Yr Almaen - Wicipedia
Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Yr Almaen
Bundesrepublik Deutschland
Arwyddair
Einigkeit und Recht und Freiheit
Math
gwladwriaeth sofran,
gwlad
Enwyd ar ôl
Germania
Alemanni
Sacsoniaid
Prwsia
, theodisk, estron, muteness
Prifddinas
Berlin
Dinas fwyaf
Berlin
Poblogaeth
83,577,140
Sefydlwyd
23 Mai 1949 (
Gorllewin yr Almaen
Anthem
Anthem Genedlaethol yr Almaen
Pennaeth llywodraeth
Friedrich Merz
Cylchfa amser
UTC+01:00, UTC+2
Nawddsant
Mihangel
Iaith/Ieithoedd
swyddogol
Almaeneg
Daearyddiaeth
Arwynebedd
357,587.77 km²
Gerllaw
Y Môr Baltig
Môr y Gogledd
Yn ffinio gyda
Denmarc
Gwlad Pwyl
Y Swistir
Ffrainc
Lwcsembwrg
Gwlad Belg
Yr Iseldiroedd
Awstria
Tsiecia
Cyfesurynnau
51°N 10°E
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredol
Cabinet Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Yr Almaen Ffederal
Corff deddfwriaethol
Bundesrat, Bundestag yr Almaen
Swydd pennaeth
y wladwriaeth
Arlywydd yr Almaen
Pennaeth y wladwriaeth
Frank-Walter Steinmeier
Swydd pennaeth
y Llywodraeth
Canghellor Ffederal
Pennaeth y Llywodraeth
Friedrich Merz
Ariannol
Cyfanswm CMC (
GDP
4,121,200 million €
Arian
Ewro
Canran y diwaith
6.1 canran
Cyfartaledd plant
1.455
Mynegai Datblygiad Dynol
0.942
Ffeiliau perthnasol ar Comin
golygwch ar Wicidata
Gweriniaeth Ffederal yr Almaen
neu'r
Almaen
Almaeneg
Bundesrepublik Deutschland
ynganiad Almaeneg
). Gweriniaeth ffederal yng nghanol
Ewrop
yw'r Almaen. Mae'n ffinio â
Môr y Gogledd
Denmarc
, a'r
Môr Baltig
(Almaeneg:
Ostsee
, sef Môr y Dwyrain) yn y gogledd,
Gweriniaeth Tsiec
Gwlad Pwyl
yn y dwyrain,
y Swistir
ac
Awstria
yn y de, a
Ffrainc
Lwcsembwrg
Gwlad Belg
a'r
Iseldiroedd
yn y gorllewin.
Berlin
yw'r
brifddinas
Ni chafwyd chwyldro Almaenig ond y mae’r modd yr ymatebodd y tiroedd Almaenig i her chwyldroadol
y Chwyldro Ffrengig
, gan addasu syniadau 1789, wedi llunio datblygiad gwleidyddol a chymdeithasol yr Almaen hyd at yr 20g.
Hanes
golygu
golygu cod
Prif:
Hanes yr Almaen
Y cofnod cyntaf a geir o hanes yr Almaen yw am nifer o lwythau Almaenig a oedd yn byw yn y diriogaeth sy'n awr yn wladwriaeth yr Almaen. Gorchfygwyd rhai o'r rhain gan y Rhufeiniaid, a daeth y rhannau i'r gorllewin o
Afon Rhein
yn rhan o'r
Ymerodraeth Rufeinig
. Bu'r Rhufeiniaid yn ymgyrchu tu hwnt i afon Rhein hefyd, ond ni lwyddasant i'w gwneud yn rhan o'r ymerodraeth. Yn
9 OC.
gorchfygwyd byddin Rufeinig dan
Publius Quinctilius Varus
gan gynghrair o lwythau Almaenig dan
Arminius
ym
Mrwydr Fforest Teutoburg
. Dinistriwyd tair
lleng Rufeinig
yn llwyr. Dilynwyd y frwydr gan saith mlynedd o ymladd, cyn i'r ffin gael ei sefydlogi ar hyd afon Rhein.
Sefydlwyd
yr Ymerodraeth Lân Rufeinig
yn y
9g
, a pharhaodd hyd
1806
. Yr Almaen oedd cnewyllyn yr ymerodraeth, er ei bod ar adegau yn cynnwys
Awstria
Slofenia
Gweriniaeth Tsiec
, gorllewin
Gwlad Pwyl
yr Iseldiroedd
, dwyrain
Ffrainc
y Swistir
a rhan o ogledd
yr Eidal
. Collwyd llawer o'r tiriogaethau hyn erbyn canol y
16g
, a daeth i'w galw yn "Ymerodraeth Lân Rufeinig y Genedl Almaenig".
Rhwng
1618
1648
, effeithiwyd yn fawr ar yr Almaen gan frwydrau'r
Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain
. Dechreuodd y rhyfel fel anghydfod crefyddol rhwng y
Protestaniaid
a'r
Catholigion
o fewn yr
Ymerodraeth Lân Rufeinig
. Yn raddol, tynnwyd y rhan fwyaf o wledydd Ewrop i mewn i'r ymladd, llawer ohonynt am resymau nad oedd yn gysylltiedig â chrefydd. Ymladdwyd y rhan fwyaf o'r brwydrau yng nghanolbarth Ewrop, yn enwedig yr Almaen. Gwneid llawer o ddefnydd o fyddinoedd o
hurfilwyr
, ac anrheithiwyd tiriogaethau eang ganddynt. Credir i boblogaeth y gwladwriaethau Almaenig ostwng o tua 30% yn ystod y rhyfel; yn
Brandenburg
roedd y colledion tua hanner y boblogaeth. Diweddodd y rhyfel gydag arwyddo Cytundeb Münster, rhan o
Heddwch Westphalia
Ffurfiwyd y
Conffederasiwn Almaenig
yn
1815
, yna ffurfiwyd
Ymerodraeth yr Almaen
yn
1871
, gydag
Otto von Bismarck
yn ffigwr allweddol. Daeth yr ymerodraeth i ben ar ddiwedd
y Rhyfel Byd Cyntaf
, a ffodd yr ymerawdwr
Wilhelm II
i'r Iseldiroedd.
Sefydlwyd
Gweriniaeth Weimar
yn
1919
, ond dilynwyd y rhyfel gan gyni mawr, a wnaed yn waeth gan y teimlad gan ran o'r boblogaeth o ddarostyngiad cenedlaethol oherwydd
Cytundeb Versailles
. Yn
1933
daeth
Adolf Hitler
yn Ganghellor. Daeth diwedd ar Weriniaeth Weimar a dechreuodd
y Drydedd Reich
. Arweiniodd hyn at
yr Ail Ryfel Byd
1939
1945
. Wedi i'r Almaen gael ei gorchfygu, rhannwyd y wlad yn ddwy,
Gorllewin yr Almaen
Dwyrain yr Almaen
. Parhaodd hyn hyd
1990
, pan adunwyd y wlad.
Daearyddiaeth
golygu
golygu cod
Prif:
Daearyddiaeth yr Almaen
Gwastadedd yw rhan helaeth o ogledd yr Almaen, rhan o
Wastadedd Canolbarth Ewrop
. Mae'r de yn llawer mwy mynyddig, yn enwedig yn yr Alpau, lle mae'r copa uchaf, y
Zugspitze
, yn cyrraedd 2,962 medr o uchder.
Ac eithrio
Afon Donaw
yn y de, mae
afonydd
yr Almaen yn llifo tua'r
Môr Tawch
a'r
Môr Baltig
, gan gynnwys
Afon Rhein
Afon Elbe
Afon Weser
ac
Afon Ems
, sy'n llifo tua'r gogledd. Y llyn mwyaf yw'r
Bodensee
, er nad ydyw yn ei gyfanrwydd yn gyfan gwbl o fewn ffiniau'r Almaen.
Gwleidyddiaeth
golygu
golygu cod
Prif:
Gwleidyddiaeth yr Almaen
Cysylltiadau tramor yr Almaen
Economi
golygu
golygu cod
Prif:
Economi'r Almaen
Demograffeg
golygu
golygu cod
Prif:
Demograffeg yr Almaen
Pyramid poblogaeth yr Almaen yng Nghyfrifiad 2000.
Poblogaeth yr Almaen 1961–2003 (Cyn 1990, poblogaeth Gorllewin a Dwyrain yr Almaen wedi eu cyfuno).
Amcangyfrif o nifer y mewnfudwyr i'r
Almaen
o wledydd eraill yn 2006. Yr Almaen oedd y 3ydd gwlad a gymerodd y mwyaf o drigolion o'r tu allan, gyda 12% o'r boblogaeth yn dal
pasport
gwlad arall.
Gyda phoblogaeth o tua 81,198,000 (Rhagfyr 2014), yr Almaen yw'r wlad fwyaf o ran poblogaeth sy'n gyfan gwbl o fewn
Ewrop
, a'r 14eg fwyaf poblog yn y byd. O'r rhain, mae tua 16 miliwn heb fod o dras Almaenig, gyda phobl o dras Dyrcaidd y mwyaf niferus o'r rhain, 1,713,551 yn
2007
. Nid yw'r boblogaeth yn cynyddu ar hyn o bryd.
Gelwir pedwar grŵp o bobl yn "lleiafrifoedd cenedlaethol", y
Daniaid
Frisiaid
Roma
Sinti
, a'r
Sorbiaid
. Wedi'r
Ail Ryfel Byd
, symudodd tua 14 miliwn o Almaenwyr ethnig i'r Almaen o Ddwyrain Ewrop, ac ers y
1960au
bu mewnfudo Almaenwyr ethnig o
Casachstan
Rwsia
a'r
Wcráin
. Er i'r rhan fwyaf o
Iddewon
yr Almaen gael eu llofruddio yn
yr Holocost
, mae'r niferoedd wedi cynyddu yn ddiweddar, gyda thros 200,000 wedi ymfudo i'r Almaen o Ddwyrain Ewrop ers
1991
Dinasoedd mwyaf yr Almaen, gyda ffigyrau poblogaeth ar gyfer Rhagfyr 2005, yw:
Berlin
– 3.4 miliwn,
Hamburg
– 1.75 miliwn,
München
– 1.3 miliwn,
Cwlen
Köln
) – 0.98 miliwn,
Frankfurt am Main
– 0.65 miliwn.
Crefydd
golygu
golygu cod
Y prif enwadau a chrefyddau yw:
Eglwys Gatholig
– 31.4%,
Eglwys Efengylaidd yr Almaen
– 30.8%,
Dim crefydd – 29.6%,
Islam
– 4%,
Eglwys Uniongred
– 2%.
Ceir y rhan fwyaf o Gatholigion yn y de-ddwyrain, yn ne
Bafaria
, ac yn ardal
Cwlen
, tra bo Protestaniaid yn fwyaf niferus yn y gogledd.
Taleithiau
golygu
golygu cod
Mae'r Almaen yn
weriniaeth
ffederal sy'n cynnwys 16 o daleithiau ffederal a elwir yn
Länder
(unigol:
Land
):
Baner
Talaith
Prifddinas
Arwynebedd
(km²)
Poblogaeth
Dwysder
poblogaeth
(EW/km²)
Baden-Württemberg
Stuttgart
35,752
10,736,000
300
Bafaria
München
70,552
12,469,000
177
Berlin
892
3,395,000
3,806
Brandenburg
Potsdam
29,479
2,559,000
87
Bremen
Bremen
404
663,000
1,641
Hamburg
755
1,744,000
2.309
Hessen
Wiesbaden
21,115
6,092,000
289
Mecklenburg-Vorpommern
Schwerin
23,180
1,707,000
74
Niedersachsen
Hannover
47,624
7,994,000
168
Nordrhein-Westfalen
Düsseldorf
34,085
18,058,000
530
Rheinland-Pfalz
Mainz
19,853
4,059,000
204
Saarland
Saarbrücken
2,569
1,050,000
409
Sachsen
Dresden
18,416
4,274,000
232
Sachsen-Anhalt
Magdeburg
20,446
2,470,000
121
Schleswig-Holstein
Kiel
15,799
2,833,000
179
Thüringen
Erfurt
16.172
2,335,000
144
Cyfanswm
357,114
82,438,000
231
Cyfeiriadau
golygu
golygu cod
"International Migration 2006"
(PDF)
. UN Department of Economic and Social Affairs
. Cyrchwyd
18 Mawrth
2011
gw
sg
go
Aelod-wladwriaethau yr Undeb Ewropeaidd
Yr Almaen
Awstria
Bwlgaria
Croatia
Cyprus
Denmarc
Yr Eidal
Estonia
Y Ffindir
Ffrainc
Gwlad Belg
Gwlad Groeg
Gwlad Pwyl
Hwngari
Yr Iseldiroedd
Gweriniaeth Iwerddon
Latfia
Lithwania
Lwcsembwrg
Malta
Portiwgal
Rwmania
Sbaen
Slofacia
Slofenia
Sweden
Tsiecia
gw
sg
go
Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO)
Aelodau
Albania
Yr Almaen
Gwlad Belg
Bwlgaria
Canada
Croatia
Denmarc
Yr Eidal
Estonia
Y Ffindir
Ffrainc
Hwngari
Gogledd Macedonia
Gwlad Groeg
Gwlad yr Iâ
Yr Iseldiroedd
Latfia
Lithwania
Lwcsembwrg
Montenegro
Norwy
Portiwgal
Gwlad Pwyl
Rwmania
Sbaen
Slofacia
Slofenia
Sweden
Y Deyrnas Unedig
Tsiecia
Twrci
Unol Daleithiau
Ymgeiswyr
Bosnia a Hertsegofina
Georgia
Wcráin
gw
sg
go
G8
Aelodau arhosol
Yr Almaen
Canada
Y Deyrnas Unedig
Yr Eidal
Ffrainc
Japan
Rwsia
Unol Daleithiau
Cynrychiolaethau ychwanegol
Yr Undeb Ewropeaidd
Wiciadur
Chwiliwch am
Yr Almaen
yn
Wiciadur
Wedi dod o "
Categorïau
Yr Almaen
Aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig
Aelod-wladwriaethau Cyngor Ewrop
Aelod-wladwriaethau NATO
Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd
Canolbarth Ewrop
Gorllewin Ewrop
Gweriniaethau ffederal
Gwledydd a thiriogaethau Almaeneg
Gwledydd Ewrop
Categorïau cudd:
Erthyglau sy'n defnyddio Nodyn Gwybodlen lle Wicidata
Erthyglau microfformat hAudio
Pages using the Kartographer extension
Yr Almaen
Ychwanegu pwnc