Wicipedia:Cwestiynau Cyffredin - Wicipedia
Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Blwch cymorth:
Mynegai
Tiwtorial
Canllaw Pum Munud
Cwestiynau Cyffredinol / FAQs
Gofynwch Gwestiwn
Geirfa
Y Ddesg Gymorth
Chwilio'r holl Bynciau
Wicipedia:Cymorth
Wicipedia:Cymorth
Cwestiynau Cyffredin
Ar y dudalen hon, gallwch gael atebion i gwestiynau a godir aml gan ddefnyddwyr y safle. Ar gyfer mwy o gymorth, ewch i'r
dudalen cymorth
Beth yw wici?
golygu cod
Mae
wici
yn gasgliad o dudalennau gwe sydd wedi'u cysylltu. Gall unrhyw berson olygu unrhyw dudalen (gydag eithriadau), gan ychwanegu dolenni i dudalennau eraill ar y safle. Yn wir, dyma hanfod y syniad o wici: bod mwy a mwy o gysylltiadau yn creu rhwydwaith eang o dudalennau.
Beth yw Wicipedia?
golygu cod
Wicipedia
ydy'r gwyddoniadur Cymraeg mwyaf ar y we sydd: ac mae o am ddim. Cychwynnodd y fersiwn Saesneg gwreiddiol yn 2001, gyda'r fersiwn Cymraeg yn dilyn yn 2003. Am fwy o wybodaeth, darllenwch
Ynglŷn â Wicipedia
Pwy sy'n berchen ar Wicipedia?
golygu cod
Chi a fi! Rheolir Wicipedia gan gwmni di-elw,
y Sylfaen Wicimedia
. Mae'r cwmni hefyd yn rheoli chwaer-brosiectau Wicipedia, gan gynnwys y
Wiciadur
. Mae'r cyllid yn dod o ymgyrchoedd codi arian blynyddol.
Rhyddheir pob dogfen o dan Drwydded Dogfennaeth Rydd GNU, sy'n golygu y gall unrhyw un gopïo'r deunydd, gyda chydnabyddiaeth. Gweler
Wicipedia:Hawlfraint
am fwy o fanylion.
Sut alla i ofyn cwestiwn?
golygu cod
Mae sawl ffordd i gysylltu â Wicipedia. Os ydych am ofyn cwestiwn cyffredinol, ewch i'r
Caffi
neu'r
Ddesg Gyfeirio
a gofynwch! Os ydych am gysylltu ag unigolyn yn uniongyrchol, gadewch sylw ar ei dudalen sgwrs, ond cofiwch - bydd y nodyn yn weladwy i bawb. Ar y llaw arall, os ydych am anfon neges breifat, mae'n bosibl fod y defnyddiwr wedi caniatáu ichi anfon e-byst ato; os felly, bydd dolen i'r chwith o'i dudalen defnyddiwr.
Y Sylfaen Wicimedia sy'n rhedeg Wicipedia o ddydd i ddydd. Os ydych am gysylltu â nhw, gallwch ymweld â
Meta-Wiki
(yn Saesneg), sy'n cydgysylltu'r prosiectau i gyd.
A ddylwn i gofrestru cyn golygu?
golygu cod
Nid oes rhaid cofrestru, ond mae yna fanteision o wneud hynny. Os ydych yn bwriadu cyfrannu'n gyson yma, mae'n syniad da agor cyfrif, gan nad yw defnyddwyr anhysbys yn cael ail-enwi tudalennau nac uwchlwytho lluniau neu gyfryngau eraill. I weld rhestr o fanteision eraill, gweler
Wicipedia:Cofrestru
Sut allaf fod yn sicr fod y wybodaeth yn gywir?
golygu cod
Gall unrhyw un olygu unrhyw erthygl, felly wrth gwrs mae'n bosibl y gall rhywun ychwanegu gwybodaeth anghywir. Ar y llaw arall, mae eraill yn cadw llygad barcud ar erthyglau, gan ddefnyddio'u
rhestr wylio
, neu'r dudalen
Newidiadau diweddar
. Felly cywirir yn gyflym gwybodaeth anghywir fel rheol. Mae'r broses hon yn gwella wrth i fwy o bobl ymuno. Fe'ch anogir i roi help llaw trwy gywiro erthyglau a rhoi cyfeiriadau defnyddiol.
Sut ydw i'n chwilio Wicipedia?
golygu cod
Y ffordd symlaf yw teipio'r pwnc yn y blwch 'chwilio' i'r chwith o'r dudalen, a chlicio ar 'Chwilio'. Gallwch hefyd ddefnyddio Google gan
ddilyn y cysylltiad hwn
i chwilio drwy Wicipedia yn Gymraeg, ond cofiwch nad yw Google yn cynnwys y diwygiadau diweddaraf.
Gweler
Wicipedia:Chwilio
am ragor o wybodaeth.
Rwyf wedi darganfod gwall mewn erthygl - beth wnaf?
golygu cod
Clicio ar
Golygu
ar frig y dudalen, a chywiro'r gwall. Nid oes ots os gwnewch gamgymeriad - fe fydd eraill wastad yn gallu tacluso ar eich ôl.
Os ydych chi am brofi'ch sgiliau golygu cyn gwneud newidiadau i unrhyw dudalen go iawn, rhowch gynnig ar y
Tiwtorial
a chwaraewch yn y
pwll tywod
, lle gallwch arbrofi gyda golygu tudalen.
Sut mae golygu tudalen?
golygu cod
Ar Wicipedia, fe ysgrifennir tudalennau mewn cod arbennig. Peidiwch â phoeni - dyma'r peth hawsaf yn y byd i'w ddysgu (heblaw'r Gymraeg!). Er enghraifft, dynodir cysylltiadau mewnol gyda [[cromfachau sgwâr dwbl|chromfachau sgwâr dwbl]]. Am esboniad manwl o'r cod wici, gwelwch
Wicipedia:Sut i olygu tudalen
Sut mae creu tudalen?
golygu cod
Os ydych chi'n dod ar draws cysylltiad coch, trwy glicio arni byddwch yn cyrraedd sgrîn golygu ar gyfer yr erthygl honno. Ar ôl ichi ysgrifennu digon am y pwnc, bydd cadw'r dudalen yn ei chreu ar y gronfa ddata.
Os ydych chi am greu erthygl heb orfod darganfod cysylltiad coch iddi, teipiwch y teitl i'r blwch chwilio ar y chwith, a chliciwch
Ewch
. Ar y sgrîn chwilio, bydd cysylltiad coch yn arwain i'r sgrîn golygu ar gyfer y dudalen arfaethedig.
Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair
golygu cod
Os ydych chi wedi rhoi'ch cyfeiriad e-bost inni, gallwn ni e-bostio cyfrinair newydd i chi. Cliciwch ar
Mewngofnodi
yng nghornel dde uchaf y dudalen, teipiwch eich enw defnyddiwr, a chliciwch ar 'Anfoner cyfrinair newydd ataf trwy e-bost'.
Wedi dod o "
Categorïau
Cymorth
Wicipedia
Cwestiynau Cyffredin
Ychwanegu pwnc
US