Wicipedia:Polisïau a chanllawiau - Wicipedia
Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Mae Wicipedia Cymraeg yn brosiect cydweithredol ond mae ganddi ei pholisïau ei hun. Ystyrir hefyd polisïau Wiki-en yn ganllawiau defnyddiol pan nad yw'r polisïau manwl ar gael yn y Gymraeg.
Ein hamcan gyda Wicipedia yw creu gwyddoniadur a roddir am ddim i bawb ei ddefnyddio; hwn y'r gwyddoniadur mwyaf a grëwyd erioed, o ran ei hyd a'i led. Carem iddo hefyd fod yn ffynhonnell ddibynadwy o ffeithiau diduedd.
Mae i Wicipedia, felly, nifer o
bolisïau a chanllawiau
a ystyrir yn bwysig gennym. Mae'r rhain yn ein cynorthwyo i gyrraedd yr amcanion yma. Mae rhai ohonynt yn esblygu o ddydd i ddydd wrth i Wicipedia ddatblygu a chynyddu. Mae eraill, fodd bynnag, wedi hen sefydlu ac ni chaent eu hystyried mewn unrhyw ffordd yn ddadleuol gan y rhan fwyaf o hen lawiau Wicipedia.
Polisïau
golygu cod
Mae'r rhain wedi'u sefydlu ar
Bum Colofn Wicipedia
1.
Osgoi rhagfarn (neu ogwydd).
Dylai erthyglau gael eu hysgrifennu o
safbwynt niwtral
, sy'n golygu y dylai'r erthygl gynrychioli o leiaf dwy farn wahanol, a hynny yn deg ac yn sensitif. Gweler
Wicipedia:Arddull ddiduedd
am esboniad manylach.
2.
Peidiwch ag amharu ar hawlfraint.
Mae Wicipedia yn wyddoniadur a roddir i bawb yn rhydd, yn rhad ac am ddim, a hynny o fewn termau
GNU Free Documentation License
. Mae uwchlwytho gwaith heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint yn herio (ac weithiau'n torri) ein hamcanion, sef adeiladu gwyddoniadur cyfan gwbwl am ddim y gall unrhyw un ei ddosbarthu i unrhyw bwrpas; gall hefyd arwain at atebolrwydd cyfreithiol. Gweler
Wicipedia:Hawlfraint
Wicipedia:Cynnwys cyfyngedig
am ragor o wybodaeth.
3.
Gwyddoniadur yw Wicipedia.
Dylai'r wefan gael ei defnyddio'n bennaf er mwyn hybu'r gwyddoniadur hwn ac nid i leisio barn. Pwrpas y tudalennau 'Sgwrs' yw gwella a hybu'r erthyglau. Gweler
Wicipedia:Anaddas ar gyfer Wicipedia
Wicipedia:Angen ffynhonnell
sy'n ymwneud â dwy garreg glo hanfodol. Ceir polisi gennym hefyd ar
Amlygrwydd
, sef y meincnodau a ddefnyddir wrth i ni ystyried a ydy'r person, y grŵp, y cwmni neu'r gwrthrych yn haeddu erthygl. Ceir hefyd
Bolisi ar enwi erthyglau
4.
Parchwch ddefnyddwyr eraill.
Mae'r rheiny sy'n cyfrannu at Wicipedia'n dod o wahanol wledydd a diwylliannau ac mae ganddynt farn wahanol i'w gilydd yn aml. Mae hyn yn wir hefyd am y Wicipedia Cymraeg, gyda llawer o'r cyfrannwyr yn byw ledled y byd. Gallwn gydweithio'n effeithiol mewn modd
cwrtais
i ddatblygu Wicipedia pan rydym yn parchu pobl ac amrywiaeth barn. Gweler y canllaw Saesneg:
Moesau
. Mae ein
Polisi preifatrwydd
yn rhan anhepgor o barchu eraill.
5.
Dilynwch y confensiynau.
Drwy ddilyn rhai confensiynau neu arferion sydd heb eu hysgrifennu, gallwn greu gwyddoniadur mwy cyson a defnyddiol. Edrychir ar rai o'r canlynol fel polisïa drwy ddefnydd a chonfensiwn:
Wicipedia:Consensws
Wicipedia:Botiau
Wicipedia:Canllawiau tudalennau sgwrs
Wicipedia:Fandaliaeth
Wicipedia:Arddull
Wicipedia:Canllawiau iaith
Wicipedia:Enwi erthyglau
Wicipedia:Ail enwi neu symud tudalen
Wicipedia:Polisi defnyddio delweddau
Wicipedia:Canllaw dileu delweddau
Tynnu statws gweinyddwr
Wicipedia:Cyfarwyddiadau ynglŷn â materion cyfoes
Wicipedia:Categorïau
6.
Ewch amdani!
. Byddwch ddewr: os gwnewch gangymeriad - peidiwch â phoeni! Gweler:
Wicipedia:Ewch amdani!
Sut mae'r polisïau hyn yn cael eu gorfodi?
golygu cod
Golygydd Wicipedia yw...
chi
. Nid oes "Prif Olygydd" neu sensor mawr sy'n goruchwylio'r holl waith o ddydd i ddydd. Yn hytrach, mae'r defnyddwyr eu hunain yn monitro
newidiadau diweddar
a chywiro gwallau'n ymwneud â hawlfraint a chynnwys a fformadu fel maent yn codi.
Mewn achosion eithriadol mae
Jimmy Wales
yn medru atal defnyddiwr sydd wedi bod yn hen niwsans. Mae Jimbo wedi creu rhai polisïau swyddogol ar ran Wicipedia:
this Wikien-l post
en:User:Jimbo Wales/Statement of principles
Sut y crëwyd y polisïau
golygu cod
Ymarfer da a chonsensws barn mewn gwirionedd sydd wrth wraidd ein polisïau. Yn yr un modd, crëwyd y canllawiau hyn er mwyn disgrifio'r gymuned a gwaith y gymuned fel y mae hi heddiw a'r ymarfer da maent wedi ei grynhoi a'i gasglu dros y blynyddoedd. Rydym yn parhau i drafod ac ystyried problemau ar yn
Y Caffi
Canllawiau i'w hystyried
golygu cod
Yn ogystal â'r polisïau cyffredinol rydym wedi'u rhestru uchod, mae'r canlynol yn ganllawiau a ddefnyddiwn, ond sydd wedi'u creu ar Wici-en::
Canllawiau iaith
golygu cod
Wicipedia:Canllawiau iaith
Erthyglau a sgyrsiau eraill ynghylch Wicipedia
golygu cod
Mae gwefan
Meta-Wikipedia
yn cynnwys llawer o erthyglau ynglŷn â Wicipedia a phynciau perthynol mewn dull mwy golygyddol.
Creu erthyglau
sut-i
ar Wicipedia.
Wedi dod o "
Categorïau
Cymorth
Polisi Wicipedia
Wicipedia
Polisïau a chanllawiau
Ychwanegu pwnc