Y Ddaear
Symbol
🜨, ♁
Nodweddion orbitol
Pellter cymedrig i'r
haul
US
149,597,890 km
Radiws cymedrig
147,100,000 – 152,100,000 km
Echreiddiad
Parhad orbitol
365.24 dydd
Buanedd cymedrig orbitol
29,785.9 km/
-1
Gogwydd orbitol
0.00005°
Nifer o
loerennau
Nodweddion materol
Diamedr cyhydeddol
12,756.270 km
Diamedr pegynol
12,713.500 km
Diamedr cymedrig
12,745.591 km
Arwynebedd
5.1×10
km
Más
5.9737×10
24
kg
Dwysedd cymedrig
5.515 g/cm
-3
Disgyrchiant ar yr arwyneb
9.766 m/s
-2
Parhad cylchdro
23.934 awr
Albedo
0.38
Buanedd dihangfa
5.02 km s
-1
Tymhereddau arwyneb
185
(isaf)
287 K (cymedrig)
331 K (uchaf)
Nodweddion atmosfferig
Gwasgedd atmosfferig
101.32
kPa
Nitrogen
77%
Ocsigen
21%
Argon
1%
Y Ddaear
(symbol:
; hefyd y
byd
Groeg
Γαῖα
neu
Gaia
sef ‘mam ddaear’
) yw'r
blaned
yr ydym ni'n byw arni. Hi yw'r drydedd blaned oddi wrth yr
Haul
, canolbwynt
Cysawd yr Haul
. Mae gan y Ddaear un lloeren naturiol:
y Lleuad
. Mae'r Ddaear yn cylchdroi unwaith o amgylch yr Haul bob blwyddyn (sef 365.2422 niwrnod), ac yn troi o gylch ei hechel ei hun unwaith bob diwrnod serol (23.934 awr), sef yr amser sydd ei angen er mwyn i'r haul ddychwelyd i'r un lle yn yr wybren. Gellir dweud fod y ddaear yn unigryw o blith y planedau gan fod arni fywyd, digonedd o
ddŵr
ac awyr sy'n gyfoethog o
nitrogen
ac
ocsigen
; ond er hynny dydi hi ddim yr unig enghraifft o blaned yn y
bydysawd
a all gynnal
bywyd
. Credir i fywyd ddechrau arni o leiaf 3.5 biliwn o flynyddoedd cyn y presennol (
CP
), er bod tystiolaeth o 'fywyd biotig' yng ngorllewin
Awstralia
'n mynd yn ôl i 4.1 biliwn CP.
O astudiaeth radiometrig gallwn ddyddio ffurfiad y Ddaear, sef tua 4.54 biliwn o flynyddoedd yn ôl.
O fewn i biliwn blwyddyn cyntaf ei chreu, ymddangosodd bywyd yn ei moroedd. Yr hyn sy'n caniatáu hyn yw pellter y Ddaear o'r haul, ei nodweddion ffisegol a'i gwneuthuriad
daearegol
Ceir pob math o diroedd ar wyneb y ddaear a elwir yn
gyfandiroedd
, a orchuddir gan
goedwigoedd
glaswellt
tir diffaith
lle nad oes dim yn tyfu a cheir tir wedi'i orchuddio gan
eira

. Gall ei hwyneb fod yn wastad, yn fryniog neu yn
fynyddig
. Hefyd mae pob math o bethau byw ar y ddaear, yn
blanhigion
ac
anifeiliaid
ac
organebau
byw eraill.
Erbyn
4.54
0.04 Gya
roedd y Ddaear gysefin wedi cael ei ffurfio.
Mae gwyddonwyr wedi gallu adlunio darlun o orffennol y ddaear, drwy ymchwil
gwyddonol
a chredir fod y mater solar hynaf (sy'n rhoi oed yr haul) yn
4.5672
0.0006
biliwn o flynyddoedd yn ôl
. Erbyn
4.54
0.04 Gya
roedd y Ddaear wedi'i ffurfio.
Prif erthygl:
Esblygiad
Oddeutu 4 biliwn o flynyddoedd yn ôl, yn dilyn adweithiau cemegol cryf, crewyd
moleciwlau
a oedd yn medru creu copi ohonynt eu hunain drwy'r broses a elwir yn "atgynhyrchu". Hanner biwliwn o flynyddoedd yn ddiweddarach crewyd yr hynafiad sy'n perthyn i bopeth byw. Drwy ddatblygu'r broses o
ffotosynthesis
, cynaeafwyd golau'r haul gan yr hynafiaid hyn a gynhyrchodd
ocsigen
moleciwlar (O
) a ymledodd drwy'r
atmosffer
a ffurfiodd yn ei dro darian o
haen osôn
a amddiffynnodd yr hyn a oedd yn brysur ddatblygu oddi tano: bywyd. O'r hynafiaid un-gell yma, datblygwyd y gallu i gell ffurfio oddi fewn i gell arall, gan greu organebau amlgellog sef ewcaryotau (
eukaryotes
). Drwy arbenigedd, ffurfiwyd mathau gwahanol a thrwy amsugno
ymbelydredd electromagnetig
uwchfioled
, lledodd y bywyd newydd hwn ar draws ac ar hyd wyneb y Ddaear. Mae'r
ffosil
cyntaf (neu hynaf) a ganfuwyd hyd yma (2015) oddeutu 3.7 biliwn o flynyddoedd oed, mewn
tywodfaen
yng Ngorllewin yr
Ynys Las
Prif erthygl:
Gwyddorau daear
Mae'r Ddaear yn blaned ddaearol, sy'n golygu fod ganddo gorff creigiog, yn hytrach na chawr ia fel
Iau
. Dyma yw'r blaned fwyaf allan o'r pedwar planed ddaearol sydd yng nghysawd yr haul. Mae gan y Ddaear y dwysedd fwyaf, disgyrchedd fwyaf, y grym magnetig cryfaf, cylchdroed cyflymaf a hefyd y blaned efo tectonig fwyaf gweithgar.
Y Ddaear- Siâp Oblad
Theori
Darwin
- Esblygiad
Fringillidae
ar
Ynysoedd y Galapagos
Llosgfynydd
-Gweithgaredd ar
Ffin Plât tectonig
Mae gan y Ddaear siâp sffêr oblad. Mae hyn yn golygu ei bod yn chwyddo yn y canol ar y cyhydedd.
Prif erthygl:
Tectoneg platiau
Tectoneg platiau, neu symudiadau'r platiau, yw'r theori ddaearegol sy'n esbonio symudiadau mawr o fewn cramen y Ddaear.
Prif erthygl:
Daeareg
Mae'r tu mewn i'r ddaear wedi ei wneud o haenau gwahanol sydd efo priodweddau ffisegol a cemegol gwahanol:
Crëir gwres mewnol y ddaear gan ddadelfeniad isotopau
ymbelydrol
Mae 70.8% o'r ddaear wedi'i gorchuddio efo dwr. Mae'r gweddill uwchben y môr yn cynnwys mynyddoedd, platiau a gwastatiroedd.
Prif erthygl:
atmosffer y ddaear
Mantell o nwyon amddiffynnol o amgylch y Ddaear yw atmosffer y ddaear (hefyd "atmosffer") sy'n ein hynysu oddi wrth newidiadau tymheredd eithafol a fyddai'n digwydd hebddo.
Mae tynfa disgyrchiant yn cynyddu'r dwysedd yn nes at arwynebedd y ddaear fel bod 80% o'r màs atmosfferig yn y 15 km isaf.
Cynnwys dŵr y Ddaear yw'r hydrosffer. Mae 97.5 o dwr y ddaear yn cynnwys
halen
. Mae'r moroedd yn amsugno Carbon Deuocsid o'r atmosffer.
Prif erthygl:
Hinsawdd
Hinsawdd yw cyflwr y tywydd mewn ardal dros gyfnod o amser. Cyflwr tymor hir o dywydd rhagweladwy yw hinsawdd. Mae hinsawdd y ddaear yn amrywio o le i le ac yn cael ei heffeithio gan nodweddion ffisegol y ddaear megis mynyddoedd, afonydd, lledred, diffeithdiroedd a diwasgeddau.
Mae'r Ddaear yn cymryd 24 awr i gylchdroi unwaith. Gelwir hyn yn ddiwrnod. Mae'r ddaear yn cymryd tua 365 diwrnod i fynd o amgylch yr haul. Gelwir hyn yn flwyddyn. Ar gyfartaledd mae'r Ddaear tua 150 miliwn milltir o'r haul, ac yn symud ar fuanedd o 108,000 m. y. a. Mae'r
Lleuad
yn cylchdroi'r Ddaear bob 27.3 diwrnod. Mae atyniad disgyrchol y lleuad yn creu
Llanw
morol.
Mae gan pob diwylliant ei stori am y creu – ceir dwy yn Genesis hyd yn oed. Serch hynny, er yr amrywiaeth rhyfeddol ym manylion y straeon hyn cawn sawl thema gyffredin.
Yn ôl y mwyafrif ohonynt doedd dim ond anhrefn yma ar y cychwyn ar ffurf môr diderfyn neu anialwch di-ffurf mewn tywyllwch llwyr. Cred eraill mai o freuddwyd y daeth popeth. Ond i gael trefn ar yr anhrefn cychwynnol yma, a chreu bodolaeth o anfodolaeth, roedd angen gweithred ac fe ddigwyddodd hynny un ai drwy ddamwain neu drwy fwriad rhyw greawdwr neu'i gilydd.
I'r Sgandinafiaid damwain oedd y cyfan, a'r byd wedi cychwyn drwy hap pan ddaeth tân a rhew at ei gilydd yng ngheubwll anhrefn, a elwir Ginnungagap. Ond y gred fwyaf cyffredin yw mai rhyw greawdwr fu ar waith, e.e. yn ôl y Tiv yng ngogledd
Nigeria
, saer coed oedd y creawdwr, oedd wedi cerfio popeth yn ôl ei ddelwedd ef o berffeithrwydd a rhoi bywyd iddynt.
Prif themau stori'r creu drwy'r byd:
I frodorion Awstralia cychwynnodd popeth yn amser y freuddwyd (
dream time
) ac mae'r ffin rhwng y freuddwyd fawr honno a'n realaeth ni yn dal yn un denau iawn ar y gorau, yn ôl y brodorion. Rhaid cynnal y defodau priodol, cadw at reolau tabŵ a pharchu ysbrydion pawb a phopeth os am i bethau aros yn eu priod le. Efallai bod perthynas â hyn yn y syniad
Hindwaidd
mai myfyrdod y duw Brahma wedi troi'n realaeth yw ein bodolaeth ni ac mai drwy fyfyrdod y cawn ninnau'r allwedd i ystyr y bodolaeth hwnnw.
Dyma'r stori fwyaf gyffredin ac eang ei dosbarthiad drwy'r byd am yr hyn oedd yma gyntaf, sef anhrefn dyfrllyd neu fôr di-ffurf ac, yn aml iawn, efo angenfilod dinistriol yn byw ynddo. Rhaid oedd lladd yr angenfilod hyn cyn i'n byd ni fedru dod i fodolaeth. Ym mytholeg y
Sumeriaid
, 3,500 CC, ceir hanes Nammu (duwies y dyfroedd) roddodd enedigaeth i'r awyr a'r ddaear. Yn un rhan o'r stori mae'r arwr-dduw Ninwta yn lladd y sarff-ellyll Kur ac yn defnyddio'r corff fel morglawdd i wahanu'r tir oddi ar y môr.
Hon yw'r fersiwn gynharaf o deulu cyfan o fythau Indo-Ewropeaidd am rai'n brwydro yn erbyn draig, e.e.
Hercules
a'r
Hydra
Perseus
Medusa
Sant Siôr
a'r ddraig;
Beowulf
Grendel
Krishna
Kaliya
a cheir sawl stori leol drwy'r byd
Celtaidd
am arwr yn lladd anghenfil y llyn i achub y ferch oedd am gael ei haberthu iddo.
Ceir straeon tebyg yn
Tsieina
am y dduwies-greawdwr Nu Wa yn brwydro yn erbyn draig yr Afon Felen, tra yn yr Aifft bu raid trechu sarff y dyfroedd a'i halltudio i'r is-fyd cyn y daethai'r byd i drefn. Mae brwydro yn erbyn sarff neu grocodeil enfawr yn thema gyffredin yn y straeon creu o Indonesia tra yn Awstralia ceir stori o amser y freuddwyd am y frwydr rhwng y dduwies-greawdwr ar ffurf sarff yr enfys a'i mab. Yn ystod y frwydr honno y daeth tir, mynyddoedd ac afonydd i fodolaeth.
Ym mhennod gyntaf Genesis sonir am “ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd”, ac “Yna dywedodd Duw 'casgler ynghyd y dyfroedd dan y nefoedd i un lle, ac ymddangosed tir sych'”. Ni sonir am ddraig yma, ond yn Eseia 27, 1 dywedir: “Yn y dydd hwnnw bydd yr Arglwydd a'i gleddyf… yn cosbi Lefiathan y sarff… ac yn lladd y ddraig sydd yn y môr”, ac yn y Salmau 74, 13-14: “Ti a'th nerth rannodd y môr, torraist bennau'r dreigiau yn y dyfroedd. Ti a ddrylliodd bennau Lefiathan…”.
Yn rhai fersiynau o'r creu o anhrefn dyfrllyd ceir bod tir sych wedi ei godi o waelod y môr, un ai gan greawdwr-bysgotwr oedd wedi ei fachu a'i godi o'r dyfnder (
Polynesia
); crwban môr yn gwthio tywod i fyny (
Hawai
, de-ddwyrain
Asia
ac
India
) neu
aderyn
neu greadur arall yn plymio a chodi llaid (canol Asia,
Siberia
Gogledd America
).
Daw'r mwyafrif o'r straeon hyn o dde-ddwyrain Asia a'r rhannau sych o Affrica ac Awstraila, e.e. yn Gini Newydd sonir am fyd sych a chreigiog a phobl yn ymddangos o dwll yn y ddaear.
Yn ôl dehongliad rhai, ceir fersiwn arall o'r creu sych yn Genesis 2, 4-7. Yma, fel rhagymadrodd i hanes creu
Adda
o lwch y tir ac
Efa
o'i
asen
, dywedir: “Yn y dydd y gwnaeth yr Arglwydd Dduw ddaear a nefoedd, nid oedd un o blanhigion y maes wedi dod i'r tir…”. Ni cheir son o gwbwl am y môr yn y fersiwn hon a daw dŵr i fodolaeth fel “tarth yn esgyn o'r ddaear ac yn dyfrhau holl wyneb y tir”.
I'r Dogon yng ngorllewin Affrica, y creawdwr Amma dorrodd blisgyn yr ŵy dwyfol oedd yma ar y cychwyn, gan ollwng yn rhydd y ddau dduw sy'n cynrychioli trefn ac anhrefn.
Yn Tsieina datblygodd y cawr dwyfol Pan Gu oddi mewn i ŵy cosmig a nofiai yn anhrefn. Pan ddeffrodd y cawr torrodd y plisgyn yn ddau ddarn a elwir yn Yin (tywyllwch) a Yang (goleuni). Cyferbynia Yin a Yang hefyd i fennyw a gwryw, oerni a gwres, meddal a chaled, da a drwg ayyb. Safodd Pan Gu, fel y gwnaeth
Atlas
, am oes gyfan yn cadw'r dau ddarn (y ddaear a'r awyr) ar wahân a phan fu farw daeth yr haul o'i lygad dde, y lleuad o'i lygad chwith, y gwynt o'i anadl, glâw a gwlith o'i chwys a mynyddoedd, afonydd, ffyrdd, coed, metalau a phobeth arall o wahanol rannau o'i gorff.
O Tsieina daw hanes dau o Ymerawdrwyr y Moroedd yn cyfarfod ag Ymerawdwr Anhrefn. Sylwodd y ddau nad oedd gan Ymerawdwr Anhrefn y 7 twll corfforol arferol, fel yr oedd ganddynt hwy, i weld, clywed, anadlu ayyb. Dyma fynd ati felly, fel ffafr iddo, i dorri'r cyfryw dyllau efo ebillion a drilau, un twll y dydd. Ond roedd yr holl dyllu'n ormod ac ar ddiwedd y seithfed dydd bu farw Ymerawdwr Anhrefn druan. Ac o'r eiliad honno fe ddaeth ein byd trefnus ni i fodolaeth.
Yn y frwydr ddi-derfyn rhwng trefn ac anhrefn disgrifia rhai mythau sut mae'r byd yn cael ei greu a'i ddinistrio'n gyson. I'r Hopi yn
Arizina
bu sawl byd, ond dinistriwyd y cynta gan
dân
, yr ail gan
rew
a'r trydydd gan
ddilyw
. Rydym yn awr yn y pedwerydd byd a bydd hwn yn dod i ben cyn bo hir.
Mae hyn yn debyg i syniad yr
Asteciaid
o greu a chwalu parhaus yn deillio o ffraeo rhwng pedwar mab y creawdwr. Gwaed aberth oedd yr unig beth gadwai byd yr Asteciaid rhag chwalu'n ôl i anhrefn.
Yn yr India gollyngodd y duw
Vishnu
lotus o'i fogail, ac ynddi y creawdwr
Brahma
. O fyfyrdod Brahma y creuwyd y byd cyntaf cyn i'r byd hwnnw ymdoddi yn ei ôl i anhrefn ac i fyd arall godi yn ei le. Erbyn hyn rydym yn y pedwerydd byd.
Er nad ydy'r traddodiad Groegaidd / Rhufeinig yn son am ddinistr y byd ar ddiwedd pob cylch, fe soniant am 5 oes, a phob oes yn gysylltiedig â phobol wahanol. Efallai bod cysylltiad yma â'r traddodiad Celtaidd a welwn ar ei fwyaf cyflawn yn stori 5 goresgyniad Iwerddon gan bump tylwyth chwedlonol cyn dyfodiad y Gwyddelod eu hunain.
Prin a gwasgaredig yw'r wybodaeth am stori'r creu yn ôl y
Derwyddon
. Fe esgeulusodd y mynachod a gofnododd yr hen chwedlau yn yr
Oesoedd Canol
wneud hynny am ryw reswm. Ond yn ôl haneswyr Rhufeinig ystyriai'r Derwyddon eu hunain yn gyfrifol am y creu a bod angen aberthu pobl yn flynyddol i gadarnhau ail-enedigaeth (neu ail-greu) yr haul yn rheolaidd. Roeddent hefyd yn credu mai'r modd y deuai'r byd i ben fyddai i'r awyr gwympo ar y ddaear!
Oxford English Dictionary
3rd ed.
"Gaia,
n.
" Oxford University Press (Oxford), 2007.
Borenstein, Seth (19 October 2015).
"Hints of life on what was thought to be desolate early Earth"
Excite
. Yonkers, NY:
Mindspark Interactive Network
Associated Press
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2016-08-18
. Cyrchwyd
2015-10-20
Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
Dalrymple, G. Brent (2001). "
The age of the Earth in the twentieth century: a problem (mostly) solved
".
Special Publications, Geological Society of London
190
(1): 205–221.
Bibcode
2001GSLSP.190..205D
doi
10.1144/GSL.SP.2001.190.01.14
ISSN
0305-8719
Manhesa, Gérard; Allègre, Claude J.; Dupréa, Bernard; Hamelin, Bruno (1980).
Lead isotope study of basic-ultrabasic layered complexes: Speculations about the age of the earth and primitive mantle characteristics
Earth and Planetary Science Letters
47
(3): 370–382.
Bibcode
1980E&PSL..47..370M
doi
10.1016/0012-821X(80)90024-2
Bowring, S.; Housh, T. (1995).
"The Earth's early evolution"
Science
269
(5230): 1535–40.
Bibcode
1995Sci...269.1535B
doi
10.1126/science.7667634
PMID
7667634
Zimmer, Carl
(3 Hydref 2013).
Earth's Oxygen: A Mystery Easy to Take for Granted
New York Times
. Cyrchwyd
3 Hydref
2013
Yoko Ohtomo, Takeshi Kakegawa, Akizumi Ishida, Toshiro Nagase, Minik T. Rosing (8 Rhagfyr 2013).
Evidence for biogenic graphite in early Archaean Isua metasedimentary rocks
Nature Geoscience
doi
10.1038/ngeo2025
. Cyrchwyd
9 Rhagfyr
2013
CS1 maint: uses authors parameter (
link
Comin Wikimedia
Wiciadur
Planedau yng Nghysawd yr Haul