyd
2020-11-27 yn y
Peiriant Wayback
adalwyd 20 Ionawr 2015
Gwefan Llyfrgell Genedlaethol, Cymru; enw'r blog: Wicipediwr i breswylio yn y Llyfrgell Genedlaethol;
adalwyd 20 Ionawr 2015
Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell Genedlaethol - blog;
adalwyd 3 Hydref 2017.
'Bwletin Llên Natur',
Archifwyd
2016-03-05 yn y
Peiriant Wayback
Rhif 67, Medi 2013; top tudalen 2
Catalog e-Adnoddau: Wicipedia
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
. Adalwyd ar 4 Medi 2012.
Gwybodaeth ar-lein a gwefannau rhannu a chydweithio
BBC Cymru
. Adalwyd ar 4 Medi 2012.
C2 – Gwefannau eraill
BBC Radio Cymru
C2
). Adalwyd ar 4 Medi 2012.
Cychwyn Arni
Mozilla Firefox
. Adalwyd ar 4 Medi 2012.
James, Heulwen L. (Chwefror 2008).
Canllawiau S4C ar gyfer Isdeitlwyr yng Nghymru
S4C
. Adalwyd ar 16 Medi 2012.
(Saesneg)
Wikimedia News/2004
Meta-Wici
. Adalwyd ar 4 Medi 2012.
(Saesneg)
List of Wikipedias
Meta-Wici
. Adalwyd ar 4 Medi.
(Saesneg)
Wikipedia article depth
Meta-Wici
. Adalwyd ar 4 Medi 2012.
Y Prif Weinidog Carwyn Jones a Robin Owain; Awst 2012.
John Thomas (1838-1905): Ei fywyd a'i waith
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
. Adalwyd ar 19 Hydref 2012.
Categori:Delweddau o gasgliad John Thomas
, categori'r Wicipedia Cymraeg sy'n cynnwys delweddau a uwchlwythwyd o gasgliad John Thomas, y Llyfrgell Genedlaethol.
Defnyddiwr:Paul Bevan
, tudalen defnyddiwr y Llyfrfgell Genedlaethol ar y Wicipedia Cymraeg.
Hawliau Cyhoeddi
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
. Adalwyd ar 19 Hydref 2012.
Y Llyfrgell Genedlaethol yn Rhyddhau holl luniau Geoff Charles i Wicipedia
, trafodaeth ar y Wicipedia Cymraeg.
Cynllun Wicipedia i hybu tref
BBC
(30 Rhagfyr 2011). Adalwyd ar 4 Medi 2012.
Tref Wicipedia gyntaf y byd
Golwg360
(17 Mai 2012). Adalwyd ar 4 Medi 2012.
(Saesneg)
Cardiff Welsh Language Editathon Number 1
Meta-Wici
. Adalwyd ar 4 Medi 2012.
Blog Eisteddfod- yr ŵyl Dechnoleg
Golwg360
(2 Awst 2012). Adalwyd ar 4 Medi 2012.
(Saesneg)
Visit report - National Eisteddfod 8 Aug 2012
. Wikimedia UK (8 Awst 2012). Adalwyd ar 16 Medi 2012.
Cofnodion 12 Medi 2012, Cyfansoddiad
Cymdeithas Llwybrau Byw
Google Docs
(12 Medi 2012). Adalwyd ar 12 Hydref 2012.
Cofnodion 24 Hydref 2012
Cymdeithas Wici Cymru
Google Docs
(24 Hydref 2012). Adalwyd ar 28 Hydref 2012.
(Saesneg)
Gwyddoniadur (Cymraeg)
iTunes
. Adalwyd ar 16 Medi 2012.
World Language Barometer
adalwyd 15 Tachwedd 2024
Cyfweliad â geekillustrated.com, Awst 2007
Jac Codi Baw, "Wiki-peidio",
Golwg
, 16 Hydref 2008, t. 30
Craig Owen Jones (Haf 2009).
Look it Up in Wicipedia: Welsh and the Internet
Planet
, tud. 27.
URL
(Saesneg)
Media focus on collaboration includes Wikipedia
Wikipedia
. Adalwyd ar 4 Medi 2012.
Comin Wikimedia
Mae gan
Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
y Wicipedia Cymraeg
Dolenni allanol
Hafan y Wicipedia Cymraeg
Y Wicipedia Cymraeg
ar Twitter
Blog answyddogol am y Wicipedia Cymraeg
(Saesneg)
Tell us about Welsh Wikipedia
ar Meta-Wici
Wikimedian Jason Evans: Sut mae’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cydweithio gyda Wicipedia
: Erthygl ddywiethog
Ystadegau
Ystadegau gan Erik Zachte
Crynodeb o ystadegau'r Wicipedia Cymraeg
Archifwyd
2012-09-10 yn y
Peiriant Wayback
Ystadegau'r Wicipedia Cymraeg (tablau)
dolen farw
Ystadegau'r Wicipedia Cymraeg (siartiau)
Archifwyd
2012-09-10 yn y
Peiriant Wayback
Tudalennau uchaf eu trawiadau
Archifwyd
2012-05-29 yn y
Peiriant Wayback
, wikistics.falsikon.de
Tudalennau uchaf eu trawiadau
, stats.grok.se
Ystadegau rhyngweithiol
Archifwyd
2012-09-01 yn y
Peiriant Wayback
gw
sg
go
Wicipedias
Celtaidd
: Nifer yr erthyglau
(Cyfanswm erthyglau: 469,215)
Cymraeg
Llydaweg
Gwyddeleg
Gaeleg yr Alban
Cernyweg
Manaweg
284,087
91,036
63,820
16,048
7,126
7,098
Wedi dod o "
Categorïau
Gwefannau Cymraeg
Gwyddoniaduron Cymraeg
Sefydliadau 2003
Wicipedia
Wicipedias
Prosiectau Wicimedia
Categorïau cudd:
Webarchive template wayback links
Wicipedia Cymraeg
Ychwanegu pwnc
US