Wicipedia:Geirfa - Wicipedia
Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Llwybr(au) brys
WP:G
Mae'r dudalen yma yn
eirfa
o dermau a ddefnyddir ar
Wicipedia
. Am fwy o gymorth, gweler
Wicipedia:Cymorth
Wicipedia:Cwestiynau poblogaidd
Gweler hefyd:
Geirfa
Saesneg-Cymraeg o dermau cyfrifiadurol.
DS:
Er hwyluso croes-gyfeirio, rhoddir y
term Saesneg
cyfatebol mewn cromfachau ac yn fach ar ôl y term Cymraeg.
Ch
Dd
Ff
Ng
Ll
Ph
Rh
Th
golygu cod
Archif
(Archive)
Is-dudalen
dudalen sgwrs
yw archif. Symudir y sgyrsiau hynaf ar y dudalen sgwrs i'r archif er mwyn lleihau maint y dudalen sgwrs.
Gweler hefyd:
en:Help:How to archive a talk page
Archwilio defnyddwyr
(Check user)
Mae'r archwilwyr defnyddwyr yn ddefnyddwyr sydd â'r gallu i weld cyfeiriadau IP defnyddwyr mewngofnodedig, yn bennaf er mwyn gwarchod prosiectau Wikimedia rhag fandaliaeth. Mae gan
Stiwardiaid
y gallu hwn ac fe'i roddir i rai defnyddwyr ar brosiectau unigol.
Gweler hefyd:
meta:Checkuser
golygu cod
Babel
(Babel)
Mae'r system Babel ar brosiectau Wikimedia yn hwyluso cyfathrebu rhwng defnyddwyr trwy gofnodi galluoedd ieithyddol y defnyddwyr hynny sydd am gyhoeddi'r wybodaeth hon.
Gweler hefyd:
en:Wikipedia:Babel
Biwrocrat
(Bureaucrat)
Mae biwrocrat yn weinyddwr sydd yn gallu rhoi pwerau gweinyddwr i ddefnyddiwr, newid enwau defnyddwyr, a galluogi cyfrifon bot.
Gweler hefyd:
en:Wikipedia:Administrators#Bureaucrat
a'r rhestr
Galluoedd Grwpiau Defnyddwyr
Bot
(Bot)
Rhaglen sy'n ychwanegu tudalennau neu yn eu golygu, yn awtomatig neu'n lled-awtomatig.
Gweler hefyd:
en:Wikipedia:Bot
a'r rhestr
Galluoedd Grwpiau Defnyddwyr
golygu cod
Y Caffi
(Village Pump)
Prif fforwm cymuned Wicipedia, lle cyhoeddir a thrafodir cynigion, newidiadau polisïau, problemau technegol a materion mewnol eraill o flaen cynulleidfa fwy na cheir ar
dudalen sgwrs
tudalen benodol.
Gweler hefyd:
Wicipedia:Y Caffi
Cyfnewid unwaith-ac-am-byth
(Substitution)
Wrth gyfnewid unwaith-ac-am-byth, mae'r meddalwedd, wrth roi tudalen ar gadw, yn cyfnewid cystrawen wici am ddarn o destun, a hynny unwaith ac am byth. O osod "subst:" cyn enw
nodyn
, bydd y wici yn copïo cynnwys y nodyn i'r dudalen wrth ei chadw, a hynny unwaith ac am byth. Ni fydd y nodyn yn cael ei gopïo o'r newydd trwy'r broses
trawsgynnwys
bob tro y bydd rhywun yn cyrchu'r dudalen.
Gweler
en:Help:Substitution
m:Help:Substitution
am eglurhad pellach.
Cyfrif cydwici
(Global account)
Math o gyfrif sy'n galluogi defnyddiwr i fewngofnodi i bob wici led-led Sefydliad Wikimedia ar unwaith.
Gweler hefyd
m:Help:Unified login
Cyfuno
(Merge)
Cyfuno dwy dudalen i'w gwneud yn un tudalen.
Gweler hefyd
Wikipedia:Help:Merging and moving pages
Cystrawen wici
(Wiki markup)
Côd sy'n debyg i
HTML
, ond yn symlach ac yn haws ei drin, e.e. '''cryf''' yn lle cryf. Cystrawen wici yw'r côd ffynhonnell a roddir ar gadw yn y gronfa ddata, ac a ddangosir yn y bocs golygu.
Gweler hefyd:
Wicipedia:Sut i olygu tudalen
Wicipedia:Enghreifftiau cystrawen wici
golygu cod
Datblygwr
(Developer)
Mae datblygwr yn gallu newid meddalwedd Mediawiki (gan gynnwys Wicipedia) a'r bas data yn uniongyrchol. Yr oedd y
Gweinyddwyr System
ar Sefydliad Wikimedia yn arfer cael eu galw yn Ddatblygwyr hefyd.
Gweler hefyd
Developers
Dolen fewnol
(Internal link)
Dolen sy'n arwain at dudalen arall yn y wici hwn neu un o'n chwaer-brosiectau, sy'n defnyddio'r gystrawen wici "[[Teitl y dudalen|testun yn ôl y gofyn]]". Fel arfer, mae wiciddolen i erthygl sy'n bodoli'n barod yn las, neu'n goch os nad yw'r dudalen ar gael eto, neu'n borffor os ydy'r dudalen ar gael a'ch bod wedi ymweld â hi eisoes. Termau eraill arno: dolen wici, cyswllt mewnol.
Dolen doredig
(Broken link)
Dolen fewnol i dudalen nad yw'n bod. Mae dolen doredig (neu gyswllt toredig') fel arfer yn goch.
golygu cod
Eginyn
(Stub)
Erthygl sydd gan amlaf yn un baragraff byr neu'n llai, ac felly'n erthygl sydd angen ei hehangu.
Gweler hefyd:
Wicipedia:Eginyn
Erthygl
(Article)
Cofnod gwyddoniadurol. Mae pob erthygl yn dudalen, ond nid yw pob tudalen yn erthygl, e.e. nid erthygl yw'r dudalen hon.
Gweler hefyd:
Wicipedia:Beth ydy erthygl
en:
Byrfodd
fersiwn Saesneg
Wicipedia. Felly gyda ieithoedd eraill hefyd, fel "de" =
fersiwn Almaeneg
Wicipedia ayyb. Defnyddir y rhain fel rhagddodiad mewn cysylltiadau rhyngwici. Ceir rhestr llawn o'r Wicipediau a'u byrfoddau ar
meta
golygu cod
Galluoedd defnyddwyr
(User rights)
Mae gwahanol alluoedd gan grwpiau gwahanol o ddefnyddwyr Wicipedia, e.e. Gweinyddwyr, Biwrocratiaid.
Gweler hefyd:
mw:Manual:User_rights
a'r rhestr
Galluoedd Grwpiau Defnyddwyr
Goruchwylio
(Oversight)
Gallu gweinyddol yw goruchwylio sy'n galluogi 'Goruchwylwyr' i ddileu diwygiadau o hanes tudalen. Defnyddir y gallu yma i ddileu gwybodaeth bersonol breifat, gwybodaeth a allai fod yn enllibus, ac mewn achosion o dor-hawlfraint. Mae gan
stiwardiaid
yr hawl hwn. Mae rhai prosiectau Wikimedia yn penodi Goruchwylwyr ar gyfer y prosiect hwnnw, ond nid oes gan Wicipedia Oruchwylwyr penodedig.
Gweler hefyd:
meta:Oversight
Gwahaniaethu
(Disambiguation)
Y broses o ddatrys y broblem a godir pan mae gan erthygl dau bwnc neu fwy gyda'r un teitl naturiol.
Gweler hefyd:
Wicipedia:Gwahaniaethu
Thudalen wahaniaethu
Gwedd
(Skin)
Gosodiad yn "
fy newisiadau
" yw gwedd sy'n pennu ymddangosiad y wici. Ar hyn o bryd, mae wyth gwedd ar gael: MonoBook (y rhagosodyn), Chick, Hiraeth, Modern, Glas Cwlen, Simple, MySkin, a Safonol.
Gweinyddwr
(Admin, Administrator, Sysop)
Defnyddiwr a chanddo alluoedd technegol ychwanegol er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw ar Wicipedia – gan gynnwys
dileu
diogelu
tudalennau, a
rhwystro
defnyddwyr.
Gweler hefyd:
Wicipedia:Gweinyddwyr
a'r rhestr
Galluoedd Grwpiau Defnyddwyr
Gweinyddwr y System
(System Administrator)
Mae Gweinyddwyr y System yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar weinyddion Sefydliad Wikimedia. Pan ddechreuodd Wikimedia y
datblygwyr
oedd yn gwneud y gwaith hwn.
Gweler hefyd:
m:System administrators
Gwybodlen
(Infobox)
Nodyn
sydd yn dabl a fformatir gyda
chystrawen wici
, sydd i'w gweld mewn erthyglau gyda phwnc cyffredin, ac sy'n rhoi gwybodaeth sylfaenol am bwnc yr erthygl.
Gweler hefyd:
Cymorth:Gwybodlen
Wicipedia:Rhestr gwybodlenni
golygu cod
Hanes
(History)
Yr holl ddiwygiadau i dudalen yw ei hanes. Enwau eraill arni yw hanes y dudalen neu weithiau hynt y dudalen. Gallwch weld hanes tudalen trwy wasgu ar y tab 'Gweld yr hanes' neu 'hanes', e.e.
hanes y dudalen Tannatt William Edgeworth David
golygu cod
Is-dudalen
(Subpage)
Tudalen sy'n tarddu o riant-dudalen, megis
Wicipedia:Y Caffi/archif
. Gellir ddim ond creu is-dudalennau mewn rhai parthau. Peidiwch a ddefnyddio is-dudalennau yn y prif barth.
Gweler hefyd:
Wicipedia:Is-dudalennau
golygu cod
Nodyn
(Template)
Gall cynnwys un dudalen gael ei osod o fewn tudalen arall trwy ei
drawsgynnwys
. Gelwir y tudalennau sydd wedi eu creu'n unswydd ar gyfer cael eu trawsgynnwys yn nodiadau (e.e.
gwybodlenni
, paneli llywio). Gosodir nodiadau ar y parth Nodyn.
Gweler
m:Help:Template
am eglurhad pellach.
NPOV
Neutral Point of View (Saesneg) - polisi diduedd Wicipedia
golygu cod
Porth y Gymuned
(Community Portal)
Un o brif tudalennau Wicipedia. Gellir ei ddarganfod ar y panel llywio (ar yr ochr chwith yn y rhan fwyaf o
grwyn
), ac mae'n dudalen sy'n rhestru tasgau sydd angen eu gwneud, materion sydd angen eu datrys, ac adnoddau a gwybodaeth gyffredinol. Mae Porth y Gymuned yn ddefnyddiol ar gyfer dewis erthygl neu bwnc i weithio arno neu i ddarllen.
Gweler hefyd:
Wicipedia:Porth y Gymuned
Rh
golygu cod
Rhestr wylio
(Watchlist)
Grŵp o dudalennau a ddewisir gan y defnyddiwr, sy'n gallu clicio ar "
fy rhestr wylio
" i weld newidiadau diweddaraf y tudalennau hynny.
Gweler hefyd:
Cymorth:Gwylio tudalennau
golygu cod
Stiward
(Steward)
Mae Stiward yn
Weinyddwr
sydd â'r gallu i newid statws unrhyw ddefnyddiwr ar unrhywun o wicïau Sefydliad Wikimedia, gan gynnwys y gallu i roi a thynnu statws Gweinyddwyr a
Biwrocratiaid
Gweler hefyd
meta:Steward
golygu cod
Trawsgynnwys
(Transclude)
Gosod cynnwys un dudalen o fewn tudalen arall ar y wici. Mae'r
nodiadau
ar y parth Nodyn wedi eu creu'n bwrpasol at gael eu trawsgynnwys ar dudalennau eraill.
Gweler
en:Wikipedia:Transclusion
am eglurhad pellach.
Tudalennau amheus
(Articles for Deletion)
Tudalen
i drafod cynigion i ddileu tudalen yn y wici.
Gweler
Wikipedia:Guide to deletion
am eglurhad pellach.
Tudalen bwnc
(Content page)
Tudalen lle mae'r cynnwys yn rhan o brif pwrpas y wici. Ar Wicipedia mae'r erthyglau yn y prif barth a'r tudalennau yn y parth 'delwedd' yn dudalennau pwnc.
Tudalen sgwrs
(Talk page)
Tudalen ar gyfer trafod y dudalen mae ynghlwm wrtho. Mae gan bob tudalen ar Wicipedia (ar wahân i dudalennau yn y parth Arbennig, a thudalennau sgwrs eu hunain) tudalen sgwrs.
Gweler hefyd:
Wicipedia:Tudalen sgwrs
Wicipedia:Canllawiau tudalennau sgwrs
Tudalen wahaniaethu
(Disambiguation page)
Tudalen sydd yn cynnwys ystyron gwahanol gair, ac sy'n cysylltu i'r tudalennau lle diffinir yr ystyron gwahanol. Os oes angen rhagor o wahaniaethu rhwng termau, enwir tudalennau gwahaniaethu yn "bwnc (gwahaniaethu)".
Gweler hefyd:
Gwahaniaethu
golygu cod
Wiciadur
(Wiktionary)
Un o chwaer brosiectau Wicipedia sydd â'r amcan o greu geiriadur ar-lein o bob gair ym mhob iaith.
Gweler hefyd:
Wiciadur
WiciBrosiect
(WikiProject)
Prosiect ar Wicipedia sy'n cydlynu'r gwaith o wella'r holl erthyglau ar bwnc arbennig.
Gweler hefyd:
Wicipedia:WiciBrosiectau
Wicifywyd
(Wikispecies)
Un o chwaer brosiectau Wicipedia sydd â'r amcan o greu cyfeiriadur ar-lein o'r holl rywogaethau (wedi'i anelu yn bennaf at ddefnyddwyr gwyddonol yn hytrach na defnyddwyr cyffredinol).
Gweler hefyd:
Wicifywyd
Wicilyfrau
(Wikibooks)
Un o chwaer brosiectau Wicipedia sydd â'r amcan o greu casgliad ar-lein o werslyfrau a llawlyfrau.
Gweler hefyd:
Wicilyfrau
Wicidestun
(Wikisource)
Un o chwaer brosiectau Wicipedia sydd â'r amcan o greu casgliad ar-lein o destunau a dogfennau sydd yn y parth cyhoeddus.
Gweler hefyd:
Wicitestun
WP
Wicipedia
Ch
Dd
Ff
Ng
Ll
Ph
Rh
Th
Wedi dod o "
Categorïau
Cymorth
Wicipedia
Geirfa
Ychwanegu pwnc